Grŵp Colegau NPTC
Mae Grŵp Colegau NPTC[1] yn goleg addysg bellach a ffurfiwyd yn dilyn uno Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Powys ar 1 Awst 2013. [2]
Math | sefydliad academaidd |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6672°N 3.8144°W |
Mae'r coleg yn cynnig rhaglen o gyrsiau amser llawn, rhan-amser ac addysg uwch ar draws ei 8 campws sydd yn siroedd Bwrdeistref Castell Nedd Port Talbot a sir Powys. [3]
Grŵp Colegau NPTC, Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Powys gynt, yw un o’r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru sy’n cwmpasu 30 y cant o dir y wlad. Mae’r Coleg yn cynnig rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser i fwy na 270,000 o drigolion yn ymestyn o dde i ogledd Cymru.[4] Mae'n aelod o rwydwaith y sector, ColegauCymru.
Darpariaeth
golyguMae Grŵp NPTC yn cynnig ystod eang o gyrsiau addysg bellach gan gynnwys Safon Uwch, BTEC a chyrsiau galwedigaethol eraill; mae'r coleg yn cynnig cyrsiau addysg uwch a rhan-amser, gan gynnwys tystysgrifau, diplomâu, BSc a BA. [5] Mae Grŵp Colegau NPTC yn bartner cydweithredol rhwng Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, a chwmni arholi Pearson .
Meysydd Pwnc
golyguCeir amrywiaeth eang o bynciau eu dysgu o fewn y Grŵp. Maent yn cynnwys:[1]
|
|
Grŵp NPTC a'r Gymraeg
golyguSaesneg yw prif cyfrwng dysgu a gweithredu'r colegau o fewn y Grŵp. Ceir peth darpariaeth Cymraeg. Yn 2020 enillodd y Grwp wobr ‘Gwobr Cymraeg Gwaith 2020: Cyflogwr y Flwyddyn' (Work Welsh Award 2020: Employer of the Year) a gynhaliwyd gan Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ('Cymraeg i Oedolion'). Mae'r Coleg wedi bod yn rhan o'r prosiect Cymraeg Gwaith mewn Addysg Bellach ers 2017 gydag oddeutu 850 aelod o staff wedi dilyn rhyw fath o hyfforddiant iaith Gymraeg. by Learn Welsh – part of Welsh Government. [6]
Cyn-fyfyrwyr
golyguMae rhai cyn-fyfyrwyr nodedig yn cynnwys Michael Sheen, [7] Dan Lydiate, [8] Ashley Beck, [9] James Hook, [10] Justin Tipuric, [11] Duncan Jones [12] a Paul James . [13]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Meysydd Pwnc". Grŵp Colegau NPTC. Cyrchwyd 1 Mehefin 2023.
- ↑ "Three new bodies created as six colleges merge in Wales". BBC News. Awst 2013.
- ↑ "NPTC Group of Colleges Prospectuses". Issuu.
- ↑ "Amdanom Ni". Grŵp Colegau NPTC. Cyrchwyd 2023-06-01.
- ↑ "Welcome to NPTC Group of Colleges". UCAS Progress.[dolen farw]
- ↑ Group, Grŵp NPTC (2020-04-01). "Working in Welsh – NPTC Group of Colleges Wins Top Award". FE News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-06-01.
- ↑ "Michael Sheen and The Right Honourable Peter Hain receive College Fellowship Awards". NPTC Group of Colleges News.[dolen farw]
- ↑ "NPTC Group sends Good Luck Message to Dan". NPTC Group of Colleges News.[dolen farw]
- ↑ "Ashley Beck Player Profile". Ospreys Rugby.
- ↑ "Top Squad From NPTC". NPTC Group of Colleges News.[dolen farw]
- ↑ "Ospreys Degree of Success". NPTC Group of Colleges News.[dolen farw]
- ↑ "NPTC Group Score a Great Appointment as Duncan Jones Returns to College". NPTC Group of Colleges News.[dolen farw]
- ↑ "Top Squad From NPTC". NPTC Group of Colleges News.[dolen farw]
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Grŵp NPTC (Cymraeg)
- Twitter Grŵp NPTC Twitter @NPTCGroup