Cambria irredenta

y cysyniad iredentaidd o "Gymru golledig", sy'n seiliedig ar statws hanesyddol rhannau o Loegr

Cysyniad iredentaidd o "Gymru golledig" yw Cambria irredenta, sy'n seiliedig ar statws hanesyddol rhannau o Loegr, gan gynnwys Swydd Henffordd, Swydd Amwythig, a Swydd Gaer, fel rhannau o Gymru.

Cambria irredenta
Enghraifft o'r canlynoltir Edit this on Wikidata
Yn cynnwysCroesoswallt, Ewias, Longtown, Erging Edit this on Wikidata
Map Cymydau Cymru yn cynnwys cymydau sydd nawr yn Lloegr

Lluniodd Deddf Uno 1536 y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gan ddiddymu Arglwyddiaethau'r Mers a chreu siroedd newydd. Ni ddilynai'r ffin newydd Glawdd Offa na ffiniau'r esgobaethau Cymreig yn union, ac felly creodd ardaloedd Cymreig tu draw'r ffin. Roedd Teyrnas Powys yn cynnwys ardaloedd sydd heddiw yn rhan o Loegr. Llwydlo yn Swydd Amwythig oedd sedd Dominiwn a Thywysogaeth Cymru a'i Mers o 1473 hyd 1689, ac yn hanesyddol Lerpwl yw prifddinas Gogledd Cymru. Hyd at ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd, roedd Esgobaeth Llanelwy yn cynnwys nifer o blwyfi yn Swydd Amwythig megis Croesoswallt a Selattyn.

Yn ôl John Davies, roedd trefi yn Lloegr megis Croesoswallt ac Ewias yn "dra Chymraeg" am ganrifoedd wedi'r Ddeddf Uno, "ardaloedd nad yw'n gwbl ffansïol eu hystyried fel Cambria irredenta".[1] Mae tystiolaeth i ddangos roedd y Gymraeg yn dal i'w chlywed gan drigolion Ewias, Longtown, ac Archenfield yn Swydd Henffordd hyd y 19g ac o bosib yn Fforest y Ddena a Dyffryn Olchon hyd yr 20g.[2]

Yn y 1920au dadleuodd J. E. Lloyd y dylai Mesur Ymreolaeth i Gymru cynnwys Swyddi Henffordd ac Amwythig, a sbardunodd eraill i gefnogi'r Amwythig fel sedd am senedd Gymreig ac hyd yn oed prifddinas Cymru.[3]

O'r safbwynt arall, mae rhai ardaloedd yng Nghymru a ellir eu hystyried yn fwy Seisnig na Chymreig. Yn sgil Deddf Uno 1536, roedd nifer o ardaloedd hollol Saesneg eu hiaith ar ochr Cymru i'r ffin, yn enwedig yn y gogledd ddwyrain.[4] Oherwydd statws hanesyddol dadleuol Sir Fynwy, hyd heddiw mae rhai o fewn y sir ac ar ochr arall y goror, megis plaid yr English Democrats, yn ei hystyried yn rhan o Loegr.

Map Cambriae Typus

golygu
 
Cambriae Typus Humphrey Llwyd yw’r map printiedig cynharaf o Gymru fel gwlad ar wahân; fe'i cyhoeddwyd yn 1573.

Mae map Cambriae Typus a luniwyd gan Abraham Ortelius yn 1573 dan arweiniad Humphrey Llwyd (1527-1568) yn cynnwys Cymru a'i Gororau ac, fe ellid dadlau, y ffin fwyaf cwmpasog o Cambria irredenta a'r tiroedd roedd Cymry'n ystyried, ar rhyw ystyr yn Gymreig neu'n hanesyddol Gymreig. Mae'r ffin ddwyreiniol yn ymestyn i ddilyn ystym Afon Hafren. Dyma'r map gynharaf brintiedig o Gymru ac ynddo, meddai gwefan y Llyfrgell Genedlaethol canolbwyntiodd Llwyd ar greu map hanesyddol a diwylliannol yn hytrach na phortreadu’r sefyllfa wleidyddol gyfoes.[5]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Davies, John. Hanes Cymru (Llundain, Penguin, 2007), t. 211.
  2. Lewis, Colin. Herefordshire, the Welsh Connection (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 2006), tt. 164–6.
  3. (Saesneg) Plaid Genedlaethol Cymru : Debut of The Welsh National Party. Welsh Outlook. Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Awst 1925). Adalwyd ar 19 Hydref 2012.
  4. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Cymreig (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 570 [Lloegr a Chymru].
  5. "Cambriae Typus". Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 18 Ionawr 2024.

Dolenni allanol

golygu