Fforest Paimpont
Coedwig yn nwyrain Llydaw yw Fforest Paimpont. Dan ei hen enw, Fforest Broseliawnd (Llydaweg: Breselien, Ffrangeg: Forêt de Brocéliande) mae ganddi le pwysig yn y chwedlau o'r Canol Oesoedd am Arthur a'i gylch.
Y goedwig rhwng Val sans Retour a Miroir aux fées | |
Math | coedwig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | il-ha-Gwilen, Mor-Bihan, Aodoù-an-Arvor |
Gwlad | Llydaw Ffrainc |
Arwynebedd | 9,000 ha |
Cyfesurynnau | 48.02°N 2.17°W, 48.03333°N 2.16667°W |
Perchnogaeth | Donatien Levesque |
Saif y goedwig, sydd tua 7,000 hectar o faint, tua 30 km i'r de-orllewin o ddinas Roazhon, o gwmpas pentref Paimpont. Yn y Canol Oesodd roedd yn llawer mwy. Mae'r rhan fwyaf ohoni yn eiddo preifat, er bod un rhan yn y gogledd-ddwyrain yn eiddo'r Swyddfa Goedwigaeth Genedlaethol.
Ceir llawer o gyfeiriadau at Fforest Broseliawnd yn y chwedlau Arthuraidd. Yma y lleolodd Chrétien de Troyes ei chwedl Yvain, a dywedir i'r dewin Myrddin gael ei garcharu yma, a'i fod wedi ei gladdu yn y fforest. Yn chwedl Trystan ac Esyllt, i Fforest Broseliawnd y mae'r cariadon yn ffoi. Y fforest yw testun cerdd T. Gwynn Jones, Broseliawnd.