Ongl
Mewn geometreg, y ffigur a ffurfir gan ddwy linell sy'n cwrdd ar fertig (cornel) yw ongl.[1] Mae'r ongl hefyd yn fesuriad o gylchdroad, y gymhareb o hyd arc i'w radiws. Mesurir onglau yn aml mewn graddau (°), ond y radian yw'r uned safonol. Ceir 360° mewn un troad cylch, a 2π radian mewn un troad cylch.[2] Gellir mesur onglau gydag onglydd. Defnyddir y llythyren Roeg theta (θ) fel symbol mathemategol am ongl.
MathauGolygu
- Ongl sgwâr
Ongl sydd rhwng dwy linell bependicwlar; chwarter troad cylch; hanner ongl syth.
- Ongl lem
Ongl sy'n llai nag ongl sgwâr.
- Ongl aflem
Ongl sy'n fwy nag ongl sgwâr ond yn llai nag ongl syth.
- Ongl syth
Yr ongl sydd gan linell syth; hanner troad cylch; dwbl ongl sgwâr.
- Ongl atblyg neu allblyg
Ongl sy'n fwy nag ongl syth ond yn llai nag un troad cylch.
- Ongl lawn
Un troad cylch; dwy ongl syth; pedair ongl sgwâr.
- Onglau cyflenwol
Dwy ongl sy'n ffurfio ongl sgwâr.
- Onglau atodol
Dwy ongl sy'n ffurfio ongl syth.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Sidorov, L.A. (2001), "Angle", yn Hazewinkel, Michiel, Encyclopedia of Mathematics, Springer, ISBN 978-1-55608-010-4
- ↑ (Saesneg) Joyce, David E. (2006). Angle measurement. Prifysgol Clark. Adalwyd ar 31 Hydref 2012.