Gareth Davies (chwaraewr rygbi, ganwyd 1990)

Chwaraewr rygbi Cymreig yw Gareth Davies (ganwyd 18 Awst 1990). Mae yn chwarae fel mewnwr i'r Scarlets a Chymru.

Gareth Davies
Enw llawn Gareth Davies
Dyddiad geni (1990-08-18) 18 Awst 1990 (33 oed)
Man geni Caerfyrddin, Cymru
Taldra 1.78 m (5 ft 10 in)
Pwysau 86 kg (13 st 8 lb)
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Mewnwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
Castell Newydd Emlyn
Clybiau proffesiynol
Blynydd. Clybiau Capiau (pwyntiau)
2007–2014
2011–2012
Llanelli RFC
Cwins Caerfyrddin
74
2
(75)
(5)
Taleithiau
Blynyddoedd Clwb / tîm Capiau (pwyntiau)
2006– Scarlets 112 (115)
cywir ar 7 Mawrth 2015.
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau

2010
2014–
Cymru dan 18
Cymru dan 20
Cymru

7
7

(5)
(25)
yn gywir ar 1 Hydref 2015.

Fe'i ganwyd yng Nghaerfyrddin, ac mae'n siaradwr Cymraeg rhugl.[1]

Mynychodd Davies Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi yn Llandysul cyn astudio Datblygiad a Hyfforddiant Chwaraeon yng Ngholeg Sir Gar, Llanelli. Ymunodd gydag academi'r Scarlets yn 2006, ac ers hynny mae wedi chwarae i'r tim cyntaf dros 100 gwaith, gan sgorio dros 100 pwynt.

Davies oedd y sgoriwr ceisiau uchaf yn y RaboDirect Pro12 yn ystod tymor 2013/14 gan sgorio 10 cais. Yn sgil hyn, dewisiodd Warren Gatland ef ar gyfer y daith i Dde Affrica yn Haf 2014.

Gyrfa ryngwladol golygu

Enillodd Davies ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn De Africa ar 14 Mehefin 2014. Cafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2015, a sgoriodd ddwy gais yn erbyn Wrwgwai, cais yn erbyn Lloegr a chais yn erbyn Ffiji yn y tair gêm agoriadol.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Undeb Rygbi Cymru - Davies yn Dechrau yn Erbyn Uruguay". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-28. Cyrchwyd 2015-10-03.
  2. BBC Cymru[dolen marw]

Dolenni allanol golygu