Gilbert Hunter Doble
Clerigwr Anglicanaidd o Gernyw oedd Gilbert Hunter Doble (26 Tachwedd 1880 – 15 Ebrill 1945). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei waith ysgolheigaidd ar saint Cernyw, Cymru a Llydaw.
Gilbert Hunter Doble | |
---|---|
Ganwyd | 26 Tachwedd 1880 Pennsans |
Bu farw | 15 Ebrill 1945 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd, offeiriad Anglicanaidd |
Ganed ef yn Penzance, Cernyw, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Exeter, Rhydychen, a Choleg Diwinyddol Ely. Ordeiniwyd ef yn 1907. Bu'n gurad cynorthwyol mewn nifer o leoedd yng Nghernyw a Lloegr, yn gurad Redruth ac yna yn ficer Wendron yng Nghernyw. Yn 1935, gwnaed ef yn Ganon er anrhydedd yn Eglwys Gadeiriol Truro.
Ysgrifennodd lawer ar seintiau Cernyw, Cymru a LLydaw, gan ganolbwyntio ar ddadansoddi'r bucheddau o'r Canol Oesoedd. Cyhoeddoedd astudiaethau ar lawer o saint, ar wahan yn y lle cyntaf. Ail-gyhoeddwyd ei waith ar nifer o saint Cymreig, Dyfrig, Illtud, Paulinus Aurelianus, Teilo ac Oudoceus, yn gyfrol wedi ei golygu gan D. Simon Evans dan y teitl Lives of the Welsh Saints (1971).
Anhawsterau
golyguAnhawster sy'n codi wrth defnyddio gwaith Doble oedd ei fethiant i credu fod menywod yn medru arwain cymynedau neu teithio yn rheolaidd. Credodd fod y mynaich a ysgrifennodd amdanynt wedi gwneud gangymeriad. Ceisiodd cywiro neu cysoni trwy troi ambell santes yn ddyn ac uno seintiau oedd yn gweithio yn agos at ei gilydd. E. e. Awgrymodd dod dau sant a elwid Non, un yn fenyw a esgorodd ar Ddewi a'r llall yn dyn oedd wedi teithio a sefydlu cymunedau.