Cerflunydd o Sanclêr ydy Gideon Petersen, mae'n byw yn Llandisilio, Sir Benfro. Astudiodd Celfyddyd Gain yn y brifysgol. Mae'n defnyddio metel yn bennaf ond mae hefyd yn cyfuno lledr, pren a gwydr yn ei waith.

Gideon Petersen
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerflunydd Edit this on Wikidata

Mae ei dad David Petersen hefyd yn gerflunwr. Enillodd y teulu'r cyfle i greu'r Oleufa Cenedlaethol ar gyfer dathliadau'r Mileniwm.[1] Gideon a'i frawd Toby Petersen ddyluniodd y stamp dosbarth cyntaf gyda'r ddraig arni wedi ei gerfio o ddur gwrthstaen.[2]

Toby a Gideon greodd cerflun coffa Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn Llanymddyfri.[3]

Dolenni Allanol golygu

Ffynonellau golygu

  1. Millennium beacon ready for big night 29 Rhagfyr 1999
  2. The GB Virtual Album:Pictorial Regionals Archifwyd 2015-01-30 yn y Peiriant Wayback. Stampiau Cymru 1999
  3. "Llywelyn's Memorial, BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-23. Cyrchwyd 2007-12-02.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.