Gorsaf fysiau Amwythig

Mae Gorsaf fysiau Amwythig yn orsaf fysiau yng nghanol Amwythig. Mae gan yr orsaf doiledau, siop coffi a maes parcio.[1]

Mae nifer o wasanaethau’n mynd i Gymru, gan gynnwys:- 70/70A i Groesoswallt a Llanfyllin. X75 i’r Trallwng, Y Drenewydd a Llanidloes. National Express 409 rhwng Llundain, Birmingham, Amwythig, Y Trallwng, Y Drenewydd, Llanidloes ac Aberystwyth.[2] Mae Arriva yn trefnu mwyafrif y gwasanaethau, ond gwelir hefyd bysiau Lakeside, bysiau Dyffryn Tanat, Celtic Travel a Minsterley Motors.[3] Mae gan yr orsaf doiledau, maes parcio, siop papurau a chysylltiad i Ganolfan Siopa Darwin.[4]

Cyfeiriadau golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am fws, gorsaf fysiau, neu gwmni bysiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.