Charles Hanbury-Tracy
Roedd Charles Douglas Richard Hanbury-Tracy, 4ydd Barwn Sudeley PC FRS (3 Gorffennaf 1840 – 19 Rhagfyr 1922) yn forwr yn llynges Prydain, yn fargyfreithiwr, yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Trefaldwyn rhwng 1863 a 1877 ac yn aelod o bendefigaeth Prydain.[1]
Charles Hanbury-Tracy | |
---|---|
Ganwyd | 3 Gorffennaf 1840 |
Bu farw | 9 Rhagfyr 1922 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | Captain of the Honourable Corps of Gentlemen-at-Arms, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Thomas Hanbury-Tracy, 2il farwn Sudeley |
Mam | Emma Elizabeth Alicia Dawkins-Pennant |
Priod | Ada Hanbury-Tracy, Baroness Sudeley |
Plant | Eva Anstruther, William Hanbury-Tracy, Algernon Hanbury-Tracy, Florence Emma Louise Hanbury-Tracy, Ida Madeleine Agnes Hanbury-Tracy, Alice Hanbury-Tracy, Rhona Margaret Ada Hanbury-Tracy, Felix Hanbury-Tracy |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Hanbury-Tracy yn Brighton yn ail fab i Thomas Hanbury-Tracy, 2il Barwn Sudeley, a’i wraig Emma Eliza Alicia Dawkins-Pennant, merch George Hay Dawkins-Pennant, o Gastell y Penrhyn. Roedd yn frawd i Sudeley Charles George Hanbury-Tracy, 3ydd Barwn Sudeley a Frederick Hanbury-Tracy, a’i holynodd fel AS Bwrdeistref Trefaldwyn.
Priododd Ada Maria Katherine Tollemache, merch yr Anrhydeddus Frederick James Tollemache AS, ym 1868. Bu iddynt tri mab a phedair merch.
Gyrfa filwrol
golyguYmunodd Hanbury-Tracy a’r Llynges Frenhinol ym 1854. Gwasanaethodd yn y Môr Baltig ym 1855 fel rhan o Ryfel y Crimea, gan chware ran yng Ngwarchae Bomarsund. Bu’n rhan o’r Ail Ryfel Opiwm ym 1859, pan aeth Prydain i ryfel a Tsieina er mwyn ceisio gorfodi’r wlad i wneud masnach yn y cyffur opiwm yn gyfreithiol. Fe’i godwyd yn is-gapten ym 1860 ac yn Is-gapten gynyddiaeth ym 1862 pan fu’n gwasanaethu ar y llong Shannon ym Môr y Canoldir. Ymddeolodd o’r llynges ym 1863.
Gyrfa sifil
golyguWedi ymadael a’r llynges aeth yn ddisgybl i Ysbyty’r Brawdlys yn Lincoln’s Inn am gyfnod cyn symud draw i Ysbyty’r Deml Ganol lle cafodd ei alw i’r bar ym 1866. Bu’n gwasanaethu fel ynad heddwch ar fainc Sir Drefaldwyn.
Bu’n gyfarwyddwr ar gwmnïau arfau Chilworth Gunpowder Works a Lord Armstrong’s Ordinance Works. Roedd yn dirfeddiannwr ystâd Gregynog ac ystâd Toddington Manor, Swydd Gaerloyw.
Bu’n gadeirydd comisiwn Prydain i’r arddangosfa drydanol yn Fienna ym 1883, fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad i wyddoniaeth trwy rannu’r hyn dysgodd yn Fienna fe’i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) ym 1888. Bu hefyd yn Gymrawd o’r Gymdeithas Archeolegol. Bu’n lladmerydd brwd o’r syniad o sicrhau bod amgueddfeydd, orielau a sefydliadau addysgol yn darparu darlithoedd ac arddangosfeydd oedd yn apelio i’r rhelyw ac nid at yr arbenigwyr yn unig. Ef fu’n gyfrifol am sicrhau bod amgueddfeydd ac orielau yn creu cardiau post o’u daliannau fel swfeniriau i ymwelwyr ac fel modd i ymwelwyr rhannu eu profiadau a chyfeillion.[2]
Aeth i drafferthion ariannol a chafodd ei ddatgan yn fethdalwr ym 1893. Bu hyn yn achos iddo werthu sedd y teulu, Toddington Manor, er mwyn talu ei ddyledwyr.[3]
Gyrfa wleidyddol
golyguWedi marwolaeth aelod Ceidwadol Sir Drefaldwyn Herbert Watkin Williams-Wynn ym 1862 safodd Hanbury-Tracy yn enw’r Blaid Ryddfrydol yn yr isetholiad gan gael ei drechu’n arw. Safodd yn isetholiad 1863 ym Mwrdeistref Trefaldwyn wedi marwolaeth John Samuel Willes Johnson gan gipio’r sedd oddi wrth y Ceidwadwyr. Cadwodd y sedd hyd iddo gael ei ddyrchafu i Dŷ’r Arglwyddi ar farwolaeth ei frawd hŷn ym 1877.[4]
Gwasanaethodd llywodraeth William Ewart Gladstone fel Arglwydd Wrth Aros (chwip y llywodraeth yn Nhŷ'r Arglwyddi) o 1880 i 1885 ac fel Capten Anrhydeddus Corfflu'r Fonheddwyr Wrth Arfau o fis Chwefror i fis Gorffennaf 1886. Ym 1887 daeth yr Arglwydd Sudely yn aelod o’r Gyfrin Gyngor.
Marwolaeth
golyguBu farw yn Petersham, Surrey yn 82 mlwydd oed. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn Eglwys Petersham[5]. Fe’i olynwyd i’r farwniaeth gan ei fab William Charles Frederick Hanbury-Tracy
Cyfeiriadau
golygu- ↑ SUDELEY, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2015 ; online edn, Feb 2015, adalwyd 28 Awst 2017
- ↑ Cylchgrawn Nature’ Rhif 110, Tudalen 851 (23 Rhagfyr 1922) Obituary - Lord Sudeley, F.R.S adalwyd 29 Awst 2017
- ↑ The Sudeley Bankruptcy and its Contemporary Significance adalwyd 29 Awst 2017
- ↑ Williams, William Retlaw, The Parliamentary History of the Principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 29 Awst 2017
- ↑ Death of Lord Sudeley Gloucester Citizen 11 Rhagfyr 1922
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Samuel Willes Johnson |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn 1863 -1877 |
Olynydd: Frederick Hanbury-Tracy |