Grŵp Colegau NPTC

Grŵp colegau addysg bellach yn siroedd Powys a Chastell Nedd Port Takbot

Mae Grŵp Colegau NPTC[1] yn goleg addysg bellach a ffurfiwyd yn dilyn uno Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Powys ar 1 Awst 2013. [2]

Grŵp NPTC
Mathsefydliad academaidd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1950 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6672°N 3.8144°W Edit this on Wikidata
Map
Mynedfa i Gampws Afan (Coleg Afan gynt), ym Margam sy'n rhan o Grŵp NPTC (2012)

Mae'r coleg yn cynnig rhaglen o gyrsiau amser llawn, rhan-amser ac addysg uwch ar draws ei 8 campws sydd yn siroedd Bwrdeistref Castell Nedd Port Talbot a sir Powys. [3]

Grŵp Colegau NPTC, Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Powys gynt, yw un o’r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru sy’n cwmpasu 30 y cant o dir y wlad. Mae’r Coleg yn cynnig rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser i fwy na 270,000 o drigolion yn ymestyn o dde i ogledd Cymru.[4] Mae'n aelod o rwydwaith y sector, ColegauCymru.

Darpariaeth

golygu
 
Arwydd Coleg Powys, Ffordd Llanidloes Road, Y Drenewydd sy'n rhan bellach o Grŵp NPTC (2009)
 
Coleg Powys, campws Llandrindod sy'n rhan o Grŵp NPTC (2013)

Mae Grŵp NPTC yn cynnig ystod eang o gyrsiau addysg bellach gan gynnwys Safon Uwch, BTEC a chyrsiau galwedigaethol eraill; mae'r coleg yn cynnig cyrsiau addysg uwch a rhan-amser, gan gynnwys tystysgrifau, diplomâu, BSc a BA. [5] Mae Grŵp Colegau NPTC yn bartner cydweithredol rhwng Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, a chwmni arholi Pearson .

Meysydd Pwnc

golygu

Ceir amrywiaeth eang o bynciau eu dysgu o fewn y Grŵp. Maent yn cynnwys:[1]

  • Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig
  • Arlwyo a Lletygarwch, Amaethyddiaeth, Garddwriaeth
  • Astudiaethau Sylfaen
  • Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth
  • Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
  • Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu
  • Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
  • Peirianneg a Modurol
  • Prentisiaethau
  • Safon Uwch
  • Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol
  • Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio

Grŵp NPTC a'r Gymraeg

golygu

Saesneg yw prif cyfrwng dysgu a gweithredu'r colegau o fewn y Grŵp. Ceir peth darpariaeth Cymraeg. Yn 2020 enillodd y Grwp wobr ‘Gwobr Cymraeg Gwaith 2020: Cyflogwr y Flwyddyn' (Work Welsh Award 2020: Employer of the Year) a gynhaliwyd gan Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ('Cymraeg i Oedolion'). Mae'r Coleg wedi bod yn rhan o'r prosiect Cymraeg Gwaith mewn Addysg Bellach ers 2017 gydag oddeutu 850 aelod o staff wedi dilyn rhyw fath o hyfforddiant iaith Gymraeg. by Learn Welsh – part of Welsh Government. [6]

Cyn-fyfyrwyr

golygu

Mae rhai cyn-fyfyrwyr nodedig yn cynnwys Michael Sheen, [7] Dan Lydiate, [8] Ashley Beck, [9] James Hook, [10] Justin Tipuric, [11] Duncan Jones [12] a Paul James . [13]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Meysydd Pwnc". Grŵp Colegau NPTC. Cyrchwyd 1 Mehefin 2023.
  2. "Three new bodies created as six colleges merge in Wales". BBC News. Awst 2013.
  3. "NPTC Group of Colleges Prospectuses". Issuu.
  4. "Amdanom Ni". Grŵp Colegau NPTC. Cyrchwyd 2023-06-01.
  5. "Welcome to NPTC Group of Colleges". UCAS Progress.[dolen farw]
  6. Group, Grŵp NPTC (2020-04-01). "Working in Welsh – NPTC Group of Colleges Wins Top Award". FE News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-06-01.
  7. "Michael Sheen and The Right Honourable Peter Hain receive College Fellowship Awards". NPTC Group of Colleges News.[dolen farw]
  8. "NPTC Group sends Good Luck Message to Dan". NPTC Group of Colleges News.[dolen farw]
  9. "Ashley Beck Player Profile". Ospreys Rugby.
  10. "Top Squad From NPTC". NPTC Group of Colleges News.[dolen farw]
  11. "Ospreys Degree of Success". NPTC Group of Colleges News.[dolen farw]
  12. "NPTC Group Score a Great Appointment as Duncan Jones Returns to College". NPTC Group of Colleges News.[dolen farw]
  13. "Top Squad From NPTC". NPTC Group of Colleges News.[dolen farw]

Dolenni allanol

golygu