Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech

Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech (Men of Harlech yn Saesneg) yw un o'r caneuon Cymraeg enwocaf. Ysbrydolwyd yr ymdeithgan, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1794, gan ddigwyddiad yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau.

Hanes golygu

 
Castell Harlech

Mae’r geiriau'n sôn am warchae ar Gastell Harlech rhwng 1461 a 1468 yn Rhyfeloedd y Rhosynnau pan ffodd y frenhines Margaret, gwraig Harri VI, brenin Lloegr, yno. Roedd Siasbar Tudur, ewythr Harri Tudur, wedi bod yn weithgar yn y Gogledd ar ran y Lancastriaid gan gipio Castell Dinbych yn enw Harri VI. Anfonwyd llu mawr o filwyr o siroedd Lloegr a'r Gororau i ogledd Cymru i gipio'r cestyll yn ôl. Daliodd y gariswn o gefnogwyr y Lancastriaid yn Harlech - y blaid a gefnogwyd gan y mwyafrif llethol o'r Cymry - allan yn erbyn byddin o Iorciaid am wyth mlynedd.

Cyhoeddodd Edward Jones (Bardd y Brenin) y gân yn ei gyfrol Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards, ail argraffiad (1794). Daeth yn boblogaidd iawn yn y 19g ac mae'n parhau felly hyd heddiw. Ceir sawl fersiwn o'r gân ar yr un alaw adnabyddus, yn Gymraeg a Saesneg. Ysgrifennwyd un fersiwn gan John Jones (Talhaiarn) ('Henffych well i wlad fy nghalon') ac un arall, sy'n fwy gyfarwydd heddiw, gan Ceiriog ('Wele goelcerth wen yn fflamio'). Cafwyd fersiwn Saesneg gan W. H. Baker ('Men of Harlech').

Un o'r penodau mwyaf cofiadwy yn y ffilm Zulu yw honno pan genir yr ymdeithgan gan filwyr y South Wales Borderers gyda Stanley Baker yn eu harwain.

Geiriau golygu

Dyma eiriau Ceiriog i'r dôn:

Wele goelcerth wen yn fflamio
A thafodau tân yn bloeddio
Ar i'r dewrion ddod i daro
Unwaith eto'n un.
Gan fanllefau tywysogion
Llais gelynion, trwst arfogion
A charlamiad y marchogion
Craig ar graig a gryn.
Arfon byth ni orfydd
Cenir yn dragywydd
Cymru fydd fel Cymru fu
Yn glodfawr ym mysg gwledydd.
Yng ngwyn oleuni'r goelcerth acw
Tros wefusau Cymro'n marw
Annibyniaeth sydd yn galw
Am ei dewraf ddyn.
Ni chaiff gelyn ladd ac ymlid
Harlech! Harlech! cwyd i'w herlid
Y mae Rhoddwr mawr ein Rhyddid
Yn rhoi nerth i ni.
Wele Gymru a'i byddinoedd
Yn ymdywallt o'r mynyddoedd!
Rhuthrant fel rhaeadrau dyfroedd
Llamant fel y lli!
Llwyddiant i'n lluyddion
Rwystro gledd yr estron!
Gwybod yn ei galon gaiff
Fel bratha cleddyf Brython
Y cledd yn erbyn cledd a chwery
Dur yn erbyn dur a dery
Wele faner Gwalia'i fyny
Rhyddid aiff â hi!
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato