Ffynnon Cegin Arthur
Lleolir Ffynnon Cegin Arthur ym mhlwyf Llanddeiniolen yn Arfon, Gwynedd. Saif ar dir fferm Yr Hendref tua milltir i'r de-ddwyrain o bentref Llanddeiniolen. Ers canrifoedd lawer mae pobl wedi credu fod gan ddŵr y ffynnon hon rinweddau iachaol ac mae ei henw yn ei chysylltu â'r Brenin Arthur.
Math | ffynnon |
---|---|
Enwyd ar ôl | y Brenin Arthur |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.161222°N 4.161985°W |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Yn ôl y traddodiad, fe'i gelwir yn Ffynnon Cegin Arthur am fod pobl yn credu mai braster cig hydd oedd yr irad sy'n nofio ar wyneb y dŵr, a'i fod yn cael ei ddwyn yno gan y ffrydiau oedd yn rhedeg trwy gegin llys Arthur.[1] Yn y 19g, cofnodwyd i fochyn gael ei iachau trwy yfed dŵr y ffynnon.[2] Codwyd ymdrochdy ('spa house') ger y ffynnon ar gyfer ymwelwyr yn y 19g; mae'n adfail erbyn hyn.
Mae'r ffynnon yn gorwedd mewn ardal lle ceir nifer o olion o'r cyfnodau cynhanesyddol, yn cynnwys bryngaer Dinorwig, tua hanner milltir i'r gogledd-orllewin. Hefyd yn yr ardal, ceir Carnedd Glyn Arthur - cylch cerrig o Oes Newydd y Cerrig.
Mewn llenyddiaeth
golyguMae'r is-deitl "Ar y gaer uwch Ffynnon Gegin Arthur" yn ymddangos ar y soned Ymson Ynghylch Amser gan Robert Williams Parry, sy'n cyfeirio at y Mabinogi yn ogystal â chwedl Arthur:
Yma bu Arthur, yma bu Arthur dro,
Yn torri syched hafddydd ar ryw rawd;
Ac odid na ddaeth Gwydion heibio ar ffo:
Ni ddaw ddim eto, na Gilfaethwy'i frawd.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ John Jones (Myrddin Fardd), Llên Gwerin Sir Gaernarfon (Caernarfon), tud. 170.
- ↑ Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954, argraffiad newydd 1992), tud. 107.
- ↑ "Y Llenor cylchgrawn chwarterol dan nawdd cymdeithasau Cymraeg y colegau cenedlaethol. | Cyf. 17, Rh. 1-4 | 1938 | Welsh Journals - The National Library of Wales". journals.library.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-08.