Gwenfaen
Gwenfaen | |
---|---|
Ganwyd | 6 g Ynys Môn |
Man preswyl | Llanfair-yn-Neubwll, Llanfihangel-yn-Nhywyn, Rhoscolyn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Blodeuodd | 550 |
Dydd gŵyl | 4 Tachwedd |
Tad | Peulin |
Hanes a thraddodiad
golyguDywedir bod Gwenfaen yn ferch i Pawl Hen a (Peulin) ac iddi sefydlu cymuned Gristnogol yn Rhoscolyn yn y 6g. Gŵr 'o Fanaw' oedd ei thad, a dywedir iddo symud o Reged (Cumbria) i Ynys Manaw ac mai yno y ganed Gwenfaen.[1]
Chwedl
golyguCeir chwedl sy'n adrodd fel y cafodd Gwenfaen ei hymlid o'i chell gan y derwyddon ac iddi ddianc o'u gafael trwy ddringo craig ar yr arfordir ger Rhoscolyn. Daeth y llanw i mewn i rwystro'r derwyddon a chafodd Gwenfaen ei dwyn ymaith gan angylion.[2]
Cysegriadau
golyguYr unig eglwys a gysylltir â'r santes hon yw eglwys plwyf Rhoscolyn ar Ynys Gybi, Ynys Môn. Ceir Ffynnon Wenfaen ger yr eglwys. Roedd ganddi enw am iacháu pobl yn dioddef o salwch meddwl. Cysgodir y ffynnon sanctaidd gan adeilad bychan gyda dwy sedd o garreg wrth y ffynnon ei hun. Arferai pobl daflu dwy garreg wen i'r ffynnon i gael eu gwella; arfer sy'n adlewyrchu ystyr amlwg yr enw 'Gwenfaen' (ond sylwer bod gwen yn gallu golygu 'sanctaidd' hefyd.[1] Ar un adeg roedd Eglwys Wenfaen yn lle o bwys ym mywyd crefyddol yr ynys. Roedd ganddi gapeli perthynol yn Llanfair-yn-Neubwll a Llanfihangel-yn-Nhywyn. Cofnodir 'Llanwenfaen' fel hen enw Rhoscolyn.[2]
Mae ei henw anghyffredin yn awgrymu tarddiad yng nghrefydd y Celtiaid efallai. Mae ei Gwylmabsant ar y 4ydd a'r 5ed o Dachwedd.
Gweler hefyd
golyguDylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"
- Rhestr o seintiau Cymru
- Ysgol Gwenfaen, Rhoscolyn
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
- ↑ 2.0 2.1 SaintGwenfaen.org[dolen farw]
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan Eglwys Gwenfaen Sant Archifwyd 2009-05-03 yn y Peiriant Wayback