Crucywel

tref a chymuned ym Gymru

Tref a chymuned yn ne-ddwyrain Powys, Cymru, yw Crucywel[1] (Saesneg: Crickhowell) neu weithiau Crughywel a Crug Hywel.[2][3] Saif ar Afon Wysg ac ar y ffordd A40.

Crucywel
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,063 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSkaer Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd624.66 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8597°N 3.1372°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000267 Edit this on Wikidata
Cod OSSO217186 Edit this on Wikidata
Cod postNP8 Edit this on Wikidata
Map

Tardda'r enw o'r bryn Crug Hywel a'i fryngaer gerllaw. Mae’r dref yn sefyll ar Afon Wysg ar ochr ddeheuol y Mynydd Du yn rhan ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae poblogaeth o ryw 2,000 yn byw yn y dref.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

Mae adeiladau sydd o ddiddordeb arbennig yn y dref yn cynnwys eglwys blwyf St Edmund, sy’n dyddio o’r 14g, gweddillion castell Crucywel ar y “twmp” a’r bont o’r 17g. Mae gan y bont ddeuddeg bwa ar un ochr a thri bwa ar ddeg ar yr ochr arall.

  • Castell Crucywel
  • Eglwys Sant Edmwnd
  • Pont ar Wysg
  • Ysgol Crucywel
Henebion yng Crucywel
 
Pont ar Wysg
Pont ar Wysg 
 
Castell Crucywel
Castell Crucywel 

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Crucywel (pob oed) (2,063)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Crucywel) (169)
  
8.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Crucywel) (1282)
  
62.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Crucywel) (380)
  
40.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion golygu

Gefeilldref golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. D. Geraint Lewis, Y Llyfr Enwau: Enwau'r Wlad (Gwasg Gomer, 2007)
  3. Gwyddoniadur Cymru (Gwasg PrifysgolCymru, 2008), tud. 201
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]