Abaty Glyn y Groes

abaty rhestredig Gradd I yn Llandysilio-yn-Iâl
(Ailgyfeiriad o Glyn Egwestl)

Abaty Sistersiaidd yn nyffryn Afon Dyfrdwy rhyw filltir a hanner i'r gogledd o dref Llangollen yn Sir Ddinbych yw Abaty Glyn y Groes (Lladin: Valle Crucis) neu Abaty Glyn Egwestl. Daw ei henw o Groes Eliseg, sef hen groes Geltaidd o'r 8ed ganrif a saif gerllaw. Gorwedd yr abaty'n daclus ar lan afon Eglwyseg, mewn dyffryn bychan rhwng y Fron Fawr a Chreigiau Eglwyseg i'r Dwyrain a'r Mynydd Felfed (neu 'Goed Hyrddyn') i'r Gorllewin, ar draws y ffordd fawr.

Abaty Glyn y Groes
Abaty Glyn y Groes o gopa Mynydd Felfed
Mathabaty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1201 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlandysilio-yn-Iâl Edit this on Wikidata
SirLlandysilio-yn-Iâl Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr103 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9887°N 3.18653°W, 52.988704°N 3.18619°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Sistersaidd Edit this on Wikidata
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE003 Edit this on Wikidata

Daw'r enw o Groes Eliseg sydd heb fod ymhell o'r abaty. Mae'r groes yn llawer hŷn na'r abaty, a sefydlwyd ym 1201. Sefydlwyd Glyn y Groes o Abaty Ystrad Marchell ger Y Trallwng, dan nawdd Madog ap Gruffudd Maelor, rheolwr Powys Fadog.

Er bod yr abaty yn bur adfeiliedig, gellir gweld y cynllun yn glir. Mae'n dilyn y cynllun Sistersaidd arferol, gyda lle cysgu i tua 20 o fynachod ac efallai tua 40 o frodyr lleyg. Yn fuan wedi marwolaeth Madog ap Gruffydd Maelor, aeth yr abaty ar dân ym 1236 a bu cryn ddifrod; mae rhai o'r olion i'w gweld hyd heddiw. Dioddefodd ddifrod pellach yn ystod dau ymosodiad y brenin Edward I ar Gymru ym 1276-1277 a 1282-1283. Talwyd iawndal ac adferwyd y difrod, a bu gwaith pellach ar yr adeilad dan yr Abad Adda ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ymddengys i nifer y brodyr lleyg, ac efallai'r mynachod, leihau ar ôl y pla a newidiwyd yr adeiladau o'r herwydd.

Yr Uchelwyr

golygu

Dywedir i'r abaty ddioddef difrod yn ystod gwrthryfel Owain Glyn Dŵr ond nid oes tystiolaeth i brofi hyn. Bu mwy o adeiladu yn y ganrif ddilynol, a chafodd yr abaty gyfnod o lewyrch, gyda llawer o ganmol ei fwyd a'i groeso gan y beirdd. Yma y bu farw Guto'r Glyn tua 1493; canodd ei gyd-fardd Gutun Owain, yntau'n ymwelydd cyson â'r abaty, farnwad iddo. Canodd y bardd Lewys Môn i abad Glyn y Groes. Yn ôl rhestr o fannau claddu'r beirdd yn y llawysgrifau ac ewyllys dyddiedig 1527 sydd, mae'n ymddangos, yn ddogfen ddilys, claddwyd Lewys Môn (neu Lodowidus Mon) yn yr abaty yn 1527.[1]

Pan roddwyd diwedd ar y mynachlogydd dan y brenin Harri VIII, yr oedd Glyn y Groes yn un o'r abatai llai a gaewyd ym 1537.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Eurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Lewys Môn (Caerdydd, 1975), tud. xi.