Y ffin rhwng Cymru a Lloegr

(Ailgyfeiriad o Goror Cymru a Lloegr)

Ychydig mae'r ffin rhwng Cymru a Lloegr wedi newid dros y canrifoedd. Mae heddiw'n mesur tua 257 km (160 milltir): o aber afon Dyfrdwy yn y gogledd i aber afon Hafren yn y de.

Clawdd Offa, ger Clun: yr hen ffin rhwng y ddwy wlad.
Map Tsieceg o Gymru o 1932, sy'n dangos Gwent ar ochr Seisnig y ffin.

Mae ei leoliad fwy neu lai'n cydredeg gyda Chlawdd Offa a chafodd ei gadarnhau yn 1535 pan ddiddymwyd Arglwyddiaethau'r Mers a chreu siroedd newydd. Cadarnhawyd y ffin pan basiwyd Deddf Llywodraeth Leol 1972 a ddaeth i rym yn 1974, yn y flwyddyn honno hefyd y cadarnhawyd fod Sir Fynwy yn rhan o Gymru.

Clawdd Offa

golygu

Clawdd a godwyd gan Offa, brenin Mersia rhwng 757 a 796. Mae "Clawdd Offa" yn dal i gael ei ddefnyddio hyd heddiw fel trawsenw ar gyfer y ffin rhwng y ddwy wlad.

Clawdd Wat

golygu
Prif: Clawdd Wat

Clawdd a godwyd gan Coenwulf yn yr 820au.

Enwau lleoedd

golygu

Ceir llawer o lefydd yn Lloegr heddiw sydd ag enwau Cymraeg, neu o darddiad Cymraeg: e.e. Gobowen, Clun, Kilpeck, Bagwyllydiart, Pontrilas a Selattyn. Roedd llawer o'r ardaloedd yma'n dal i gael eu cyfrif yn rhan o Gymru hyd at y 16g ac roedd y Gymraeg i'w chlywed yn y llefydd hyn hyd at y 19g. Ar ochr arall y ffin - yng Ngogledd-ddwyrain Cymru - ceir rhai llefydd ag enwau o darddiad Saesneg ble sefydlodd y Normaniaid; llefydd fel Newtown a Knighton ac yn Ne Cymru mewn ardaloedd yng Nghas-gwent a Phenfro.

Gweler hefyd

golygu