Pádraic Ó Conaire
Llenor a newyddiadurwr yn yr iaith Wyddeleg (yn bennaf) oedd Pádraic Ó Conaire (28 Chwefror 1882 – 6 Hydref 1928). Roedd yn frodor o Galway, gorllewin Iwerddon. Fe'i ystyrir yn un o ffigurau mwyaf llenyddiaeth Wyddeleg yr 20g.
Pádraic Ó Conaire | |
---|---|
Ganwyd | 28 Chwefror 1882 Gaillimh |
Bu farw | 6 Hydref 1928 Dulyn |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Gwladwriaeth Rydd Iwerddon |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor |
Adnabyddus am | Deoraíocht |
Ei fywyd
golyguGanwyd Ó Conaire yn fab hynaf i dafarnwr yn Galway. Trist fu hanes y teulu; bu farw'r rhieni cyn i'r bachgen gyrraedd 12 oed. Aeth ef a'i frodyr i fyw gyda'u hewythr yn Gairbh-Eanach, Ros Muc, Conamara. Tyfodd i fyny yn yr ardal wledig honno a daeth i fesitrioli'r Wyddeleg; pur Saesneg ei haith oedd tref Galway ond roedd Ros Muc yn rhan o'r Gaeltacht a'r iaith yn fyw ar dafod leferydd.
Yn 1899 aeth i weithio fel clerc i'r Bwrdd Addysg yn Llundain. Yno daeth i gysylltiad â'r Conradh na Gaedhilge (Cynghrair y Wyddeleg) a dechreuodd lenydda. Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 penderfynodd Pádraic ddychwelyd i Iwerddon a cheisio ennill ei damaid trwy lenydda yn yr iaith a garai.
Treuliodd weddill ei oes yn ei wlad enedigol yn crwydro'r wlad. Daeth i arfer â thlodi a chaledi ond roedd yn benderfynol o gyfrannu at lenyddiaeth ei wlad. Daeth yn gymeriad adanbyddus ledled Iwerddon ond er iddo gyhoeddi sawl cyfrol o straeon byrion ni chafodd lwyddiant ariannol. O'r diwedd, yn 1928, penderfynodd fynd i Riga, prifddinas Latfia, efallai am fod yr holl sôn am y Chwyldro yn Rwsia wedi gafael yn ei ddychymyg a'i gyffroi. Byr fu ei arosiad yno a phan ddychwelodd i Ddulyn syrthiodd yn sâl yn ddirybudd. Bu farw yn Ward y Tlodion yn Ysbyty Richmond ar y chweched o Hydref y flwyddyn honno. Y cwbl a gafwyd yn ei feddiant oedd pibell, owns o faco ac afal.
Ei waith
golyguYn ei straeon byrion mae dylanwad llenyddiaeth Ffrangeg a llenyddiaeth Saesneg yn amlwg. Mae'n bosibl ei gymharu â Maupassant. Sgwennai am y cefn gwlad, y trefi a'r pentrefi, Llundain a gwledydd tramor. Roedd ei destun a'i arddull yn chwa o awyr iach yn llenyddiaeth Wyddeleg y cyfnod, oedd yn drwm dan ddylanwad y chwedlau gwerin a wastad ynghlwm wrth yr Iwerddon wledig. Un nofel yn unig a gyhoeddodd, sef Deoraidheacht ('Ar wasgar') yn 1910.
Llyfryddiaeth
golyguLlyfrau Ó Conaire
golygu- An Scoláire Bocht, agus scéalta eile, 1904
- Nora Mharcais Bhig, 1906
- Deoraidheacht, 1910
- An Scoláire Bocht, agus scéalta eile, 1913
- An Chéad Chloch, 1914
- Seacht mBua an Éirí Amach, 1918
- An Crann Géagach, 1919
- Tír na n Íontais, 1919
- Béal an Uaignis, 1921
- Siol Éabha, 1921
- An Chinniúint, 1924
- Eachtraí Móra ón ár Stair, 1924
- Trí Truaighe na Scealaíochta, 1924
- Mór thimpeall na hÉireann, ar muir, 1925
- Fearfeasa Mac Feasa, 1930
- Brian Óg
- Beagnach Fíor
- Cubhair na dTonn
- Scéalta an tSáirsint Rua
- Seoigheach an Ghleanna
- M'asal Beag Dubh
Cyfieithiadau Cymraeg
golygu- Storïau ac Ysgrifau gan Pádraic Ó Conaire, Trosiadau o'r Wyddeleg gan J. E. Caerwyn Williams (Y Clwb Llyfrau Cymreig, 1949)
- Ystoriau Byr o'r Wyddeleg gan Pádraic Ó Conaire, cyf. Tomás Ó Cléirigh a David Myrddin Lloyd (Llandysul, 1934)
Dolenni allanol
golygu- Tom Kenny, "Ó Conaire — an fear", Galway Advertiser, 23 Chwefror 2007. Erthygl fer gyda llun prin o'r awdur.