Geometreg dafluniol

Mae geometreg dafluniol yn bwnc o fewn mathemateg lle astudir nodweddion geometrig sefydlog, o ran trawsffurfio tafluniadau. Felly, yn wahanol i geometreg elfennol, ceir lleoliad a gofod gwahanol, a set o gysyniadau geometrig gwahanol. Yn gyffredinol, mae gan geometreg dafluniol fwy o bwyntiau nac a geir yn y gofod Ewclidaidd, o fewn un dimensiwn arbennig; caniateir hefyd i'r trawsffurfiadau geometrig hynny drawsffurfio'r pwyntiau ychwanegol (a elwir yn "bwyntiau anfeidredd") i bwyntiau Ewclidaidd, a'r ffordd arall.

Geometreg dafluniol
Mathmaes o fewn mathemateg Edit this on Wikidata
Rhan ogeometreg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dyluniad mewn 3-D o dafluniad stereograffig o begwn y gogledd i'r Plân o dan y sffêr.

Nid yw'n bosibl cyfeirio at onglau mewn geometreg dafluniol fel a wneir o fewn geometreg Ewclidaidd, oherwydd mae ongl yn enghraifft o gysyniad nad yw'n sefydlog, o ran trawsffurfiadau tafluniol, fel y gwelir mewn lluniadau o bersbectif. Un ffynhonnell ar gyfer geometreg tafluniol, yn wir, oedd theori persbectif. Gwahaniaeth arall rhwng geometreg dafluniol a geometreg elfennol yw'r ffordd y gellir dweud bod llinellau cyfochrog yn cwrdd mewn pwynt anfeidredd, unwaith y bydd y cysyniad yn cael ei drawsffurfio i dermau geometreg dafluniol. Unwaith eto, mae gan y cysyniad hwn gymhwysiadau ymarferol, megis traciau rheilffordd yn cyfarfod ar y gorwel mewn lluniad persbectif.[1][2][3]

Darganfyddwyd nodweddion elefnnol iawn o geometreg dafluniol yn y 3g gan Pappus o Alexandria.[4] Ond er fod cysyniadau elfennol wedi datblygu, dim ond yn y 19g y datblygodd i'w llawn dwf. Ymhlith y datblygiadau hynny roedd:

  • gofod dafluniol cymhlyg, gyda'r cyfesurynnau yn rhifau cymhlyg,
  • elfennau o fathemateg haniaethol, gan gynnwys y theori sefydlog (invariant theory), geometreg algebraidd yr Eidal, a rhaglen Erlangen y mathemategydd Felix Klein lle gwelwyd datblygu'r syniad o 'grŵp clasurol',[5]
  • geometreg bur (neu 'synthetig')
  • geometreg feidraidd, a ddatblygodd o astudiaethau gwirebol.

Erbyn heddiw, mae'r pwnc geometreg tafluniol wedi'i rannu'n sawl maes ymchwil. Dwy enghraifft ohonynt yw:

  • 'geometreg algebraidd tafluniol' (astudiaeth o wahanol fathau o dafluniadau) a
  • 'geometreg tafluniol gwahaniaethol' (yr astudiaeth o'r sefydlog gwahaniaethol ('differential invariants) o'r trawsffurfiadau tafluniol).

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ramanan 1997, t. 88
  2. Coxeter 2003
  3. Coxeter 1969, tud. 229
  4. Gwaith Filippo Brunelleschi (1404–1472)
  5. Coxeter 2003, t. 14