Glesyn y celyn
Glesyn y celyn | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Lycaenidae |
Genws: | Celastrina |
Rhywogaeth: | C. argiolus |
Enw deuenwol | |
Celastrina argiolus (Linnaeus, 1758) | |
Cyfystyron | |
Papilio cleobis Sulzer, 1776. |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glesyn y celyn, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gleision y celyn; yr enw Saesneg yw Holly Blue, a'r enw gwyddonol yw Celastrina argiolus.[1][2][3] Glesyn yr eiddew yw enw arall arno. Mae i'w ganfod drwy Ewrop, Asia a Gogledd America; fe'i cofnodwyd yng Ngallt Melyd ym Mai 2012 ac yn 2013.[4]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae glesyn y celyn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Lliw
golyguMae ei adenydd yn arian-las golau gyda smotiau gwynion.
Bwyd
golyguDaw ei henw o'r planhigyn mae'n hoff iawn o'i fwyta - sef dail y gelyned (Ilex aquifolium). Mae rhai ohonyn nhw'n bwyta amrywiaeth o ddail planhigion o fathau eraill hefyd.[5]
Lleoliad
golyguFe'i canfyddir yng Ngogledd America, America Canol, Ewrasia a De Asia. Gellir ei weld, felly, rhwng Chitral ym Mhacistan i Kumaon yn India.
Ffenoleg yng Nghymru
golyguCofnodion unigol diweddar
golyguDwy genhedlaeth y flwyddyn: Mawrth, 2 gofnod (de Lloegr); Ebrill, 5 (3 yn ne Lloegr); Mai, 12; Mehefin, 3; Gorffennaf 0; Awst 10; Medi, 1 [6]
- Y Genhedlaeth Gyntaf
- Glesyn y Celyn yn ardal Gallt Melyd, Mai 22, 2012. Cyfeirnod grid: SJ 059805
- 7 Mai 2013: “Glesyn y celyn yn mynd a dod trwy'r pnawn yn yr ardd ddoe hefyd - y cyntaf eleni”. Ni fu’n dywydd tan heddiw i groesawu’r cyfaill hwn i’r ardd. Fe all ymddangos ym mis Ebrill mewn blynyddoedd ffafriol?
- Dyma’r blynyddoedd y cafwyd glesynnod celyn ym mis Ebrill yn ôl Tywyddiadur Llên Natur, Waunfawr:
- Towyn, Abergele, 11 Ebrill 1923; Dyfnaint 20 Ebrill 1992; Kew, Llundain: 30 Ebrill 1994; Ynys Môn: 10 Ebrill 2003*; Llanfairfechan: 19 Ebrill 2004; Dyfnaint: 11 Ebrill 2007* (ac eto y flwyddyn hon yn Waunfawr ar yr 21ain); Dyfnaint: 22 Ebrill 2008*
(*sef blynyddoedd â gwanwyn cynhesach nag arfer (t-sum+5.5 yn fwy na 400C ar y 31 Mai. Cyfartaledd 1995-2012: 380C. Dim gwybodaeth cyn 1995. Y flwyddyn 2004 yn eithriad - ond hwnnw o ardal cynhesach yn ne Lloegr.)[7]
- Yr ail Genhedlaeth
Anterth ym mis Awst yng Nghymru [1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ Cerdyn: argiolus in LepIndex. Adalwyd 14 Hydref 2006.[dolen farw]
- ↑ "Gwefan Llên Natur; Rhifyn 64; adalwyd 03 Mehefin 2013" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-09-24. Cyrchwyd 2013-06-02.
- ↑ "Butterfly Conservation A-Z of butterflies". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-20. Cyrchwyd 2012-06-04.
- ↑ Tywyddiadur
- ↑ Data: Huw Jones, Waunfawr