Gemau Ieuenctid y Gymanwlad

pencampwriaeth athletau a gemau i bobl ifanc y Gymanwlad

Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol yw Gemau Ieuenctid y Gymanwlad ('Commonwealth Youth Games') a drefnir gan Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad. Mae'r gemau'n cael eu cynnal bob pedair blynedd gyda fformat cyfredol Gemau'r Gymanwlad. Cynhaliwyd y gemau cyntaf yng Nghaeredin, yr Alban rhwng 10 a 14 Awst 2000. Cyfyngiad oedran yr athletwyr yw 14 i 18 mlwydd oed.

Arwyddlun y Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad ('CGF)
Shehan Ambepitiya, o Sri Lanca yn Ras 100m, Gemau 2008

Trafododd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad y syniad o Gemau Ieuenctid y Gymanwlad ym 1997. Ym 1998 cytunwyd ar y cysyniad at ddiben darparu digwyddiad aml-chwaraeon y Gymanwlad i bobl ifanc a anwyd yn y flwyddyn galendr 1986 neu'n hwyrach.[1]

Rhifyn o'r gemau

golygu

Caeredin 2000 - Cynhaliwyd rhifyn cyntaf Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yng Nghaeredin, yr Alban rhwng 10 a 14 Awst 2000. Bu 15 gwlad yn cystadlu am 483 o fedalau dros 3 diwrnod o gystadlu mewn 8 camp. Cymerodd cyfanswm o 773 o athletwyr, 280 o Swyddogion Technegol a thua 500 o wirfoddolwyr ran yn y digwyddiad. Ymladdwyd wyth o chwaraeon. Roedd y rhain yn cynnwys: Athletau, Cleddyfa, Gymnasteg, Hoci, Tenis Lawnt, Sboncen, Nofio a Chodi Pwysau.[2]

Bendigo 2004 - Cynhaliwyd ail rifyn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Bendigo, Awstralia rhwng 30 Tachwedd a 4 Rhagfyr 2004, cymerodd 22 gwlad ran a chystadlu mewn 10 digwyddiad chwaraeon a wasgarwyd dros gyfnod o 3 diwrnod, a oedd yn cynnwys Athletau, Badminton, Paffio, Bowls Lawnt, Roedd Rygbi 7 bob ochr, Bowlio Tenpin, Nofio, Beicio, Gymnasteg a Chodi Pwysau. Roedd 980 o athletwyr a swyddogion tîm yn rhan o'r Gemau yn Bendigo.[1]

 
Map medalau Gemau 2008

Pune 2008 - Cynhaliwyd trydydd rhifyn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Pune, India rhwng 12 a 18 Hydref 2008. Cymerodd dros 1,220 o athletwyr a 350 o swyddogion o 71 gwlad ran yn y gemau hyn, mewn 9 disgyblaeth -Athletics, Badminton, Paffio, Saethu, Nofio, Tenis Bwrdd, Tenis, Codi Pwysau a reslo.[3]

Ynys Manaw 2011 - Cynhaliwyd pedwerydd rhifyn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Ynys Manaw rhwng 7 a 13 Medi 2011. Cystadlodd 811 o athletwyr o 64 o genhedloedd y Gymanwlad yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad 2011.[4] Aeth Cymru â charfan o 32 chwaraewr gan gynnwys pencampwr ifanc nofio Ewrop, Ieuan Lloyd o Benarth.[5]

Samoa 2015 - Cynhaliwyd pumed rhifyn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Apia, prifddinas Samoa. Samoa oedd yr unig gynigwyr ar gyfer y Gemau. Cymerodd tua 807 o athletwyr o 65 o genhedloedd a thiriogaethau ran yn y naw camp: dyfrol, saethyddiaeth, athletau, bocsio, bowlenni lawnt, rygbi saith bob ochr, sboncen, tenis a chodi pwysau.[6] Nodwyd bod y Gemau'n llwyddiant i dîm Cymru a enillodd 2 fedal aur, pum arian, a dwy efydd.[7] Cafwyd eitem ar y Gemau ac ar dîm Cymru yn benodol ar S4C.[8]

Bahamas 2017 - Cynhaliwyd chweched rhifyn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Nassau, Bahamas. Cynhaliwyd y gemau rhwng 18 a 23 Gorffennaf 2017. Y chwaraeon a ymleddwyd yn y Bahamas 2017 oedd Athletau, Nofio, Pêl-droed Traeth, Bocsio, Beicio (Ffordd), Judo, Rygbi Saith Bob Ochr, Tenis a Phêl-foli Traeth. Hwn oedd y tro cyntaf i Judo, Beach Soccer a Beach Volleyball gael eu cyflwyno mewn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad.[9] Chef de Mission tîm Cymru i'r Gemau oedd Gerwyn Owen.[10]

