Gorau Chwarae Cydchwarae

Cyfrol gan Dylan Ebenezer yw Gorau Chwarae Cydchwarae a gyhoeddwyd yn 2016 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Gorau Chwarae Cydchwarae
AwdurDylan Ebenezer
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi28/01/2016
ArgaeleddAr gael
ISBN9781784612481
GenreLlyfrau am chwaraeon‎
CyfresStori Sydyn

Cofnodir yn y gyfrol hon gyffro gemau Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wrth iddyn nhw frwydro yn Ewro 2016, gan Dylan Ebenezer. Ceir rhestr ddwyieithog o dermau pêl-droed. Fe'i hysgrifennwyd yn rhan o gynllun llythrennedd Stori Sydyn.

Rhan o adolygiad John Roberts ar wefan Gwales golygu

Dyma hanes llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn cyrraedd Ffrainc a gemau Ewro 2016. Mae yma ddisgrifiadau byw o'r gemau, portreadir yr awyrgylch ymhlith y cefnogwyr selog sy'n dilyn eu tîm ledled y byd, ac atgoffir y darllenydd o brif ddigwyddiadau pob gêm, gan ganolbwyntio ar ambell elfen ddramatig.

Llyfr i'r cefnogwr pêl-droed selog yw hwn ac oherwydd hynny, y mae'n gyfrol brin a gwerthfawr yn y Gymraeg. Yn anad dim, llwydda Dylan i'n denu i ganol y chwarae, ac mae ei swydd wedi ei alluogi i fynd yn ddigon agos at y chwaraewyr i roi i ni olwg fywiog, ar eu hagweddau a'u hymroddiad. Ond gan ei fod yntau'n un o'r cefnogwyr hynny sydd yn fodlon teithio'r byd, y mae'n gallu cyfleu eu gobeithion a'u disgwyliadau hwythau hefyd. Tywysir ni drwy benodau cryno ond lliwgar am bob un o'r gemau. Ceir nerfusrwydd y gêm gyntaf yn Andora, ceir yr hyn a eilw yn 'brydferthwch gêm gyfartal' yn erbyn Bosnia, y frwydr yng Nghyprus, yr ymrafael yn erbyn Gwlad Belg a'r fuddugoliaeth ryfeddol yn Israel.

Camp fawr y gyfrol yw portreadu mwy na'r gemau'n unig. Mae'r awdur yn pwyso a mesur y gamp a gyflawnwyd. Mae hefyd yn dawel fach yn dadansoddi'r hyn a roddodd lwyddiant i'r tîm. Yn eu tro, gwerthfawrogir dewrder cyfnod John Toshack, arweiniad tactegol Osian Roberts, gweledigaeth Gary Speed, dycnwch Chris Coleman a'r undod rhyfeddol oedd wedi datblygu yng ngharfan ifanc Brian Flynn a'i berthynas agos â'r cefnogwyr.

Nid y gemau yn unig a geir yma ond yn hytrach y rheswm pam mae carfan mor ifanc o chwaraewyr wedi cyfuno mor rhyfeddol, a chodi gobeithion nid dim ond eu cefnogwyr selog yn unig ond miloedd o'u cyd-wladwyr hefyd.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017