Ymosodiad Israel ar Rafah

Ymgyrch filwrol gan Israel yn ninas Rafah, yn ne Llain Gaza, yw ymgyrch ymosodol Rafah a lansiwyd ar 6 Mai 2024 fel rhan o oresgyniad y Llain yn ystod Rhyfel Gaza.

Ymosodiad Israel ar Rafah
Tanciau'r IDF yng nghroesfan Rafah ar gychwyn yr ymgyrch ymosodol (7 Mai 2024).
Enghraifft o'r canlynolymosodiad milwrol Edit this on Wikidata
Rhan ogoresgyniad Llain Gaza gan Israel Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
RhanbarthRafah Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyn yr ymosodiad, llochesodd oddeutu 1.4 miliwn o Balesteiniaid a ddadleolwyd yn Rafah, yn sgil gorchmynion Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) i wacáu Llain Gaza, brwydro rhwng Israel ac Hamas, a chyrchoedd awyr gan luoedd Israel ers Hydref 2023. Yn Chwefror 2024, cyhoeddodd Israel ei bwriad i oresgyn Rafah er mwyn bwrw rhyfelwyr Hamas allan o'r ddinas.[1] Yn nechrau Mai, wrth i drafodaethau am gadoediad ddod i ddim, dechreuodd Israel baratoi am ymosodiad a gorchmynnodd wacâd dwyrain Rafah.[2][3] Ar 6 Mai, derbyniodd Hamas delerau cadoediad a gynigwyd gan lywodraethau'r Aifft a Chatar,[4][5] ond gwrthodwyd y cytundeb yn unfrydol gan gabinet rhyfel Israel am ei fod yn "bell o orchmynion angenrheidiol Israel". Mynegodd llywodraeth Israel felly y byddai'r ymgyrch filwrol yn Rafah yn mynd yn ei blaen.[6][7][8][9][10] Cynllun cyntaf yr IDF oedd i lansio chwiliad chwim a thrylwyr gyda dwy adran o'r fyddin, ond datganodd llywodraeth Unol Daleithiau America y byddai ymosodiad mawr o'r fath yn croesi "llinell goch" ac yn peryglu cefnogaeth gweinyddiaeth yr Arlywydd Joe Biden i ymdrech ryfel Israel. Gorfodwyd i Israel felly leddfu'r ymgyrch arfaethedig, gyda'r nod o gipio'r ffin rhwng Llain Gaza a'r Aifft, i rwystro smyglwyr arfau, ac i ddibynnu ar gyrchoedd dargedig ar y ddinas yn hytrach nag ymosodiad diarbed.[11]

Wedi i Israel wrthod cadoediad, lansiodd yr IDF gyrchoedd awyr ar Rafah, a goresgynnwyd cyrion y ddinas gan luoedd Israelaidd, gan gipio a chau'r groesfan rhwng Gaza a'r Aifft.[4][12][13] Dechreuodd yr IDF symud i mewn i ardaloedd poblog y ddinas ar 14 Mai.[14] Cyhoeddodd Israel na fyddai'r ymgyrch yn dod i ben oni bai am ddeoliad Hamas neu ryddhad y gwystlon Israelaidd yn Gaza.[13] Ar 24 Mai, gorchmynnodd y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol i Israel beidio â'i hymgyrch ymosodol yn ddi-oed,[15] dyfarniad a wrthodwyd gan Israel.

Gwaethygwyd y sefyllfa ddyngarol yn Rafah yn sylweddol o ganlyniad i ymosodiad Israel. Cafodd rhyw 950,000 o Balesteiniaid eu symud i ardaloedd a honnir eu bod yn anniogel ac yn brin o ddarpariaethau.[3][16] Lladdwyd bron 210 o Balesteiniaid ac anafwyd 280 yn ystod ymgyrch fomio Israel. Mae ysbytai wedi eu heffeithio gan gyrchoedd yr IDF a'r rhwystrau ar gyflenwadau.[17][18] Yn ogystal, mae'r ymgyrch ymosodol wedi achosi croesfannau Kerem Shalom a Rafah i gau dros dro, gan waethygu'r argyfwng dyngarol ar draws Gaza oll.[19]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "Netanyahu Asks Military for Plans to Evacuate Rafah, Where 1.4 Million Are Sheltering", The New York Times (10 Chwefror 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
  2. (Saesneg) Tzvi Joffre ac Yonah Jeremy Bob, "IDF begins limited Rafah evacuation, operation, despite possible Hamas deal", The Jerusalem Post (6 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) David Gritten, "Gaza war: Where has Israel told Rafah displaced to go?", BBC (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Sam Mednick, Josef Federman a Bassem Mroue, "Hamas accepts Gaza cease-fire; Israel says it will continue talks but launches strikes in Rafah", Associated Press (6 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Mai 2024.
  5. (Saesneg) Barak Ravid, "Israelis frustrated with U.S. handling of hostage talks", Axios (6 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mai 2024.
  6. (Saesneg) "Hamas says no budging from already-rejected hostage deal offer as Cairo talks break up", The Times of Israel (10 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Mai 2024.
  7. (Saesneg) Fares Alghoul, Dana Khraiche a Galit Altstein, "Israel Says a Cease-Fire Plan Backed by Hamas Falls Short ", Bloomberg (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
  8. (Saesneg) Samuel Osborne, "Israel claims control of key Rafah crossing after rejecting ceasefire deal with Hamas", Sky News (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Mai 2024.
  9. (Saesneg) "Israel sends troops into Rafah", Financial Times (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Mai 2024.
  10. (Saesneg) Nataliya Vasilyeva, "Israel rejects Hamas ceasefire offer", The Daily Telegraph (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mai 2024.
  11. (Saesneg) Michael R. Gordon a Dov Lieber, "How Israel Avoided Biden’s Red Line", The Wall Street Journal (2 Mehefin 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Mehefin 2024.
  12. (Saesneg) David Gritten, "Gaza: Israel takes Rafah crossing as truce talks continue", BBC (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
  13. 13.0 13.1 (Saesneg) Emanuel Fabian, "Gallant: Rafah op will continue until Hamas rooted out or hostage deal reached", The Times of Israel (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
  14. (Saesneg) Emanuel Fabian, "Soldier killed in south Gaza fighting, in first Israeli fatality of Rafah offensive", The Times of Israel (15 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
  15. (Saesneg) Jeremy Sharon a Sam Sokol, "ICJ orders Israel to halt Rafah operations that risk destruction of civilian population", The Times of Israel (24 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
  16. (Saesneg) Emanuel Fabian, "IDF estimates 950,000 Gazans have evacuated from Rafah amid offensive", The Times of Israel (20 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Mai 2024.
  17. (Saesneg) Usaid Siddiqui, "Israel’s war on Gaza updates: Many killed as Israel launches ground attacks", Al Jazeera (14 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Mai 2024.
  18. (Saesneg) Nagham Mohanna, Nada AlTaher a Holly Johnston, "Gaza's hospitals warn of catastrophe as fuel runs out and borders remain shut", The National News (14 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
  19. (Saesneg) Cassandra Vinograd, "Israel’s Closures of 2 Gaza Border Crossings Prompt Alarm Over Humanitarian Aid", The New York Times (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mai 2024.