Rhoscolyn

cymuned ar Ynys Môn

Pentref bychan a chymuned ar Ynys Gybi, Ynys Môn, yw Rhoscolyn. Fe'i lleolir ychydig dros bum milltir i’r de o Gaergybi, yn y rhan mwyaf deheuol o Ynys Cybi. Ffurfia ran ddeheuol Ynys Gybi ac mae'n cynnwys pentref Pontrhydybont yn ogystal â Rhoscolyn ei hun. Sefydlwyd un o fadau achub cyntaf Ynys Môn yma tua 1830. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 484 ac yn 2011 roedd yn 542.

Rhoscolyn
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.25°N 4.6°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000034 Edit this on Wikidata
Cod OSSH2761776383 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Ceir Eglwys y Santes Gwenfaen yn Rhoscolyn, eglwys a sefydlwyd yn wreiddiol yn 630, ond a ailadeiladwyd yn Eglwys yn 1870. Dywedir mai 'Llanwenfaen' oedd yr hen enw am Roscolyn ei hun.[1] Enwir yr ysgol gynradd leol yn Ysgol Gwenfaen ar ei hôl.

Ganwyd y paffiwr Atholl Oakeley yn Rhoscolyn yn 1900.

Mae'r ysgol gynradd ychydig dros milltir or pentref.

Ar y pentir yn Rhoscolyn, mae yna dwll enfawr a chanoedd o flynyddoedd yn ôl, lle profwyd pobl a oedd dan amheuaeth o fod yn euog o drosedd. Gwneid iddynt neidio dros y twll, ac os llwyddid, yna cant fynd adref. Os methid, yna cant eu carcharu.

Gallwch gerdded y llwybr arfordirol a mynd i draethau hyfryd ar yr arfordir.

Capel Seion, Rhoscolyn


Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Rhoscolyn (pob oed) (542)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhoscolyn) (248)
  
46.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhoscolyn) (323)
  
59.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Rhoscolyn) (102)
  
42.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Gwilym T. (1996). Enwau lleoedd Môn = The place-names of Anglesey. Prys, Delyth., Roberts, Tomos., Anglesey (Wales). County Council., University College of North Wales. Research Centre Wales. [Llangefni]: Cyngor Sir Ynys Môn. ISBN 0-904567-71-0. OCLC 37301308.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.