Llandysilio, Sir Benfro

pentref yn Sir Benfro
(Ailgyfeiriad o Llandisilio)

Pentref yng nghymuned Gorllewin Llandysilio, Sir Benfro, Cymru, yw Llandysilio[1] neu Llandysilio-yn-Nyfed (Seisnigiad: Llandissilio).[2] Saif ar briffordd yr A478 rhwng Arberth a Crymych, ac ychydig i'r gogledd o bentref Clunderwen. Enwir y pentref (a'r plwyf eglwysig) ar ôl Sant Tysilio. Yn y plwyf hwn roedd Maenor Silian, ac roedd y pentref oddi fewn i Gantref Gwarthaf, un o saith gantref teyrnas Dyfed yn yr Oesoedd Canol. Yn 1563 roedd yma 64 o gartrefi ac yn 1981 roedd yma boblogaeth o 458.[3]

Llandysilio
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.86282°N 4.73276°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map
Am lleoedd eraill o'r enw "Llandysilio", gweler Llandysilio (gwahaniaethu).
Eglwys Llandysilio
Capel Blaenconin, capel y Bedyddwyr lle'r addolai'r bardd Waldo Williams

Yn ôl yr hynafiaethydd George Owen, ar ddechrau'r 16g roedd ffin ieithyddol Sir Benfro, neu'r llinell Landsker, yn rhedeg trwy Llandysilio. Yn 1891 roedd 97% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg (a 75% y rheiny'n siarad y Gymraeg yn unig). O fewn deg mlynedd roedd canran y rhai hynny a siaradai Gymraeg yn unig wedi syrthio i 29%.[4]

Yn Ionawr 1915 daeth Waldo Williams i fyw yma, gyda'i dad yn brifathro. Tri mis ar ôl symud yno bu farw ei chwaer fach Morfudd.[5] Flynyddoedd yn ddiweddarach, ysgrifennodd Waldo soned i'r pentref, a orffenai gyda'r geiriau:

Gwelem yn glaerwyn iach...
Dysilio alltud na chwenychai gledd
Ym Meifod gynt, rhag gorfod tynnu cledd.

Mae'r cerflunydd Cymreig Gideon Petersen (g. 1971) yn byw yma.

Hanes cynnar

golygu

Oes y Cerrig newydd i'r Oes Efydd

golygu

Mae dau safle o Oes y Cerrig Newydd, lle'r arferid creu bwyelli, yn agos i'r pentref: Carnmeini, ger Mynachlog Ddu a Glynyfran, ger Crymych. Yn yr ardal, ceir llawer o feini hir a chromlech; yr agosaf yw Gwâl y Filiast, yn Nolwilym, tua 3.5 km i'r dwyrain o Efailwen. Ceir cwrsws yma hefyd, sef ffosydd cyfochrog a redai am filltiroedd - ceir un arall ger Côr y Cewri. Eu pwrpas, mae'n debyg, oedd ar gyfer gorymdeithiau defodol. Mae'r cwrsws yn hynod o brin ac yn dyddio i rhwng 4,000 CC a 2,500 CC. Canfuwyd tair twmpath claddu o'r Oes Efydd, ger y pentref: Penyrardd a dau yng Nghrugiau. Cloddiwyd Crug Crwn Penyrardd yn 1913 a chanfuwyd gweddillion a gorfflosgwyd 1.2 metr oddi fewn i'r twmpath. Nid yw'r ddau grug arall wedi'u cloddio (hyd at 2018). Mae'r twmpathau hyn rhwng 800 CC a 2,500 CC ac felly'n perthyn i gyfnod y Celtiaid.

Oes y seintiau

golygu

Ceir sawl amgaead (enclosures) ar dir Fferm Pencnwc, i'r dwyrain o Fryngaer Castell Gwyn, ac a ddyddiwyd o'r 6g i'r 10g, sef diwedd Oes y Seintiau.

