Yr Eidal
Gwlad yn ne Ewrop yw Gweriniaeth yr Eidal neu'r Eidal (Eidaleg: Italia). Mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn benrhyn mawr siâp esgid uchel gyda nifer o ynysoedd yn y Môr y Canoldir: Sisili a Sardegna ydyw'r mwyaf. Yn y gogledd mae mynyddoedd yr Alpau. Ceir môr ar dair ochr i'r Eidal, ond yn y gogledd mae'n ffinio ar Ffrainc, y Swistir, Awstria, a Slofenia. Y tu mewn i'r Eidal mae dwy wladwriaeth fach: San Marino a Dinas y Fatican.
![]() | |
Repubblica Italiana | |
![]() | |
Arwyddair |
Made in Italy ![]() |
---|---|
Math |
gwladwriaeth sofran, gwlad ![]() |
![]() | |
Prifddinas |
Rhufain ![]() |
Poblogaeth |
60,317,000 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem |
Il Canto degli Italiani ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Giuseppe Conte ![]() |
Cylchfa amser |
Europe/Rome ![]() |
Nawddsant |
Ffransis o Assisi, Catherine of Siena ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Eidaleg ![]() |
Nifer a laddwyd |
633,133 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Ewrop ![]() |
Arwynebedd |
301,338 km² ![]() |
Gerllaw |
Môr Adria, Môr Tirrenia, Môr Ionia, Môr Liguria, Y Môr Canoldir ![]() |
Yn ffinio gyda |
San Marino, Y Fatican, Ffrainc, Y Swistir, Awstria, Slofenia, Malta ![]() |
Cyfesurynnau |
42.5°N 12.5°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Llywodraeth yr Eidal ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Senedd yr Eidal ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth |
Arlywyddion yr Eidal ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Sergio Mattarella ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Prif Weinidog yr Eidal ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Giuseppe Conte ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) |
1,934,798 million US$ ![]() |
CMC y pen |
32,110 US$ ![]() |
Arian |
Ewro ![]() |
Canran y diwaith |
12 ±1 % ![]() |
Cyfartaledd plant |
1.39 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.873 ![]() |
HanesGolygu
Mae hanes yr Eidal yn mynd yn ôl i gyfnod cynnar iawn, er mai yn gymharol ddiweddar yr unwyd yr Eidal i greu'r wladwriaeth fodern.
Daw'r enw Italia o'r hen enw am bobloedd a thiriogaeth de yr Eidal. Yn y rhan yma, roedd nifer o bobloedd wahanol, megis yr Etrwsciaid, Samnitiaid, Umbriaid a Sabiniaid. Yn y gogledd, ymsefydlodd llwythau Celtaidd o gwmpas dyffryn afon Po.
Yn rhan ddeheuol yr orynys ac ar ynys Sisili, ymsefydlodd Groegiaid rhwng 800 a 600 CC, a gelwid y rhan yma yn Magna Graecia ("Groeg Fawr") mewn Lladin. Yn y gogledd, yr Etrwsciaid oedd y grym mwyaf yn y cyfnod cynnar. Yn y 4 CC gorchfygwyd hwy gan y Rhufeiniaid, ac yn y 3 CC gorchfygodd Rhufain y Groegiaid yn y de hefyd.
Bu cyfres o ryfeloedd, y Rhyfeloedd Pwnig, rhwng Rhufain a Carthago; yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig bu'r cadfridog Carthaginaidd Hannibal yn ymgyrchu yn yr Eidal am flynyddoedd. Er iddo ennill nifer o fuddugoliaethau ysgubol dros y Rhufeiniaid, bu raid iddo encilio o'r Eidal yn y diewedd. Ar ddiwedd y Trydydd Rhyfel Pwnig yn 146 CC, dinistriwyd Carthago.
