Glesyn y celyn

(Ailgyfeiriad o Glesyn yr Eiddew)
Glesyn y celyn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Lycaenidae
Genws: Celastrina
Rhywogaeth: C. argiolus
Enw deuenwol
Celastrina argiolus
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Papilio cleobis Sulzer, 1776.
Papilio thersanon Bergstrasser, 1779.
Papilio argyphontes Bergstrasser, 1779.
Papilio argalus Bergstrasse, 1779.
Papilio (Argus) marginatus Retzius, 1783.
Lycaenopsis argiolus calidogenita Verity, 1919.
Lycaenopsis argiolus britanna Verity, 1919.

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glesyn y celyn, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gleision y celyn; yr enw Saesneg yw Holly Blue, a'r enw gwyddonol yw Celastrina argiolus.[1][2][3] Glesyn yr eiddew yw enw arall arno. Mae i'w ganfod drwy Ewrop, Asia a Gogledd America; fe'i cofnodwyd yng Ngallt Melyd ym Mai 2012 ac yn 2013.[4]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Imago

Wedi deor o'i ŵy mae glesyn y celyn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Mae ei adenydd yn arian-las golau gyda smotiau gwynion.

Daw ei henw o'r planhigyn mae'n hoff iawn o'i fwyta - sef dail y gelyned (Ilex aquifolium). Mae rhai ohonyn nhw'n bwyta amrywiaeth o ddail planhigion o fathau eraill hefyd.[5]

Lleoliad

golygu

Fe'i canfyddir yng Ngogledd America, America Canol, Ewrasia a De Asia. Gellir ei weld, felly, rhwng Chitral ym Mhacistan i Kumaon yn India.

 
Isadain

Ffenoleg yng Nghymru

golygu

Cofnodion unigol diweddar

golygu

Dwy genhedlaeth y flwyddyn: Mawrth, 2 gofnod (de Lloegr); Ebrill, 5 (3 yn ne Lloegr); Mai, 12; Mehefin, 3; Gorffennaf 0; Awst 10; Medi, 1 [6]

Y Genhedlaeth Gyntaf
  • Glesyn y Celyn yn ardal Gallt Melyd, Mai 22, 2012. Cyfeirnod grid: SJ 059805
  • 7 Mai 2013: “Glesyn y celyn yn mynd a dod trwy'r pnawn yn yr ardd ddoe hefyd - y cyntaf eleni”. Ni fu’n dywydd tan heddiw i groesawu’r cyfaill hwn i’r ardd. Fe all ymddangos ym mis Ebrill mewn blynyddoedd ffafriol?
  • Dyma’r blynyddoedd y cafwyd glesynnod celyn ym mis Ebrill yn ôl Tywyddiadur Llên Natur, Waunfawr:
Towyn, Abergele, 11 Ebrill 1923; Dyfnaint 20 Ebrill 1992; Kew, Llundain: 30 Ebrill 1994; Ynys Môn: 10 Ebrill 2003*; Llanfairfechan: 19 Ebrill 2004; Dyfnaint: 11 Ebrill 2007* (ac eto y flwyddyn hon yn Waunfawr ar yr 21ain); Dyfnaint: 22 Ebrill 2008*

(*sef blynyddoedd â gwanwyn cynhesach nag arfer (t-sum+5.5 yn fwy na 400C ar y 31 Mai. Cyfartaledd 1995-2012: 380C. Dim gwybodaeth cyn 1995. Y flwyddyn 2004 yn eithriad - ond hwnnw o ardal cynhesach yn ne Lloegr.)[7]

Yr ail Genhedlaeth

Anterth ym mis Awst yng Nghymru [1]

Gweler hefyd

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. Cerdyn: argiolus in LepIndex. Adalwyd 14 Hydref 2006.[dolen farw]
  4. "Gwefan Llên Natur; Rhifyn 64; adalwyd 03 Mehefin 2013" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-09-24. Cyrchwyd 2013-06-02.
  5. "Butterfly Conservation A-Z of butterflies". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-20. Cyrchwyd 2012-06-04.
  6. Tywyddiadur
  7. Data: Huw Jones, Waunfawr