Ffrydlys y gors
Ffrydlys y gors Pellia neesiana | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Pelliales |
Teulu: | Pelliaceae |
Genws: | Pellia |
Rhywogaeth: | P. neesiana |
Enw deuenwol | |
Pellia neesiana |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Ffrydlys y gors (enw gwyddonol: Pellia neesiana; enw Saesneg: Nees' pellia). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Pelliales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.
Yn wahanol i P. epiphylla, mae Ffrydlys y gors (P. neesiana) yn cynnwys planhigion gwrywaidd a benywaidd ar wahân. Weithiau dim ond thalli o un rhyw a geir.
Tyf Ffrydlys y gors ar dir asidig mewn ffosydd, glaswelltir gwlyb, corsydd, coetir gwlyb ac ar lannau creigiog a glannau afonydd. Mae weithiau'n tyfu ar lwybrau o raean mewn coedwig.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.