Tyfodd Ymerodraeth Rhufain yn gyflym yn y cyfnod canlynol; concrwyd Gâl gan Iŵl Cesar rhwng 60 a 50 CC. Daeth ei fab mabwysiedig, Augustus, yn ymerawdwr cyntaf Rhufain.
Daeth yr ymerodraeth yn y gorllewin i ben yn y 5g, a meddiannwyd yr Eidal gan bobloedd Almaenig megis yr Ostrogothiaid a'r Lombardiaid. Ffurfiwyd nifer o wladwriaethau.
Dim ond yn y 19g yr ad-unwyd yr Eidal, gyda Giuseppe Garibaldi yn un o'r prif ysgogwyr. Sefydlwyd Teyrnas yr Eidal yn 1861. Daeth Benito Mussolini, arweinydd plaid y Ffasgwyr yn Brif Weinidog yn 1922. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, daeth Mussolini a'r Eidal i mewn i'r rhyfel ar ochr yr Almaen. Diswyddwyd ef yn 1943, a'i saethu yn 1945.
Ar 2 Mehefin 1946, cafwyd pleidlais mewn refferendwm i ddileu'r frenhiniaeth ac i sefydlu Gweriniaeth yr Eidal. Mabwysiadwyd y cyfansoddiad newydd ar 1 Ionawr 1948.
RhanbarthauGolygu
Mae'r Eidal wedi'i rhannu yn 20 o ranbarthau (regioni, unigol regione).
-
Rhanbarth Prifddinas 1 Abruzzo L'Aquila 2 Valle d'Aosta Aosta 3 Puglia Bari 4 Basilicata Potenza 5 Calabria Catanzaro 6 Campania Napoli 7 Emilia-Romagna Bologna 8 Friuli-Venezia Giulia Trieste 9 Lazio Rhufain 10 Liguria Genova 11 Lombardia Milan 12 Marche Ancona 13 Molise Campobasso 14 Piemonte Torino 15 Sardinia Cagliari 16 Sisili Palermo 17 Trentino-Alto Adige Trento 18 Toscana Fflorens 19 Umbria Perugia 20 Veneto Fenis
GwleidyddiaethGolygu
Ar 8 Mai, 2008, daeth Silvio Berlusconi yn Brif Weinidog yr Eidal am y trydydd tro, fel olynydd i Romano Prodi. Roedd Berlusconi hefyd yn Brif Weinidog o 1994 hyd 1995 ac o 2001 hyd 2006. Ymddiswyddodd mewn cywilydd ar 16 Tachwedd 2011 oherwydd diffyg arian y wlad a phenodwyd Mario Monti yn ei le.
DaearyddiaethGolygu
Gwlad yn ne Ewrop sy'n ymestyn allan fel gorynys hir i ganol Môr y Canoldir yw'r Eidal. Mae hefyd yn cynnwys nifer o ynysoedd; y mwyaf yw Sisili a Sardinia. Mae'n ffinio ar y Swistir, Ffrainc, Awstria, Slofenia, ac mae San Marino a Dinas y Fatican yn cael eu hamgylchynu gan yr Eidal.
Gwlad fynyddig yw'r Eidal. Yn y gogledd, ceir yr Alpau, sy'n ffurfio ffîn ogleddol y wlad. Y copa uchaf yw Monte Bianco (Ffrangeg: Mont Blanc), 4,807.5 medr o uchder, ar y ffîn rhwng yr Eidal a Ffrainc. Mynydd adnabyddus arall yw'r Matterhorn (Cervino mewn Eidaleg, ar y ffîn rhwng yr Eidal a'r Swistir. Ymhellach tua'r de, mae mynyddoedd yr Apenninau yn ymestyn o'r gogledd i'r de ar hyd yr orynys. Ceir y copa uchaf yn yr Apenninau Canolog, y Gran Sasso d'Italia (2,912 m). Ceir nifer o losgfynyddoedd byw yn yr Eidal: Etna, Vulcano, Stromboli a Vesuvius.
