Tîm hoci cenedlaethol menywod Cymru
Mae tîm hoci cenedlaethol menywod Cymru (weithiau hefyd, Tîm hoci cenedlaethol merched Cymru) yn cynrychioli Cymru mewn hoci menywod rhyngwladol, ac eithrio'r Gemau Olympaidd yr Haf pan fydd chwaraewyr o Gymru yn gymwys i chwarae i dîm hoci menywod Prydain Fawr fel y'u dewiswyd. Prif dargedau'r wlad fel y'u nodwyd gan Hoci Cymru, corff llywodraethu cenedlaethol Cymru ar gyfer hoci, yw Pencampwriaethau EuroHockey, Cynghrair y Byd FIH a Gemau'r Gymanwlad.[1] Ym mis Mawrth 2020 roedd tîm menywod Cymru yn sefyll ar rif 25 yn ranc byd-eang yr FIH.[2]
Sefydlwyd y Cymdeithas Hoci Menywod Cymru ("Welsh Women's Hockey Association") tîm flwyddyn ar ôl sefydlu, sef 1897. Chwaraewyd y gêm gystadleuol ryngwladol gyntaf yn 1899. Ymddengys i Gymru golli pobl un gêm rhwng 1899 ac 1909 gan gynnwys 15-0 i Loegr yn Y Fenni yn 1902. Yn anffodus, does neb yn gwybod i sicrwydd faint o gemau chwaraewyd gan dîm merched Cymru. Ymddengys hefyd roedd yn orfodol i fenywod Cymru wisgo rhwydi gwallt wrth chwarae i'w gwlad ond nid i'w clwb lleol.[3]
Cyn-chwaraewyr Nodedig
golyguYmysg cyn-chwaraewyr tîm cenedlaethol Cymru mae sawl enw nodedig:
- Ann Lorraine Davies - actores a chyfieithydd a gweithredwraig asgell chwith nodedig. Yn enedigol o Gaerdydd. Teithiodd gyda'r tîm cenedlaethol yn 1936.
- Anne Ellis - yn enedigol o Abertawe, chwaraeodd Ellis 138 o weithiau’n olynol i Gymru a 14 o weithiau i Brydain rhwng 1963 ac 1980, a tan 2017 hi oedd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau’n chwarae hoci i Gymru. Bu’n hyfforddi timau Prydain Fawr a Chymru ar ôl ymddeol o’r gamp, ac am 20 mlynedd hi oedd Llywydd Hoci Cymru. Mae’n ymroddedig i’r gamp ar bob lefel hyd heddiw, bu hi'n Llywydd Gemau'r Gymanwlad Cymru, ac mae hyd yn oed yn rhoi help llaw yng nghaffi Clwb Hoci Dinas Abertawe ar benwythnosau.[4]
- Sheila Morrow - Bu'n athrawes ymarfer corff yng Nghaerdydd, ac enillodd 136 o gapiau’n chwarae hoci i Gymru ac i Brydain Fawr. Rhwng 1967 a 1984, bu’n gapten ar y ddau dîm a chwaraeodd mewn pump o Bencampwriaethau Byd. Bu’n gweithio i Chwaraeon Cymru o 2003, ac roedd yn feirniad yng Ngemau Olympaidd 2004 a 2008.[5]
Record y twrnamaint
golyguCwpan y Byd
golygu- 1983 - 12fed safle
Pencampwriaeth EuroHockey
golygu- 1987 - 8fed safle
- 1991 - 9fed safle
- 2003 - 12fed safle
Pencampwriaeth EuroHockey II
golygu- 2005 - 7fed safle
- 2009 - 3ydd safle, enillydd (au) medal efydd
- 2011 - 8fed safle
- 2015 - 5ed safle
- 2017 - 4ydd safle
- 2019 - 5ed safle
- 2021 - Cymwys
Pencampwriaeth EuroHockey III
golygu- 2007 - lle 1af, enillydd (au) medal aur
- 2013 - lle 1af, enillydd (au) medal aur
Gemau'r Gymanwlad
golygu- 1998 - 11eg safle
- 2010 - 8fed safle
- 2014 - 9fed safle
- 2018 - 9fed safle
Cynghrair y Byd Hoci
golygu- 2012–13 - Rownd 1
- 2016–17 - 22ain lle
Cyfres Hoci FIH
golygu- 2018–19 - Ail rownd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Wales Senior Women Performance Training Squad". hockeywales.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-19. Cyrchwyd 12 July 2014.
- ↑ http://www.fih.ch/rankings/outdoor/
- ↑ https://www.thehockeypaper.co.uk/articles/2020/03/27/welsh-hockey-fans-launch-history-research-in-landmark-month
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-04. Cyrchwyd 2020-06-04.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-04. Cyrchwyd 2020-06-04.