Franz Anton Mesmer

(Ailgyfeiriad o Franz Mesmer)

Meddyg o'r Almaen oedd Franz Anton Mesmer (23 Mai 17345 Mawrth 1815) sydd yn nodedig am ddamcaniaethu magnetedd anifeilaidd (mesmeriaeth).[1]

Franz Anton Mesmer
Franz Anton Mesmer
GanwydFranciscus Antonius Mesmer Edit this on Wikidata
23 Mai 1734 Edit this on Wikidata
Iznang Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mawrth 1815 Edit this on Wikidata
Meersburg Edit this on Wikidata
Man preswylParis, Fienna, Frauenfeld Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
AddysgMeddyg Meddygaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmeddyg, magnetizer, seryddwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Society of Universal Harmony Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadMaximilian Hell Edit this on Wikidata
TadAnton Mesmer Edit this on Wikidata
MamMaria Ursula Mesmer Edit this on Wikidata
PriodAnna Maria von Posch Edit this on Wikidata
PerthnasauJoseph Conrad Mesmer, Franz von Posch Edit this on Wikidata
Gwobr/audinasyddiaeth anrhydeddus Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ym mhentref Iznang, ar lannau'r Bodensee, ger Konstanz, a oedd yn esgob-dywysogaeth yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Fienna dan diwtoriaeth yr Iseldirwyr Gerard van Swieten ac Anton de Haen. Ymddiddorodd Mesmer mewn seryddiaeth a sêr-ddewiniaeth, ac yn ei draethawd ymchwil (1766) tynnodd yn drwm ar waith Richard Mead wrth ddadlau bod atyniadau disgyrchol y planedau yn dylanwadu ar iechyd dynol drwy effeithio ar hylif anweladwy sydd i'w ganfod y tu mewn i bethau byw.

Ym 1775 newidiodd Mesmer ei ddamcaniaeth o "ddisgyrchedd anifeilaidd" yn "fagnetedd anifeilaidd", gan honni bod yr hylif anweladwy yn y corff yn rhwym wrth ddeddfau magneteg. Dadleuodd taw rhwystrau i lif yr hylif sydd yn achosi salwch, a bod modd cael gwared â'r rhwystrau drwy fwrw'r claf i berlewyg. Ar sail ei ddamcaniaeth, datblygodd Mesmer ddull therapiwtig o drin cleifion mewn sesiynau egnïol a oedd yn anelu at achosi deliriwm a chonfylsiynau er mwyn adfer cytgord hylifol y corff.

Aeth Mesmer i Baris ym 1778, wedi i'w gyfoedion yn Fienna ei gyhuddo o grachfeddygaeth, ac yno ailsefydlodd ei bractis. Denodd nifer fawr o gleifion a chefnogwyr i'w syniadau, yn ogystal â gwrthwynebiad oddi wrth gyd-feddygon. Ym 1784 penododd y Brenin Louis XVI gomisiwn o wyddonwyr a meddygon, yn eu plith Benjamin Franklin ac Antoine-Laurent Lavoisier, i archwilio dulliau Mesmer. Dyfarnodd y comisiwn nad oedd tystiolaeth wyddonol i brofi tybiaethau Mesmer, a dirywiai'r mudiad wedi hynny. Bu farw Franz Mesmer ym Meersburg, Uchel Ddugiaeth Baden, yn 80 oed.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Franz Anton Mesmer. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mehefin 2021.