Afon fwyaf yr Eidal yw Afon Po, sy'n tarddu yn yr Alpau Cottaidd ac yn llifo tua'r dwyrain am 652 km (405 milltir) i'r Môr Adriatig ar hyd gwastadedd eang. Y llyn mwyaf yw Llyn Garda yn y gogledd.
EconomiGolygu
DemograffegGolygu
Ar 31 Rhagfyr 2006 roedd poblogaeth yr Eidal yn 59,131,287. Roedd 30,412,846 o'r rhain yn ferched a 28,718,441 yn ddynion.
DinasoeddGolygu
Dinasoedd mwyaf yr Eidal, gydag ystadegau poblogaeth 2012, yw:
Dinas | Poblogaeth (2012) |
---|---|
Rhufain | 2,641,930 |
Milan | 1,245,956 |
Napoli | 960,521 |
Torino | 872,158 |
Palermo | 655,604 |
Genova | 583,089 |
Bologna | 373,010 |
Fflorens | 362,389 |
Bari | 314,258 |
Catania | 293,112 |
IeithoeddGolygu
Eidaleg yw iaith swyddogol yr Eidal. Yn nhalaith Bolzano-Bozen, mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn siarad Almaeneg fel iaith gyntaf, ac mae Almaeneg yn iaith swyddogol yno ar y cyd ag Eidaleg. Mae Ffrangeg yn gyd-iaith swyddogol yn Val d'Aosta,
DiwylliantGolygu
Oherwydd na unwyd yr Eidal fel un wladwriaeth hyd yn gymharol ddiweddar, bu amrywiaeth mawr mewn diwylliant. Yn yr Eidal y dechreuodd y Dadeni yn Ewrop.
LlenyddiaethGolygu
Gosodwyd sylfeini yr iaith Eidaleg lenyddol fodern gan Dante Alighieri o Fflorens. Ei waith enwocaf yw'r Divina Commedia, a ystyrir yn un o brif gampweithiau Ewrop yn y Canol Oesoedd. Llenorion amlwg eraill yw Giovanni Boccaccio, Giacomo Leopardi, Alessandro Manzoni, Torquato Tasso, Ludovico Ariosto, a Petrarch. Ymysg llenorion diweddar yr Eidal, enillwyd Gwobr Nobel am Lenyddiaeth gan Giosuè Carducci (1906), Grazia Deledda (1926), Luigi Pirandello (1936), Salvatore Quasimodo (1959), Eugenio Montale (1975) a Dario Fo (1997).
Ymysg athronwyr amlwg yr Eidal mae Giordano Bruno, Marsilio Ficino, Niccolò Machiavelli a Giambattista Vico.
ArlunioGolygu
Yn y Canol Oesoedd a chyfnod y Dadeni, roedd arlunwyr yr Eidal yn enwog trwy Ewrop. Ymysg yr arlunwyr a cherrflunwyr enwocaf, mae Michelangelo, Leonardo da Vinci, Donatello, Botticelli, Fra Angelico, Tintoretto, Caravaggio, Bernini, Titian a Raffael.
CerddoriaethGolygu
Bu cerddoriaeth yn elfen bwysig iawn yn niwylliant yr eidal o gyfnod cynnar. Yn yr Eidal y dyfeisiwyd opera, ac mae'n parhau'n boblogaidd iawn hyd heddiw. Y tŷ opera enwocaf yw La Scala yn Milan.
Ymysg cyfansoddwyr enwog yr Eidal mae Alessandro Scarlatti, Arcangelo Corelli, Antonio Vivaldi, Niccolò Paganini, Gioachino Rossini, Giuseppe Verdi a Giacomo Puccini. Canwr enwocaf yr Eidal yn y cyfnod diweddar oedd Luciano Pavarotti.
Dolenni allanolGolygu
- (Eidaleg) Arlywydd yr Eidal
- (Eidaleg) Senedd yr Eidal
- (Eidaleg) Gwefan swyddogol y Llywodraeth