Getxo

dinas yng Ngwlad y Basg

Tref yn nhalaith Bizkaia yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yw Getxo. Saif ar ochr dde yr aber a ffurfir gan Afon Ibaizabal ac Afon Nerbioi. Mae'n rhan o ardal ddinesig Bilbo (Bilboaldea), 14 km o ddinas Bilbo ei hun. Roedd y boblogaeth yn 81,746 yn 2007.

Getxo
Mathbwrdeistref Sbaen Edit this on Wikidata
Poblogaeth76,104 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAmaia Agirre Muñoa Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iAngelu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBizkaia Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
Baner Sbaen Sbaen
Arwynebedd11.89 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr50 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Cantabria Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSopela, Berango, Erandio, Leioa, Portugalete Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.3442°N 3.0064°W Edit this on Wikidata
Cod post48990 - 48991 - 48992 - 48993 - 48930 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Getxo Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAmaia Agirre Muñoa Edit this on Wikidata
Map
Arfbais Getxo

Yn 2001, roedd 19.9% o'r boblogaeth yn medru Basgeg yn dda (o'i gymharu a dim ond 9% yn 1981), 31.5% yn medru rhywfaint o Fasgeg a 48.56% heb fedru dim.

Mae Getxo yn nodedig am Bont Bizkaia sy'n cysylltu Las Arenas, rhan o Getxo, a Portugalete yr ochr arall i'r aber. Hon yw'r enghraifft gyntaf yn y byd o bont gludo. Enwyd y bont fel Safle Treftadaeth y Byd yn 2006

Getxo yw'r enw Fasgeg ac unig enw swyddogol y dref. Cyn 1989, defnyddiwyd y sillafiad Guecho yn Sbaeneg.

 
Pont Bizkaia.

Pobl enwog o Getxo

golygu