Calvert Jones
Roedd Calvert Richard Jones (4 Rhagfyr 1804 – 7 Tachwedd 1877) yn enedigol o Abertawe ac yn ffotograffydd, yn fathemategydd ac yn arlunydd a arbenigai mewn tirluniau o'r arfordir. Dywedir mai ef oedd y cyntaf i dynnu llun 'ffotograff' yng Nghymru: math 'Daguerreotype' a hynny o Gastell Margam yn 1841. Roedd hefyd yn arlunydd dyfrlliw medrus ac y mae ei waith yn dangos 'teimlad cryf am liw a ffurf' yn ôl Iwan Meical Jones.
Calvert Jones | |
---|---|
Calvert Richard Jones, yr Arglwyddes Brewster, Mrs Jones, Syr David Brewster a Miss Parnell (yn eistedd) | |
Ganwyd | 4 Rhagfyr 1804 Abertawe |
Bu farw | 7 Tachwedd 1877, Rhagfyr 1877 Caerfaddon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffotograffydd, arlunydd |
Tad | Calvert Richard Jones |
Mam | Prudence Mansell |
Priod | Anne Harriet Williams, Portia Jane Smith |
Plant | Christina Henrietta Victoria Games Jones, Isabella Louisa Calvert Jones, Georgiana Alethea Calvert Jones |
Roedd ei rieni'n gyfoethog iawn, ac yn hanu o Abertawe. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Eton ac yng Ngholeg Oriel, Rhydychen lle graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn mathemateg. Wedi gadael y coleg, aeth yn rheithor yng Gasllwchwr ac yn y Rhath am gyfnod. Roedd yn gyfaill i John Dillwyn Llewelyn y botanegydd a'r ffotograffydd cynnar; cyfaill arall iddo o'i ddyddiau coleg oedd Christopher Rice Mansel Talbot, etifedd ystad fawr Margam a Phen-rhys. Drwy'r cyfeillgarwch hwn y daeth i wybod am ddarganfyddiadau eu cefnder William Henry Fox Talbot o Abaty Lacock, Wiltshire, dyfeisiwr y dull positif-negatif o wneud ffotograff.[1]
Ffotograffiaeth
golyguGan nad oedd proses Talbot wedi'i berffeithio, trodd yn gyntaf at y dull daguerrotype gan berffeithio'r grefft erbyn 1841. Drwy'r 1840au cydweithiodd gyda Talbot a chyda Ffrancwyr fel Hippolyte Bayard a bu'n ddolen gyswllt anhepgor rhwng arloeswyr Ffrainc a gwledydd Prydain. Erbyn 1846 yr oedd wedi troi at broses calotype Talbot. A dyma'i waith mwyaf nodedig, y ffotograffau calotype a dynnodd ddiwedd yr 1840au ar Ynys Malta, yn yr Eidal ac o gwmpas gwledydd Prydain. Danfonai'r negyddion at Talbot i'w hargraffu a'u gwerthu.[1]
Ewrop ac yn ôl
golyguTeithiodd yn helaeth, gan gynnwys Ffrainc a'r Eidal gan ddatblygu techneg ei hun i greu llun ar ffurf panorama. Ymddiddorai hefyd mewn cerddoriaeth.
Yn 1847 etifeddodd llawer o diroedd ac Ystad Heathfield yn ardal Abertawe yn 1847 a dychwelodd adref. Adeiladodd strydoedd yng nghanol y ddinas, gan goffáu ei hanner brawd yn enw "Stryd Mansel" a'i ail wraig yn enw "Stryd Portia". Gadawodd Abertawe yn 1853 a byw ym Mrwsel.
Bu iddo un ferch o'i briodas gyntaf a dwy o'r ail briodas â Portia.
Marwolaeth
golyguEnwyd 'Stryd Mansel' ar ôl ei frawd. Symudodd i Frwsel yn 1853 ac yna i Gaerfaddon lle bu farw ar 7 Tachwedd 1877. Yng nghapel y teulu yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe, fodd bynnag, y cafodd ei gladdu, cyn difa'r eglwys yn llwyr yn yr Ail Ryfel Byd.
Darllen pellach
golygu- Rollin Buckman, The photographic work of Calvert Richard Jones, Llundain, 1990 ( 1990 )
- Adran Llawysgrifau LlGC
- MSS 2.839 Caerdydd (achau teuluol)
- Casgliad Abaty Lacock
- Bath City Reference Library MSS 1010-1012 (dyddiadur ei wraig gyntaf)
- I. M. Jones, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1990, 117-72.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 ['Y Bywgraffiadur Cymraeg Arlein'; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.