Gethin Jones (cyflwynydd teledu)

cyflwynydd teledu Cymreig

Cyflwynydd teledu yw Gethin Clifford Jones (ganwyd 12 Chwefror 1978). Cychwynodd ei yrfa gyflwyno ar raglenni Uned 5 a Popty ar S4C. Ar 27 Ebrill 2005, daeth yn 31ain cyflwynydd Blue Peter, y rhaglen deledu hir-hoedlog i blant ar y BBC. Daeth ei gyfnod ar y sioe i ben yn Mehefin 2008.

Gethin Jones
Ganwyd12 Chwefror 1978 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd, chwaraewr rygbi'r undeb, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • ITV Breakfast Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganwyd Jones yng Nghaerdydd, yn fab i Sylvia (née Groskop), athrawes feiloin, a Goronwy Jones, prifathro Ysgol Gynradd Baden Powell. Mae ganddo chwaer hŷn, Mererid.[1] Roedd un o'i hen ddadcu-od ar ochr ei fam yn mewnfudwr Iddewig Pwylaidd.[2][3] Cymraeg oedd ei iaith gyntaf, a mynychodd Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Mae ganddo gymwysterau Gradd 8 feiolin a Gradd 6 piano gan Fwrdd Cysylltiedig yr Ysgolion Cerdd Brenhinol,[4] a cymerodd ran mewn sioeau cerdd yn yr ysgol a chwarae mewn cherddorfeydd ysgol a sirol. Ar gyfer ei Lefel A dewisodd astudio Bioleg, Daearddiaeth ac Economeg [5][6][7]

Roedd gan Jones dau brif ddiddordeb yn yr ysgol. Roedd ei fam am iddo ddatblygu eu dalentau cerddorol, tra roedd e'n mwynhau chwarae rygbi. Tra'n astudio Economeg a Daearyddiaeth ym Prifysgol Fetropolitan Manceinion, lle enillodd radd 2:2,[4][6] roedd yn gapten tim rygbi cyntaf y brifysgol a chwaraeodd yn nhîm dan 21 Swydd Gaerhirfryn. Yn ei flwyddyn olaf yn y coleg, cynigiwyd prawf iddo gan Sale RFC.[6] Fodd bynnag, ar ôl i'w dad wrthod cynnig o gymorth ariannol ac fe gafodd trafferthion yn ceisio chwarae tra hefyd yn gweithio fel hyfforddwr gampfa, gan weld fod ei berfformiad ar y cae yn dioddef. Yn y pen draw, rhoddodd y gorau i'w gynlluniau ar gyfer gyrfa rygbi broffesiynol a dychwelodd i Gymru.[5]

Roedd yn un o'r Jones's a dorodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd rhan.[8][9][10]

Cymrodd ran ar raglen Strictly Come Dancing ar BBC One, gan ddawnsio am y tro cyntaf ers iddo ddawnsio a chanu gwerin yn Eisteddfod yr Urdd pan oedd yn iau.[11][12]

Bywyd personol

golygu

Ar 6 Chwefror 2011, cyhoeddwyd ei fod wedi dyweddïo i'w gariad, y gantores Katherine Jenkins.[13] Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr 2011 cyhoeddwyd fod y berthynas wedi dod i ben.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Catherine Evans (9 Rhagfyr 2007), "Katherine and Gethin's first meeting", Wales on Sunday (atgynhyrchwyd ar icWales.co.uk), http://icwales.icnetwork.co.uk/whats-on/whats-on-news/2007/12/09/katherine-and-gethin-s-first-meeting-91466-20223485
  2. [1]
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-20. Cyrchwyd 2016-06-16.
  4. 4.0 4.1 David Greenwood (25 Ionawr 2005), "Blue Peter job is like a dream", Daily Post (atgynhyrchwyd ar icNorthWales.co.uk), http://icnorthwales.icnetwork.co.uk/news/regionalnews/tm_objectid=15113905&method=full&siteid=50142&headline=blue-peter-job-is-like-a-dream-name_page.html
  5. 5.0 5.1 Jenny Johnston (19 Rhagfyr 2007), "From rugby player to ballroom star: Strictly's 'Gorgeous Gethin' driven to succeed by a need for his father's approval", Daily Mail (London), http://www.dailymail.co.uk/pages/live/articles/showbiz/showbiznews.html?in_article_id=503563&in_page_id=1773
  6. 6.0 6.1 6.2 Jonatha Sale [interviewer] (15 Mawrth 2007), "Passed/Failed: An education in the life of Gethin Jones, 'Blue Peter' presenter: 'All of my lessons were in Welsh'", The Independent (London), http://student.independent.co.uk/future/careers_advice/article2356916.ece[dolen farw]
  7. gan ennill E yn bioleg, D yn daearyddiaeth, C yn Economeg a A mewn cerddoriaeth Lefel AS. Jonathan Sale [interviewer] (15 March 2007), "Passed/Failed: An education in the life of Gethin Jones, 'Blue Peter' presenter: 'All of my lessons were in Welsh'", The Independent (London), http://student.independent.co.uk/future/careers_advice/article2356916.ece[dolen farw]
  8. 'Darlledu Sioe’r Jonesiaid a Dorrodd Record Byd' 26 Tachwedd 2006 S4C
  9. "1,224 o Jonesiaid yn torri record byd!". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-01. Cyrchwyd 2007-11-07.
  10. Meet the Joneses for world record BBC 19 Gorffennaf 2006
  11. Show has a grand day out with Gethin Jones, Sian Eirian, Western Mail 22 Tachwedd 2007
  12. "Gethin ar wefan Strictly Come Dancing". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-23. Cyrchwyd 2007-11-23.
  13. Katherine Jenkins, Gethin Jones engaged Archifwyd 2011-02-08 yn y Peiriant Wayback Gwefan Digitial Spy. 06-02-2011.
Rhagflaenydd:
Simon Thomas
Cyflwynydd Blue Peter Rhif 31
2005 – 2008
Olynydd:
Joel Defries
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.