Glesyn cynffon hir
Glesyn cynffon hir | |
---|---|
Lampides boeticus yn dangos ei is-adain | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Lycaenidae |
Genws: | Lampides |
Rhywogaeth: | L. boeticus |
Enw deuenwol | |
Lampides boeticus (Linnaeus, 1767) | |
Cyfystyron | |
|
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glesyn cynffon hir, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gleision cynffon hir; yr enw Saesneg yw Long-tailed Blue, a'r enw gwyddonol yw Lampides boeticus.[1][2] Mae'n fychan o ran maint ac mae ei diriogaeth yn Ewrop, Affrica, De Asia a de-ddwyrain Asia, ac Awstralia.
Mae maint adenydd y gwryw rhwng 24-32 mm a'r fenyw rhwng 24–34 mm.
-
Lampides boeticus ♂
-
Lampides boeticus ♂ △
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r glesyn cynffon hir yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Bwyd
golyguMae'r glöyn byw hwn yn hoff iawn o ddail Fabaceae a'i deulu: Medicago, Crotalaria, Polygala, Sutherlandia, Dolichos, Cytisus, Spartium a Lathyrus.[3].
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ Woodhall, S. Field Guide to Butterflies of South Africa, Cape Town: Struik Publishers, 2005; adalwyd 02/06/2012