Gomukhasana (Wyneb y Fuwch)
Asana, neu osgo'r corff, o fewn ioga yw Gomukhasana (Sansgrit: Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value).; IAST : Gomukhāsana) neu Wyneb y Fuwch.[1] Gelwir y math hwn o osgo'n asana eistedd mewn ymarferion ioga hatha ac ioga modern fel ymarfer corff, ac fe'i defnyddir weithiau ar gyfer myfyrdod.
Math o gyfrwng | asanas gwasu, asana, asanas ymlaciol |
---|---|
Math | asanas eistedd, ioga Hatha |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geirdarddiad
golyguDaw'r enw o'r Sansgrit गौ go sy'n golygu "buwch", मुख mukha sy'n golygu "wyneb" neu "geg",[2] ac आसन āsana sy'n golygu "osgo" neu "safle'r corff".[3]
Mae'r ystum yn hynafol iawn a chaiff ei ddisgrifio yn y Darshana Upanishad, a ysgrifennwyd tua'r 4g.[4] Fe'i defnyddir weithiau ar gyfer myfyrdod a pranayama (anadlu).[5]
Disgrifiad
golyguMae'r asana yma'n dilyn penlinio trwy blethu'r coesau fel teiliwr; mae sawdl rhan uchaf y goes wedi'i osod o dan y glun isaf ger y pen-ôl. Mae'r fraich ar ochr isaf y goes yn cael ei chodi ac yn plygu i lawr, tra bod y fraich arall yn ymestyn i lawr y tu ôl i'r cefn, gyda'r elin (forearm) yn plygu i fyny, fel bod y dwylo'n gallu cydio'n ei gilydd rhwng llafnau'r ysgwyddau.[6]
Mae'r asana yma'n ymestyn yr ysgwyddau. Gellir addasu safle'r llaw gan ddefnyddio strap i ymestyn y cyrhaeddiad i'r rhai na allant ddod â'r dwylo at ei gilydd y tu ôl i'r cefn.[7]
Amrywiadau
golygu-
Vajra Gomukhasana
-
Mahavajra Gomukhasana
-
Hasta Gomukhasana
-
Baddha Gomukhasana
Gweler hefyd
golygu- Rhestr o asanas
- Trwyn y Fuwch: enw arall ar y Gogarth Fach, neu 'Rhiwledyn'
Darllen pellach
golygu- Iyengar, B. K. S. (2005). Illustrated Light On Yoga. HarperCollin. ISBN 978-81-7223-606-9.
- Saraswati, Swami Satyananda (1996). Asana Pranayama Mudra Bandha (PDF). Munger, Bihar: Yoga Publications Trust. ISBN 978-81-86336-14-4. Cyrchwyd 2019-01-12.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Yoga Journal - Cow Face Pose". Cyrchwyd 2011-04-09.
- ↑ "Gomukhasana A". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Chwefror 2011. Cyrchwyd 29 Ionawr 2019.
- ↑ Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
- ↑ Ayyangar, T. R. Srinivasa (trans.) (1938). The Yoga Upanishads. Adyar, Madras: The Adyar Library. t. 124.
- ↑ "Gomukhasana (Cow Face Posture)". The Divine Life Society. 2011. Cyrchwyd 28 Ionawr 2019.
Hence, this Asana is suitable for the practice of Pranayama. Ordinarily you can sit at all times in this Asana for long meditation also.
- ↑ Mehta, Silva; Mehta, Mira; Mehta, Shyam (1990). Yoga: The Iyengar Way. Dorling Kindersley. t. 56. ISBN 978-0-86318-420-8.
- ↑ Swanson, Ann (2019). Science of yoga : understand the anatomy and physiology to perfect your practice. DK Publishing. t. 60. ISBN 978-1-4654-7935-8. OCLC 1030608283.