Angelu
Angleu (enw swyddogol Ffrangeg: Anglet) yw'r ail fwrdeistref fwyaf yn Lapurdi, ar ôl Baiona, ac mae'r ddwy hyn ynghyd â Biarritz yn ffurfio'r ardal fetropolitan a elwir yn BAM neu BAB, y fwyaf poblog yng Ngogledd Gwlad y Basg a'r pumed yng Ngwlad y Basg i gyd.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 41,153 |
Pennaeth llywodraeth | Claude Olive |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Ansbach |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pyrénées-Atlantiques, canton of Anglet-Nord, canton of Anglet-Sud, Lapurdi, arrondissement Baiona |
Gwlad | Gwlad y Basg Ffrainc |
Arwynebedd | 26.93 km² |
Uwch y môr | 38 metr, 0 metr, 76 metr |
Gerllaw | Bae Bizkaia, Aturri |
Yn ffinio gyda | Biarritz, Tarnos, Arcangues, Bassussarry, Baiona, Boucau |
Cyfesurynnau | 43.4842°N 1.5194°W |
Cod post | 64600 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Anglet |
Pennaeth y Llywodraeth | Claude Olive |
Enw
golyguEnw Basgeg y dref yw Angleu (/aŋɡelu/); ac yn Ffrangeg a Gwasgwyneg, Anglet (/ɑ̃ɡlet/ yn Ffrangeg ac /aŋˈɡlet/ yn Gwasgwyneg).
Mae'n debyg bod yr enw'n dod o'r gair Lladin angulus, sef lle siâp cornel, yn ôl gwaith Bénédte Boyrie-Fénié.[1] Cymer Koldo Mitxelena lwybr cyffelyb, ond gyda'r gair Lladin angellus fel sail (dywedir mai angulus yw'r ffurf bachigol), a dywed mai'r un tarddiad sydd i enw tref Ibarrangelu.[2]
Dywed Larramendi fod y gair angelu yn y Fasgeg yn golygu "dyffryn" neu "pant". [2] Ym marn Goienetxe, mae'n deillio o'r Lladin.[3]
Daearyddiaeth
golyguMae Angelu yn rhyw guddio rhwng Baiona a Biarritz, sydd yn fwy adnabyddus, ac mae'n anodd diffinio'r ffiniau rhwng y tair. Mewn gwirionedd, mae BAM neu BAB yn ganolfan drefol gref, ac mae mwy na hanner trigolion talaith Lapurdi yn byw yno. Ond gydag arwynebedd 26.5 km2 mae gan Angelu arwynebedd fwy na Baiona, ac mae ganddi ddwywaith arwynebedd Biarritz.Mae arfordir Angelu hefyd yn hirach: mae traeth Angelu yn cychwyn wrth aber afon Atturri ac yn parhau hyd at bentir San Martin lle mae goleudy Biarritz.
Amgylchedd naturiol
golyguMae 10% o'r fwrdeistref dan goed pinwydd, yn enwedig yn ardaloedd Pignada, Lazaret a Xiberta. Mae'n ardal wastad iawn heb unrhyw fryniau.
Y traethau
golyguMae gan Angelu 4.5 cilometr o arfordir ac 11 traeth, o'r gogledd i'r de ceir:
- Barrakoa
- Zaldunena
- Dunena
- Itsasokoa
- Madraga
- Madragattipia
- Xibertakoa
- Mariñela
- Traeth Urrezko
- Plage du Club
- Amodio Ganbera
Mae ogof o'r enw Amodio Ganbera yn nodi'r ffin rhwng arfordir Gwlad y Basg a'r Côte d'Argent yn y Landes.
Bwrdeistrefi sy'n ffinio ag Angelu
golygu- Tarnose (Landes) a Bokale yn y gogledd.
- Baiona i'r dwyrain .
- Basusarri o'r de-ddwyrain.
- Biarritz i'r de-orllewin.
- Arrangoitze yn y de.
- Bae Bizkaia yn y gorllewin.
Gefeilldrefi
golyguDemograffeg
golyguDiwylliant
golyguIeithoedd
golyguFel Biarritz a Baiona, gan ei bod wedi'i lleoli ar y ffin rhwng Gwasgwyn a Gwlad y Basg, mae lle i amau ai Gwasgwyneg ai Basgeg oedd prif iaith y fwrdeistref yn yr Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynnar.
Roedd Atlas Linguistique de Gascogne yn ystyried Angleu fel tref Gwasgwyneg. Yn 1863, ar y llaw arall, sefydlodd Luis Luziano Bonaparte ffin yr iaith Fasgeg yn Angelu, a oedd yn ddiamau yn drech mewn rhai ardaloedd. Fodd bynnag, yn yr 20fed ganrif, Ffrangeg yw'r iaith swyddogol a'r brif iaith a glywir yno.
Mae gan y dref arwyddair Gwasgwynegon : "Mar e pignada per m'ayda", sydd yn golygu "y môr a'r goedwig pinwydd i fy helpu".
Yn 2001, sefydlodd 15 o bobl y mudiad "Ipar Izar" i hybu'r Fasgeg; mae sefydliad Ací Gasconha [4] yn gweithio i hyrwyddo'r Gwasgwyneg[5].
Adeiladau nodedig
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Bénédicte Boyrie-Fénié, "Dictionnaire toponymique des communes des Landes et du Bas-Adour", Cairn 2005, 255. orr.
- ↑ 2.0 2.1 Michelena, Luis (1997) (yn es), Apellidos vascos, Editorial Txertoa, pp. 48-49, ISBN 84-7148-008-5
- ↑ Goyhenetche, Manex (2004). Ipar Euskal Herria Antso Nagusiaren garaian. Euskal Herria XI. mendean: Antso III.a Nagusiaren erregealdia (1004-1035). Iruña: Pamiela/Nabarralde. 78. or. ISBN: 84-7681-413-5
- ↑ Ací Gasconha, gaskoiniar kultura taldea
- ↑ Auñamendi Entziklopedia: Angelu