Ffullyn cotwm

ffullyn bychan o gotwm ar ffon blastig neu bren ar gyfer glanhau'r corff neu pheiriannau

Mae ffullyn cotwm (hefyd bydiau cotwm[1]) fel rheol yn belen bychan tynn o gwlân cotwm sydd ynghlwm wrth ffon bren neu blastig. Dyfeisiwyd y ffullyn [2] cotwm ym 1923 gan yr Americanwr o dras Pwyleg, Leo Gerstenzang.[3] Byddai'n arsylwi sut roedd ei wraig yn cau bwa cotwm ar ddiwedd pigyn dannedd ar gyfer glanhau ei plentyn. Sefydlodd Gerstenzang y "Infvel Novelty Company" i lansio ei arloesedd, a newidiodd yr enw ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn "Q-tips".

Ffullyn cotwm
Mathpersonal hygiene item Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Blwch o Ffullon Cotwm
Cŵyr ar Ffullyn Cotwm
Ffullyn cotwm a ddefnyddir i gasglu sampl DNA gan ddarpar rhoddwr mêr esgyrn

Defnydd golygu

Yn nodweddiadol, defnyddir ffullyn cotwm i daenu hylif neu eli ar y croen (er enghraifft, diheintydd ar glwyf), i gymryd sampl poer (sampl DNA), neu i lanhau rhai ardaloedd anodd eu cyrraedd yn y corff (tu fewn y glust) neu rhannau cyfung o fewn peiriant neu declyn. Mae'r ddyfais yn un hylaw iawn ar gyfer glanhau pob math o ddefnyddiau bob dydd.[4]

Glanhau clustiau golygu

Defnyddir ffullon cotwm hefyd i lanhau'r clustiau. Fodd bynnag, nid yw meddygon yn argymell hyn, oherwydd bod y glust yn organ hunan-lanhau a gall ffullyn cotwm wthio'r cwyr yn bellach fewn i'r glust, a all arwain at lid. Yn ogystal, mae risg o niweidio neu dyllu'r clust yn enwedig drwm y glust â ffullyn cotwm, a all hyd yn oed fygwth bywyd.[5]

Gwahardd y ffullyn cotwm golygu

Nodwyd peryglon ffullynau cotwm nid yn unig i ddrwm y glust ond hefyd i amgylchedd oherwydd nad ffyn plastig yw'n fioddiraddwy a hefyd bod casgliad ohonynt yn aml yn cael eu gwaredu lawr toiled neu drwy ffosydd ac yn ychwanegu at greu dom saim sy'n achosi difrod anferthol i systemau carthffosiaeth ar draws y byd, gan gynnwys Cymru.

Cafwyd ymgyrchoedd i hysbysu pobl o beryglon y ffullynau cotwm gan fudiadau ymgyrchu ac ar y rhyngrwyd. Maent yn aml yn pwysleisio niwed y ffullyn cotwm i'r moroedd lle mae cymaint yn llifo wedi defnydd bersonol neu ddiwydiannol.[6]

Ym mis Mai 2019 cyhoeddodd Michael Gove, Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth San Steffan, y byddai ffullynau cotwm (ynghŷd â gwellt yfed a troellwyr diod plastic) yn cael eu gwahardd yn y Lloegr ym mis Ebrill 2020.[7]

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru am wahardd ffullynau cotwm a deunydd plastig untro helaethach megis cynhwyswyr neu flychau bwyd a diolch wedi eu gwneud o polystyren yng Nghymru, gan ddilyn canllawiau'r Undeb Ewropeaidd fel mae Llywodraeth yr Alban.[8] Y deunydd sydd i'w gwahardd yw:

  • gwellt yfed
  • troellwyr diod
  • ffullyn cotwm
  • ffyn balŵn
  • platiau a chytleri
  • cynwysyddion bwyd a diod wedi’u gwneud o bolystyren wedi’i ehangu,
  • cynnyrch wedi’i wneud o blastig oxo-bioddiraddiadwy; megis rhai mathau o fagiau siopa [1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 https://llyw.cymru/gwahardd-y-defnydd-o-blastig-untro-yng-nghymru
  2. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?ffullyn
  3. Cotton swab at Encyclopedia.com
  4. https://www.youtube.com/watch?v=btHid6ShiQE
  5. https://web.archive.org/web/20081201060715/http://www.cbc.ca/canada/story/2008/02/06/swab-warning.html
  6. https://www.youtube.com/watch?v=5RhK9lUuyqg
  7. https://www.walesonline.co.uk/news/uk-news/plastic-straws-stirrers-cotton-buds-16311662
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-09. Cyrchwyd 2020-07-09.

Dolenni allanol golygu

Eginyn erthygl sydd uchod am yr amgylchedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato