Ffynnon Lloer

llyn yng Nghymru

Mae Ffynnon Lloer yn llyn o tua 6 acer ym mynyddoedd y Carneddau yn Eryri. Mae yn Sir Conwy ac yn gorwedd yng Nghwm Lloer i'r dwyrain o gopa Pen yr Ole Wen ac i'r de o gopa Carnedd Dafydd. Ceir pysgota da yno am frithyll, ac er fod y llyn yn un uchel, 2225 troedfedd uwch lefel y môr, ceir pysgota da yno yn gynnar iawn yn y tymor.

Ffynnon Lloer
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCapel Curig Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1392°N 4.0011°W Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Gellir gweld gweddillion dwy awyren a faluriwyd ar y llethrau uwchben y llyn yn 1942 a 1943. Mae Afon Lloer yn llifo allan o'r llyn i ddisgyn dros dir garw i mewn i ben dwyreiniol Llyn Ogwen. Gellir cyrraedd Ffynnon Lloer trwy ddilyn llwybr syrth o ffermdy Tal-y-llyn Ogwen hyd lan yr afon honno.

Ffynnon Lloer, gyda Pen yr Ole Wen tu ôl.