Trinidad a Tobago 2021 - Cynhelir y seithfed rhifyn o'r Gemau yn ynysoedd Trinidad a Tobago sydd yn y Caribî, oddi ar arfordir Feneswela.[11]

Gweinyddir tîm Cymru gan Gemau'r Gymanwlad Cymru sy'n gyfrifol am holl dimau, gweinyddu a strwythur paratoi a chydlynu Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru. Mae Ieuenctid Cymru wedi cystadlu ymhob un o'r Gemau ers y cychwyn. Cafwyd eitem ar raglen i blant ar S4C am y Gemau yn Somoa yn 2015 ar raglen Clwb 2. Nodwyd buddugoliaethau'r tîm a llwyddiant Catrin Jones o Fangor, enillydd y fedal aur yn categori codi pwysau 48 kg y Merched.[8]

Rhestr Gemau Ieuenctid y Gymanwlad

golygu
 
Host cities of the Commonwealth Youth Games

Tabl Lleoliadau Gemau'r Gymanwlad Ieuenctid

golygu
Edition Year Location Dyddiadau Gwledydd Cystadleuwyr Campau Digwyddiad Gwlad ar y Brig
2000 Gemau Ieuenctid y Gymanwlad I 2000   Caeredin, Yr Alban 10–14 Awst 15 773 8 112   England
2004 Gemau Ieuenctid y Gymanwlad II 2004   Bendigo, Awstralia 30 Tach.–4 Rhag. 22 980 10 146   Australia
2008 Gemau Ieuenctid y Gymanwlad III 2008   Pune, India 12–18 Hydref 71 1220 9 117   India
2011 Gemau Ieuenctid y Gymanwlad IV 2011   Ynys Manaw 7–13 Medi 63 804 7 112   England
2015 Gemau Ieuenctid y Gymanwlad V 2015   Apia, Samoa 5–11 Medi 63 926 9 107   Australia
2017 Gemau Ieuenctid y Gymanwlad VI 2017   Nassau, Bahamas 18–23 Gorffennaf 65 1034 8 96   England
2021 Gemau Ieuenctid y Gymanwlad VII 2021   Port of Spain, Trinidad and Tobago 1–7 August TBD TBD 8 [12] TBD -

Tabl medalau

golygu

Rhwng Gemau Ieuenctid y Gymanwlad gyntaf yn 2000 a 2017 y wlad a enillodd y fwyaf o fedalau oedd Awstralia (112 medal) gyda Lloegr yn ail (102) a De Affrica yn drydydd (80).

Roedd Cymru yn y 9fed safle gyda 30 medal alan o 51 gwlad.[13]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Commonwealth Youth Games - About the Games". bendigo2004.thecgf.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-17. Cyrchwyd 2017-05-06.
  2. "Facts about the 2000 Commonwealth Youth Games at Edinburgh, Scotland" (PDF). Commonwealth Games Federation. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-11-15.
  3. admin@cygpune2008.in. "What is the Commonwealth Games, what Sport is their in the Commonwealth Games, Commonwealth Games Asia". pune2008.thecgf.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-13. Cyrchwyd 2017-05-06.
  4. "Isle of Man Commonwealth Youth Games 2011". www.cyg2011.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-05-06.
  5. https://golwg360.cymru/chwaraeon/chwaraeon-eraill/44546-cymru-n-cyhoeddi-tim-gemau-ieuenctid-y-gymanwlad
  6. "Samoa Commonwealth Youth Games 2015". Samoa Commonwealth Youth Games 2015 (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-29. Cyrchwyd 2017-05-06.
  7. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/34219604
  8. 8.0 8.1 https://www.youtube.com/watch?v=6WPLniGiIBc
  9. "Home - Bahamas Commonwealth Youth Games 2017". Bahamas Commonwealth Youth Games 2017 (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-19. Cyrchwyd 2017-08-29.
  10. http://archif.rhwyd.org/ycymro/newyddion/c/x44/i/4879/desc/penodi-gerwyn-owen-yn-chef-de-mission-i-dicircm-cymru-yng-ngemau-ieuenctid-y-gymanwlad/index.html
  11. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-07. Cyrchwyd 2020-06-07.
  12. "Sport Programme confirmed for Trinbago 2021". The Commonwealth Games Federation (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-20. Cyrchwyd 2020-03-18.
  13. "Commonwealth Youth Games". thecgf.com. Cyrchwyd 15 April 2017.

Dolenni allanol

golygu