Frederick Hanbury-Tracy
Roedd yr Anrhydeddus Frederick Stephen Archibald Hanbury-Tracy (15 Medi 1848 - 9 Awst 1906), yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Trefaldwyn rhwng 1877 a 1885 ac eto rhwng 1886 a 1892[1].
Frederick Hanbury-Tracy | |
---|---|
Ganwyd | 15 Medi 1848 |
Bu farw | 9 Awst 1906 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Thomas Hanbury-Tracy, 2il farwn Sudeley |
Mam | Emma Elizabeth Alicia Dawkins-Pennant |
Priod | Helena Caroline Winnington |
Plant | Eric Thomas Henry Hanbury-Tracy, Edith Julia Helena Hanbury-Tracy, Claud Sudeley Francis Hanbury-Tracy, Cyprienne Emma Madeleine Hanbury-Tracy, Violet Maria Claudia Hanbury-Tracy, Hilda Adelaide Eleanor Hanbury-Tracy, Gwyneth Rose Goda Hanbury-Tracy |
Bywyd Personol
golyguRoedd Hanbury-Tracy yn fab ieuengaf Thomas Hanbury-Tracy, 2il Barwn Sudeley, a'i wraig Emma Elizabeth Alicia, merch George Hay Dawkins-Pennant, o deulu'r Penrhyn. Roedd Sudley Hanbury-Tracy, 3ydd Barwn Sudley a Charles Hanbury-Tracy, 4ydd Barwn Sudeley, yn frodyr hyn iddo. Fe'i addysgwyd yn breifat ac yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lle graddiodd BA.
Priododd Helena Caroline Winnington ym 1870, unig ferch Syr Frederick T Winnington, ac Anna Helena Domville ei wraig. Bu iddynt 7 plentyn:
- Eric Hanbury-Tracy
- Edith Julia Helena
- Claud Sudeley Francis
- Cyprienne Emma Madeleine OBE
- Violet Mary Claudia
- Hilda Adelaide Eleanor
Gyrfa Wleidyddol
golyguBu farw Sudeley Hanbury-Tracy, 3ydd Barwn Sudley, brawd Frederick, ym 1877 a chodwyd ei frawd Charles i’r farwniaeth. Er mwyn derbyn ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi bu raid i Charles ildio ei sedd yn Nhŷ’r Cyffredin. Safodd Frederick dros yr achos ryddfrydoli yn yr isetholiad gan gadw’r sedd a churo’r Arglwydd Castellreigh, yr ymgeisydd Ceidwadol yn weddol gyffyrddus[2].
Yn y pedwar etholiad canlynol gwrthwynebydd Ceidwadol Hanbury-Tracy oedd Pryce Pryce-Jones. Yn etholiad 1880 llwyddodd i gadw’r sedd. Yn etholiad 1885, llwyddodd Pryce-Jones i gipio’r sedd gyda mwyafrif o 83. Bu etholiad arall ymhen y flwyddyn ym 1886 a llwyddodd Hanbury-Tracy i ennill y sedd yn ôl gyda mwyafrif o 173. Yn yr etholiad nesaf ym 1892 enillodd Pryce-Jones eto. Fe apeliodd y Blaid Ryddfrydol yn erbyn canlyniad yr etholiad gan honni bod Pryce-Jones wedi llwgrwobrwyo etholwyr[3], ond aflwyddiannus bu’r apêl.
Marwolaeth
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 adalwyd 15 Hydref 2017
- ↑ "DEATHOF THE HON FREDRIK HANBURY-TRACY - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1906-08-17. Cyrchwyd 2017-10-14.
- ↑ "SIR PRYCE PRYCE JONES'S SEAT - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1892-08-04. Cyrchwyd 2017-10-15.
- ↑ "Marwolacth Mr Tracy - Y Goleuad". John Davies. 1906-08-22. Cyrchwyd 2017-10-15.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Charles Hanbury-Tracy |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn 1877 – 1885 |
Olynydd: Pryce Pryce-Jones |
Rhagflaenydd: Pryce Pryce-Jones |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn 1886 – 1892 |
Olynydd: Pryce Pryce-Jones |