Gemau'r Gymanwlad Cymru
Gemau'r Gymanwlad Cymru (Saesneg: Commonwealth Games Wales) yw'r corff arweiniol ar gyfer chwaraeon y Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru. Ei enw blaenorol oedd Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru (Commonwealth Games Council for Wales). Dyma'r corff sy'n gweithredu fel corff llywodraethu Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru.
Olivia Breen yn 2022 | |
Enghraifft o'r canlynol | Cymdeithasau Cenedlaethol Gemau'r Gymanwlad |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Gwladwriaeth | Cymru |
Gwefan | https://teamwales.cymru |
Mae Gemau'r Gymanwlad Cymru yn gyfrifol am ddewis, paratoi ac arwain Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad a Gemau Ieuenctid y Gymanwlad. Ar gyfer y Gemau, ei nod yw paratoi'r tîm gorau posibl, gan greu amgylchedd i'w hysbrydoli a chynnig arweinyddiaeth gref iddynt. Maent hefyd yn anelu at godi ymwybyddiaeth o'r Gymanwlad ei hun drwy sicrhau cyswllt ag unigolion yng Nghymru a chymunedau Cymreig ledled y Gymanwlad.[1]
Cyd-destun Ryngwladol
golyguMae GGC yn un o blith 70 Cymdeithasau Cenedlaethol Gemau'r Gymanwlad (Commonwealth Games Associations) sy'n aelodau o Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad (y Ffederasiwn). Y Ffederasiwn yw rhiant gorff y Gemau, ac mae'n gyfrifol am gyfeiriad a rheolaeth y Gemau. Mae Gemau'r Gymanwlad Cymru yn un o ddim ond chwe gwlad sydd wedi cystadlu ym mhob un o'r Gemau ers eu lansio yn 1930.[2]
Bwrdd GGC
golyguAelodau'r Bwrdd yn 2020:
- Helen Phillips MBE - Cadeirydd Anweithredol bu'n gyfrifol am drawsnweid Gymnasteg Cymru
- Jonathan Morgan OBE - Dirprwy Gadeirydd - cyn-Brif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru
- Craig Maxwell - mae ganddo brofiad yn gweithio i Undeb Rygbi Cymru
- Dr Nicola Phillips
- Claire Warnes
- Anne Ellis OBE - (Llywydd, swydd anrhydeddus) - wedi ennill 134 cap dros Hoci Merched Cymru a bu'n cyn-Lywydd Hoci Cymru
- Brian Davies OBE - cynrychiolydd Chwaraeon Cymru
- Clare Hoskin - Ymgynghorydd Cyfreithiol
- Wendy Barbour - Cyfarwyddwr Cyllid
- David Phelps - un o saethwyr gorau Cymru, o gystadlu'n rhyngwladol ar ôl ennill ei ail fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yr Arfordir Aur yn 2018. Mae wedi cynrychioli Cymru mewn 5 Gemau'r Gymanwlad
Staff
golyguCeir dau aelod o staff llawn amser i Gemau'r Gymanwlad Cymru
- Chris Jenkins - Prif Weithredwr
- Cathy Williams - Pennaeth Ymgysylltu.Mae'n gyfrifol o ddatblygu ochr hyrwyddo chwaraeon a Gemau'r Gymanwlad yn gymunedol.[3]
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ https://teamwales.cymru/cy/
- ↑ https://teamwales.cymru/cy/about-us/
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-05. Cyrchwyd 2020-06-05.