Francisco Suárez

(Ailgyfeiriad o Francisco Suarez)

Diwinydd Catholig ac athronydd gwleidyddol o Sbaen oedd Francisco Suárez (5 Ionawr 154825 Medi 1617). Efe oedd un o brif feddylwyr y Gwrth-Ddiwygiad, ac ymdriniasai ei waith â phynciau'r ddeddf naturiol, hawliau dynol, sofraniaeth, a brenhiniaeth. Yn ei ysgrifau ceir cyfraniad pwysig at athroniaeth y gyfraith a datblygiad cynnar cyfraith ryngwladol. Tynna llawer o'i waith ar ddysgeidiaeth Sant Tomos o Acwin, ac os Tomos oedd y cyntaf a'r pwysicaf o'r athronwyr ysgolaidd gellir ystyried Suárez yn yr olaf o'r traddodiad hwnnw ac olynydd mwyaf y Brawd Du o Acwin.

Francisco Suárez
Ganwyd5 Ionawr 1548 Edit this on Wikidata
Granada Edit this on Wikidata
Bu farw25 Medi 1617 Edit this on Wikidata
Lisbon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Salamanca Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, athronydd, cyfreithegwr, academydd, offeiriad Catholig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Coimbra
  • Prifysgol Salamanca Edit this on Wikidata
MudiadSchool of Salamanca Edit this on Wikidata

Roedd Suárez yn awdur hynod o doreithiog, a seiliai'r mwyafrif o'i gyhoeddiadau ar ei ddarlithoedd. Fe'i ystyrir yn ysgolhaig hyddysg a manwl yn ei ddadleuon. Ymhlith ei brif weithiau mae sylwebaeth mewn pum cyfrol ar y Summa Theologica gan Domos o Acwin (1590–1603), Disputationes Metaphysicae (2 chyfrol, 1597), De Legibus (1612), a De Divina Gratia (cyhoeddwyd yn 1620 wedi ei farw).

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd yn Granada yn fab i gyfreithiwr cefnog. Cafodd ei addysg yn y gyfraith ganonaidd yn Salamanca o 1561 i 1564, pryd ymunodd â'r Iesuwyr. Fe barhaodd i astudio diwinyddiaeth ac athroniaeth ar ben ei hun. O 1571 i 1580 fe addysgai diwinyddiaeth yng ngholegau'r Iesuwyr yn Ávila, Segovia, a Valladolid. Aeth i Rufain yn 1580 i addysgu yn y Coleg Rhufeinig am bum mlynedd. Dychwelodd i Sbaen yn 1585 i addysgu yn Alcalá a Salamanca. Fe gafodd ei benodi'n athro gan y Brenin Felipe II yn 1593, ac enillodd doethuriaeth o Évora yn 1597. Y flwyddyn honno, fe'i benodwyd i'r broffesoriaeth ddiwinyddol ym Mhrifysgol Coimbra ym Mhortiwgal, a daliai'r swydd honno hyd 1616. Bu farw yn Coimbra yn 69 oed.

Darllen pellach

golygu
  • J.H. Fichter, Man of Spain (1940).
  • Thomas U. Mullaney, Suárez on Human Freedom (1950).
  • Reijo Wilenius, The Social and Political Theory of Francisco Suárez (Helsinki: 1963).