Ffynnon Santes Wenfaen
Mae ffynnon Wenfaen wedi ei lleoli yn Rhoscolyn ar Ynys Môn. Gwelir y ffynnon rhyw hanner milltir o'r eglwys. Mae'r eglwys uwchben y môr ar lethr orllewinol Porth Gwalch. Mae'r ffynnon mewn cyflwr da hyd heddiw ac llwybr cerrig yn arwain ati. Llifa'r dŵr ohoni i'r môr ym Mhorth y Saint.
Math o gyfrwng | ffynnon sanctaidd |
---|---|
Rhan o | Rhestr Henebion Cofrestredig Ynys Môn |
Lleoliad | Rhoscolyn |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Rhoscolyn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
"Llanwenfaen" oedd yr enw gwreiddiol ar Rhoscolyn. Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Santes Gwenfaen. Tad Gwenfaen oedd Pawl Hen ac roedd hi'n chwaer i Peulan a Gwyngeneu. Yn ôl traddodiad roedd angen offrymu dwy garreg cwarts wen i Wenfaen. Mae enw'r santes (Gwenfaen) yn gyfystyr a charreg wen – gwen faen.[1]
Lewis Morris
golyguEnw adnabyddus sydd â chysylltiadau efo'r ffynnon oedd y llenor a'r hynafiaethydd Lewis Morris. Priododd Elin Griffith, Tŷ Wildrin, Rhoscolyn yn 1729 ac roedd ei chartref hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r ffynnon. Roedd Morris yn gyfarwydd â holl draddodiadau a hanesion y ffynnon. Yn ei gerdd The Sacred Well of Gwenfaen, Rhoscolyn mae'r awdur yn sôn am ddwr y ffynnon a'i effeithiau. Roedd pobol yn dod at y ffynnon i wella o'u hafiechydon meddyliol. Ysgrifennodd Morris ei fod ef ei hun wedi ymweld â'r ffynnon arbennig hon.
“ | Full oft have I repaired to drink that spring waters which cure diseases of the soul as well as body, and which always prove the only remedy for want of sense. | ” |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Ffynhonnau Cymru - Cyfrol 2 - Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn (Llyfrau Llafar Gwlad 43)