Eglwys Sant Tysilio

golygu

Enwyd yr eglwys ar ôl Sant Tysilio, ac mae wedi'i chofrestru'n Radd II, yn bennaf oherwydd y cerrig hynafol (isod).[6] Mae waliau'r eglwys yn Ganol Oesol. Mae'r fynwent yn gron, sy'n awgrym ei bod yn hŷn na Christnogaeth.

Ceir pump carreg hynafol o fewn yr eglwys sy'n dyddio i rhwng 5g a'r 7g. Y pwysicaf, efallai, y 'Carreg Clodri', a ddyddiwyd i'r 5g ac sy'n coffhau gŵr o'r enw Clutorix (Clodri). Fe'i cofnodwyd yn gyntaf gan yr hynafiaethydd Lewis Morris yn 1745. Yn 1838, pan adnewyddwyd yr adeilad, fe'i hymgorfforwyd yn wal allanol yr eglwys. Yr arysgrifen Ladin ar y garreg yw: CLVTORIGI FIL(I) PAVLINI MARINILATIO a gyfieithir i: 'Clodri, mab Paulinus,Marinus o Latium'. Ceir darn o garreg arall, o'r un cyfnod ag arni'r llythrennau RIAT, ond ni wyddys eu hystyr, heb weddill yr asgrifen. Gosodwyd carreg a ddygwyd yma o blwyf cyfagos (Egremont), ac a osodwyd ar lawr yr eglwys; arni mae'r arysgrifen CARANTACVS, sef Caradog. Dyddir hon o'r 6g. Mae dwy garreg arall yn perthyn i'r 7g yn yr eglwys; llun Croes Geltaidd sydd ar y naill, a'r ysgrifen EUOLENGGI FILI LITOGENI HIC IACIT ('Efolegus mab Litogenus') ar y llall.[7]

Yr Oesoedd Canol

golygu

Yn 1326 cafwyd arolwg eglwysig o holl diroedd Tyddewi, a adnabyddir fel Llyfr Du Tyddewi. Mae'n cynnwys disgrifiadau o 'Dir Llawhaden', sy'n cynnwys Llandysilio. Ymhlith y tiroedd a enwyd mae'r canlynol: Hendre Cradog, Condref, Keverthawayn, Brymayloc, Magoyr Ayth'n, Trefwynto, Merynon, Tirmeyron, Roffodyn, Loydarth, Castell Bugelyn, Presclegyrn, Mayrnoblet, Karenny, Stiflond a Llandenaugh Teg. Er fod orgraff yr iaith wedi newid, a'n dull o sillafu, mae rhai o'r rhain yn dal i'w canfod yn yr ardal:

  • Llwydiarth (Loydarth): ardal fawr mynyddig (a adnabyddid hefyd fel 'Coedwig yr Esgobion'.
  • Fferm Carennydd (Karenny)
  • Hendre Fawr (Hendre Cradog). Nodir yn y Llyfr Du fod y fferm yn 2 'garwgad'. Carwgad oedd darn o dir y gellid ei aredig gydag wyth ychen, mewn blwyddyn (tua 100 erw).
  • Castell Bugelyn: tiroedd Walter ap Eynon a Llewellyn y Caplan; ni wyddys ei leoliad, fodd bynnag.

Mae Llyfr Du Tyddewi hefyd yn nodi enwau'r teuluoedd (y 'gwelyau' yn y traddodiad Cymreig). Mae'r enwau'n dangos fod Llandysilio'n, yn y 14g, yn gymuned gwbwl Gymreig, yn wahanol i Lanhuadain ble ceid cymysgedd o Gymry, Ffleminiaid ac Eingl-Normaniaid. Roedd yr holl ardal yn defnyddio Cyfreithiau Hywel, nid y cyfreithiau estron.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 12 Tachwedd 2021
  3. Cyfrifiad Esgob tyddewi, 1563.
  4. "Pembrokeshire History - Llandissilio West". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-31.
  5. Cerddi Waldo Williams. Gwasg Gregynog, 1992; Rhagair gan J. E. Caerwyn Williams, tud 8.
  6. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 25 Medi 2018.
  7. Hanes Llantydilio gan Gymdeithas Hanes ac Adloniant Llandysilio (2005).