Giambattista Vico
Athronydd, hanesydd, a chyfreithegwr o Eidalwr oedd Giambattista Vico (Giovanni Battista Vico; 23 Mehefin 1668 – 23 Ionawr 1744) sy'n nodedig am arloesi hanes diwylliannol, anthropoleg ddiwylliannol, ac ethnoleg. Ei gampwaith ydy Scienza nuova (1725), gwaith sy'n ceisio cysylltu hanesyddiaeth a gwyddorau cymdeithas i greu un "wyddor y ddynolryw".
Giambattista Vico | |
---|---|
Ganwyd | Giovan Battista Vico 23 Mehefin 1668 Napoli |
Bu farw | 23 Ionawr 1744 Napoli |
Dinasyddiaeth | Kingdom of Naples |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, cymdeithasegydd, hanesydd, casglwr straeon, cyfreithegwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The New Science, De nostri temporis studiorum ratione, De antiquissima Italorum sapientia, De rebus gestis Antonii Caraphaei |
Priod | Teresa Caterina Destito |
Ganwyd yn Napoli. Bachgen sâl ydoedd, ac er na chafodd fawr o addysg yn yr ysgol mi oedd yn ddarllenwr brwd. Gweithiodd am gyfnod fel tiwtor cyn iddo gael ei benodi'n athro rhethreg ym Mhrifysgol Napoli yn 1699. Penodwyd yn hanesydd llys i Frenin Napoli yn 1734.
Lluniodd ddull systematig o ymchwilio i'r gorffennol, ac mae ei waith yn nodweddiadol o hanesyddoliaeth a damcaniaethau am gylchred gwareiddiad, ac yn dadlau bod holl nodweddion cymdeithas a diwylliant yn berthnasol i astudiaeth hanes, a dylid barnu cyfnodau hanes yn ôl safonau a moesau'r lle a'r oes dan sylw. Egwyddor ei ysgolheictod oedd verum esse ipsum factum ("yr hyn a wneir ydy'r gwir"), yn groes i feddylfryd Descartes ynglŷn ag epistemoleg: hynny yw, yn ôl Vico, gallwn deall hanes a chymdeithas yn well na'r byd naturiol am yr union reswm taw pethau a wneid gan ddyn, nid Duw, ydynt. Cafodd ei esgeuluso am ryw canmlwydd a hanner, cyn i ysgolheigion yn niwedd y 19g gydnabod ei bwysigrwydd fel yr hanesydd modern cyntaf o'i fath.
Bywgraffiad
golyguGanwyd Giovanni Battista Vico yn Napoli, Teyrnas Napoli, ar 23 Mehefin 1668, yn unig blentyn i Antonio a Candida Vico. Bu bron iddo farw yn fachgen oherwydd toriad i'w benglog, ac o ganlyniad ni chafodd fawr o addysg yn yr ysgol. Gwerthwr llyfrau oedd Antonio, ac felly bu Giovanni yn darllen yn frwd yn y cartref. Mynychodd brifysgol yr Iesuwyr am gyfnod, er iddo ddim ond mynd i'r darlithoedd a oedd o ddiddordeb iddo. Treuliodd ran fawr o'i amser yn astudio rhesymeg a metaffiseg yr ysgolwyr cyn iddo ymddiddori yn y gyfraith. Ar sail yr hunanaddysg hon, llwyddodd Giovanni i amddiffyn ei dad mewn achos cyfreithiol pan oedd dim ond yn 16 oed. Er y gamp honno yn yr ystafell lys, gwrthododd Giovanni trin y gyfraith eto drwy gydol ei oes.[1]
Gweithiodd fel tiwtor i berthnasau teulu Esgob Ischia o 1685 i 1695, tra'n byw yn Vatolla ger Perdifumo. Dyma'r unig gyfnod o'i oes y bu'n byw y tu allan i ddinas Napoli, ac mae'n debyg dyma oedd cyfnod hapusaf ei oes. Treuliodd ei amser rhydd yn darllen am athroniaeth, hanes, moeseg, cyfreitheg, a barddoniaeth. Gwybodaeth arwynebol oedd ganddo o wyddoniaeth, ac nid oedd yn hoff o fathemateg o gwbl.[1]
Dychwelodd Vico i Napoli yn 1697, a chafodd ei benodi'n athro rhethreg ym Mhrifysgol Napoli yn 1699. Yn y swydd hon, traddododd ddarlith agoriadol ar ddechrau pob blwyddyn academaidd o 1699 i 1708. Penodwyd yn hanesydd llys i Frenin Napoli yn 1734. Cyhoeddodd tair chyfrol o astudiaethau cyfreithiol (1720–22). Er ei weithgarwch academaidd, ni chafodd Vico ei benodi'n athro y gyfraith Rufeinig. Er mwyn cynnal ei deulu mawr bu'n rhaid iddo ennill rhagor o incwm drwy ysgrifennu barddoniaeth a molawdau ar gomisiwn. Bu farw yn Napoli ar 23 Ionawr 1744, yn 75 oed, wedi afiechyd hir a phoenus.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Giambattista Vico" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 28 Mehefin 2019.
Darllen pellach
golygu- Maeve Edith Albano, Vico and Providence (Efrog Newydd: P. Lang, 1986).
- Thomas Berry, The Historical Theory of Giambattista Vico (Washington, D.C.: Catholic University of America Press, 1949).
- Peter Burke, Vico (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1985).
- A. Robert Caponigri, Time and Idea: The Theory of History in Giambattista Vico (Llundain: Routledge & Kegan Paul, 1953).
- Antonio Corsano, Giambattista Vico (Bari, Puglia: Laterza, 1956).
- Benedetto Croce, The Philosophy of Giambattista Vico (1913).
- Robert Flint, Vico (Caeredin: W. Blackwood, 1884).
- C. L. Stephenson, Giambattista Vico and the Foundations of a Science of the Philosophy of History (1982).
- Donald Phillip Verene, Vico's Science of Imagination (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 1981).