Gorsaf reilffordd Tre-biwt
Mae Tre-Biwt[1] yn orsaf drên arfaethedig yng Nghaerdydd ar linell gangen Trebiwt yn ardal Bae Caerdydd, neu'r enw hanesyddol Tiger Bay. Mae'r orsaf yn rhan o fasnachfraint Cymru a’r Gororau[2] a bydd yn rhan o Fetro De Cymru.[3]
Math | gorsaf reilffordd arfaethedig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bae Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.47°N 3.1686°W |
Yn wreiddiol, cynllinwyd y byddai'r orsaf ger Sgwâr Loudoun (un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf y Deyrnas Unedig), gan agor erbyn Rhagfyr 2023. Ym mis Awst 2022, cyhoeddwyd y byddai’r orsaf wedi’i lleoli ymhellach i’r gogledd, y byddai’n cynnwys dau blatfform, ac y byddai nawr yn agor yng ngwanwyn 2024. Byddai'n cael ei wasanaethu gan drenau tram.[4]
Dechreuodd y gwaith dechreuol gan gynnwys clirio llystyfiant ym mis Ionawr 2023 gyda mwyafrif y prif waith i'w ddechrau yn Haf 2023. Ar yr un pryd, mae gorsaf reilffordd Bae Caerdydd yn dechrau ailddatblygu.[5][6][7] Mae angen clirio'r gwaith llystyfiant ar gyfer ailddyblu Llinell Bae Caerdydd a gosod offer trydanol uwchben ar gyfer cyflwyno trenau tram.[7]
Gweler hefyd
golygu- Metro De Cymru
- Y wlad a'i Chaledi - Sgwâr Loudoun, Tiger Bay' Archifwyd 2023-04-28 yn y Peiriant Wayback erthygl am ddalgylch yr osraf
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Work to get underway for the new Butetown railway station". RailAdvent (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-27.
- ↑ "What's Happening in South East Wales - Transport for Wales". tfw.gov.wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-14. Cyrchwyd 2023-04-27.
- ↑ Loy, Sandra (16 July 2014). "Big plans for Cardiff Central Station". Wales Online.
- ↑ Thomas, Angharad (2022-08-15). "Cardiff to get a new railway station with work beginning this year". WalesOnline (yn Saesneg).
- ↑ Catherine Moor (11 January 2023). "Work to begin on new Welsh railway station". New Civil Engineer. Cyrchwyd 27 April 2023.
- ↑ "Construction work on new Butetown railway station to get underway this summer". Nation.Cymru. 14 January 2023. Cyrchwyd 27 April 2023.
- ↑ 7.0 7.1 Chloe White (12 January 2023). "Work to get underway for the new Butetown railway station". Rail Advent. Cyrchwyd 27 April 2023.