Bioddiraddio

y broses o ddiraddio (torri lawr yn llai) deunydd organig gan ficro-organebau

Bioddiraddio (hefyd biodiraddio) yw'r broses o ddiraddio (torri lawr yn llai) deunydd organig gan ficro-organebau, fel bacteria a ffyngau.[1][2] Disgrifia Geiriadur Prifysgol Cymru y weithred fel "Y gall bacteria neu organebau byw eraill ei ddadelfennu gan osgoi llygredd (am sylwedd neu wrthrych)". Nodwyd i'r term gael ei chofnodi gyntaf yn y Gymreg yn 1990.[3]

Ffilm tomwellt cyfuniad asid polylactig sydd wedi pydru'n rhannol

Proses

golygu

Mae Bioddiraddio yn disgrifio'r broses o ddiraddio (neu drawsnewid yn sylweddau symlach) sylweddau organig trwy weithred ensymau a gynhyrchir gan ficro-organebau. Gellir gwneud y broses hon:

  • Bioddiraddio Aerobig - ym mhresenoldeb ocsigen a'r organebau sy'n achosi aerobeg iddo.
  • Bioddiraddio anaerobig - yn absenoldeb ocsigen a'r organebau sy'n ei achosi anaerobig.

Mae'r diddordeb mewn bioddiraddio llygryddion wedi dwysáu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oherwydd bod pobl yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i ddulliau cynaliadwy i lanhau amgylcheddau llygredig. Mae'r dulliau hyn o biodrawsffurfio a bioremediation yn ymdrechu i ddefnyddio amrywiaeth catabolaidd naturiol anhygoel meicro-organebau i ddiraddio, trawsnewid neu gronni llawer iawn o gyfansoddion gan gynnwys hydrocarbonau (petroliwm), polycloridau deuffenyl (PCBs), hydrocarbonau aromatig, fferyllol, radioniwclidau a metelau.

  • Bioremediation - mae bioremediation yn gangen o biodechnoleg sy'n defnyddio organebau byw fel meicrobau and bacteria to leihau neu dileu halogion, llygryddion, a thocsinau o bridd a dŵr. Gellir defnyddio bio-gyfryngu i lanhau problemau amgylcheddol fel gollyngiadau olew, neu ddŵr daear halogedig.[4]
  • Biodrawsffurfiad - (Saesneg: Biotransformation) Biotransformation yw'r addasiad cemegol (neu'r addasiadau) a wneir gan organeb ar gyfansoddyn cemegol. Mae biodrawsffurfiad o wahanol llygryddion yn ffordd gynaliadwy i lanhau amgylcheddau halogedig.[5]

Defnydd bioddiraddio

golygu

Y defnydd mwyaf poblogaidd o fioddiraddio gan bobl yw hidlwyr brys mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff biolegol a phyllau biolegol a ddefnyddir i drin gwastraff eplesu (e.e. o ffatrïoedd siwgr). Mae angen sicrhau amodau priodol ar gyfer micro-organebau bioddiraddadwy. Dylai'r tymheredd priodol gael ei gynnal a symud sylweddau sy'n wenwynig i fioddiraddwyr (e.e. glanedyddion, plaladdwyr) o ddŵr gwastraff.

Fe'i defnyddir hefyd mewn safleoedd tirlenwi,[6] wrth gynhyrchu bionwy o wastraff a charthffosiaeth, bwydo biomas o garthffosiaeth a phlaladdwyr toddadwy dŵr mewn pecynnu sy'n dueddol o gael ei bioddiraddio.

Fframiau amser ar gyfer bioddiraddio deunyddiau cyffredin

golygu
Amser dadelfennu mewn amgylchedd morol[7]
Eitem Cyfnod bioddiraddio
Papur tŷ bach 2–4 wythnos
Papur newydd 6 wythnos
Croen afal 2 mis
Bocs Cardfwrdd 2 mis
Carton llaeth 3 mis
Menyg Cotwm 1–5 mis
Menyg Gwlân 1 mlynedd
Pren haenog (plywood) 1–3 mlynedd
Pren paentiedig 13 mlynedd
Cwdyn blastig 10–20 mlynedd
Can tun 50 mlynedd
Cewyn untro 50–100 mlynedd
Potel blastig 100 mlynedd
Can alwminiwm 200 mlynedd
Potel wydr Diderfyn
Amser dadelfennu mewn amgylchedd daearol[8]
Eitem Cyfnod bioddiraddio
Llysiau 5 dydd - 1 mis
Papur 2–5 mis
Crys-T Cotwm 6 mis
Croen Oren 6 mis
Dail coed 1 mlynedd
Sannau Gwlân 1–5 mlynedd
Carton llaeth 5 mlynedd
Esgidiau Lledr 25–40 mlynedd
Hances Nylon 30–40 mlynedd
Can tun 50–100 mlynedd
Can alwminiwm 80–100 mlynedd
Polystyren Mwy na 500 mlynedd
Cwdyn blastig Mwy na 500 mlynedd
Potel wydr 1 miliwn mlynedd

Bioddiraddio a Chymru

golygu

Mae Senedd Cymru wedi trafod pwysigrwydd creu prosesau i ddiraddio deunydd a'r angen i dorri ar y defnydd o nwyddau a deunyddiau nad sy'n bioddiraddadwy (megis plastig).

Cafwyd adroddiad ar ddelio gyda llygredd gan olew ym mhorthladd a phurfa Olew Aberdaugleddau yn 2019.[9]

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leo Llywodraeth Cymru am wahardd ffullynau cotwm a deunydd plastig untro helaethach megis cynhwyswyr neu flychau bwyd a diolch wedi eu gwneud o polystyren yng Nghymru, gan ddilyn canllawiau'r Undeb Ewropeaidd fel mae Llywodraeth yr Alban.[10]

Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddwyd fideo ar Hansh, S4C gan Nia Jones, gwyddonydd morol ym Mhrifysgol Bangor ar beryglon Meicroblastig yn y môr gan nad yw'n dioddiraddio.[11]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Terminology for biorelated polymers and applications (IUPAC Recommendations 2012)". Pure and Applied Chemistry 84 (2): 377–410. 2012. doi:10.1351/PAC-REC-10-12-04.
  2. "Biodegradation". AccessScience. doi:10.1036/1097-8542.422025.
  3. http://welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html?bioddiraddadwy
  4. https://www.investopedia.com/terms/b/bioremediation.asp
  5. Diaz E (editor). (2008). Microbial Biodegradation: Genomics and Molecular Biology (arg. 1st). Caister Academic Press. ISBN 978-1-904455-17-2.
  6. https://naturalresourceswales.gov.uk/about-us/what-we-do/waste/landfill-allowance-scheme/?lang=cy
  7. "Marine Debris Biodegradation Time Line" Archifwyd 2011-11-05 yn y Peiriant Wayback. C-MORE, citing Mote Marine Laboratory, 1993.
  8. Nodyn:Lien web
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-10. Cyrchwyd 2020-07-10.
  10. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-09. Cyrchwyd 2020-07-10.
  11. https://www.youtube.com/watch?v=0ww4gftj2GA

Dolenni allanol

golygu