Agwedd neu dueddfryd gwleidyddol Ffrengig yw Gauliaeth[1] (Ffrangeg: Gaullisme) sy'n seiliedig ar safbwyntiau a pholisïau Charles de Gaulle, arweinydd Ffrainc Rydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac Arlywydd Ffrainc rhwng 1959 a 1969.[2] Pwysleisiodd de Gaulle genedlaetholdeb Ffrengig yn wyneb meddiannaeth Ffrainc gan yr Almaen a Llywodraeth Vichy ym mlynyddoedd y rhyfel, a thra'n arlywydd fe frwydrodd i gadw Ffrainc yn bŵer mawr ar lwyfan y byd. O ran polisi economaidd, ffafriodd de Gaulle dirigisme, sef system economaidd Keynesaidd gyda rôl fawr i'w chwarae gan y llywodraeth. Gellir ystyried Gauliaeth yn ffurf ar boblyddiaeth sy'n ceisio efelychu arweinyddiaeth de Gaulle.

Gauliaeth
Enghraifft o'r canlynolideoleg wleidyddol Edit this on Wikidata
MathFrench nationalism, statism, pro-democracy Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Croes Lorraine, a ddefnyddir weithiau i gynrychioli Gauliaeth.

Yn ôl yr hanesydd Serge Berstein, nid yw Gauliaeth yn athrawiaeth nac ychwaith yn ideoleg wleidyddol a ni ellir ei ddisgrifio'n adain chwith neu'n adain dde. Yn hytrach, ymddygiad pragmataidd wrth feddu ar rym yw'r meddylfryd hwn ac nid yw'n nacáu cyfaddawd a goddef pan fo angen. Tueddiad sy'n arbennig i Ffrainc yw Gauliaeth, ac "heb os nac onibai ffenomen wleidyddol hanfodol Ffrainc yr ugeinfed ganrif".[2] Sail y meddylfryd yw gyrfa filwrol a gwleidyddol de Gaulle, ei ddelwedd arwrol a'i awdurdod moesol gan iddo achub ei wlad ddwywaith: rhag y Natsïaidd a'r bradychwyr yn ystod y rhyfel, ac yn sgil cwymp y Bedwaredd Weriniaeth ym 1958. Pan sefydlodd de Gaulle y Bumed Weriniaeth, fe fynnodd arlywyddiaeth dra-grymus i sefydlogi'r llywodraeth, a dan ei arweiniad dilynodd Ffrainc bolisi tramor annibynnol a heb raid ufuddhau i gynghreiriau â gwledydd eraill.[3]

Ysgrifennai'r ysgolhaig Lawrence D. Kritzman taw ffurf ar wladgarwch Ffrengig yn nhraddodiad yr hanesydd Jules Michelet yw Gauliaeth. Fel arfer ymochrai'r Gaulyddion â phleidiau'r adain dde, ond hefyd yn glynu wrth werthoedd gweriniaethol y Chwyldro Ffrengig ac felly'n ymddieithrio oddi wrth neilltuoldeb ac estrongasedd y dde draddodiadol. Nod Gauliaeth oedd cadarnháu sofraniaeth Ffrainc ac undod y genedl, a thrwy hynny'n gwbl groes i'r rhwygau cymdeithasol a grewyd gan wrthdaro'r dosbarthiadau.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur yr Academi, [Gaullism].
  2. 2.0 2.1 Serge Berstein, "Gaullism" yn The Oxford Companion to Politics of the World (ail argraffiad, gol. Joel Krieger), Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001, tt. 307-08.
  3. (Saesneg) French wrestle with De Gaulle's legacy, BBC (15 Ebrill 2002). Adalwyd ar 27 Chwefror 2017.
  4. Lawrence D. Kritzman, The Columbia History of Twentieth-century French Thought (Columbia University Press, 2006, gol. Lawrence D. Kritzman & Brian J. Reilly), tt. 51-54.