Granville Charles Henry Somerset

gwleidydd (1792-1848)

Roedd Yr Arglwydd Granville Charles Henry Somerset (27 Rhagfyr 179223 Chwefror 1848) yn wleidydd Torïaidd Cymreig a wasanaethodd fel un o Aelodau Seneddol Sir Fynwy o 1816 i 1848.[1]

Granville Charles Henry Somerset
Ganwyd27 Rhagfyr 1792 Edit this on Wikidata
Bu farw23 Chwefror 1848 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddComisiynydd Coed a Choedwigoedd, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolTori Edit this on Wikidata
TadHenry Somerset, 6ed Dug Beaufort Edit this on Wikidata
MamCharlotte Somerset Edit this on Wikidata
PriodEmily Smith Edit this on Wikidata
PlantConstance Somerset, Granville Robert Henry Somerset, mab anhysbys Somerset, mab anhysbys Somerset, merch anhysbys Somerset Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Roedd Somerset yn ail fab Henry Somerset, 6ed dug Beaufort a'r Ledi Charlotte Sophia merch Granville Leveson-Gower, Ardalydd 1af Stafford. Bu ei frawd hyn, Henry Somerset Ardalydd Caerwangon, yn AS Bwrdeistrefi Sir Fynwy rhwng 1813 a 1831.

Derbyniodd ei addysg elfennol gan diwtoriaid cartref cyn mynd i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen ym 1811 gan raddio yn BA ym 1813 gyda'r ail ddosbarth yn y clasuron, MA ym 1817 a DCL ym 1834

Ym 1822 priododd Emily Smith (bu farw 1869), merch Robert Smith, Barwn 1af Carrington, bu iddynt bump o blant.

Gyrfa Wleidyddol golygu

Roedd gan Dugiaeth Bedford ystadau a dylanwad yn Sir Frycheiniog, Sir Fynwy, Sir Forgannwg, Sir Gaerloyw, Swydd Rhydychen a Wiltshire, gan hynny roedd gan Somerset sicrwydd o sedd Seneddol mewn cyfnod lle fu dylanwad tirfeddiannwr pwerus yn bwysicach na dylanwad yr etholwyr.

Ym 1816 olynodd Somerset ei ewythr, Yr Arglwydd Arthur John Henry Somerset, (1780-1816) fel ail AS Sir Fynwy gan gadw'r sedd am weddill ei fywyd.

Gwasanaethodd fel Arglwydd y Trysorlys yng ngweinyddiaeth yr Arglwydd Lerpwl ym 1819 gan ymddiswyddo ym 1827 ar etholiad George Canning fel prif weinidog gan ei fod yn anghytuno a pholisïau Canning parthed rhoi hawliau i Gatholigion. Cafodd ei ail benodi i'r Trysorlys gan Ddug Wellington ym 1829. Pan syrthiodd llywodraeth Wellington ym 1830 cynigiodd Somerset enw Syr Robert Peel fel arweinydd y Torïaid.

Rhwng 1830 a 1834 bu'r Chwigiaid mewn grym yn San Steffan a fu Somerset yn aelod o'r wrthblaid. Ar etholiad Peel fel Prif Weinidog cafodd Somerset ei benodi'n Gomisiynydd Coedwigoedd a Fforestydd a chael ei benodi'n aelod o'r Cyfrin Gyngor. Rhwng 1841 a 1846 gwasanaethodd fel Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn gyda sedd yn y cabinet o 1844.[2]

Dim ond unwaith bu'n rhaid i Somerset sefyll etholiad cystadleuol yn ei yrfa wleidyddol hir, sef etholiad cyffredinol 1847, safodd tri Ceidwadwr ar gyfer ddwy sedd Mynwy, y deiliaid Charles Octavius Swinnerton Morgan a Granville Somerset a chefnder Granville, Edward Arthur Somerset; cefnogodd Henry, 7fed Dug Beaufort a brawd Granville, eu cefnder. Bu Granville yn llwyddiannus, ond codwyd deiseb yn herio'r etholiad gan ei frawd a'i gefnder, bu farw Granville cyn i'r deiseb cael ei chlywed gyda rhai yn beio ei farwolaeth ar yr anghydfod teuluol.[3][4]

Etholiad cyffredinol 1847: Sir Fynwy
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Charles Octavius Swinnerton Morgan 2,334 34.5
Ceidwadwyr Yr Arglwydd Granville Somerset 2,230 33.1
Ceidwadwyr Edward Arthur Somerset 2,187 32.4
Mwyafrif 104
Mwyafrif 47
Y nifer a bleidleisiodd
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Marwolaeth golygu

Bu farw Somerset yn Harley Street, Llundain a'i gladdu ym mynwent Kensal Green, Llundain [5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Margaret Escott, ‘Somerset, Lord Granville Charles Henry (1792–1848)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, May 2009 adalwyd 14 Rhagfyr 2015
  2. The History of Parliament on line SOMERSET, Lord Granville Charles Henry (1792-1848), of Troy, Mon. [1] adalwyd 14 Rhagfyr 2015
  3. "THE PETITION AGAINST LORD GRANVILLE SOMERSET - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1847-12-18. Cyrchwyd 2015-12-14.
  4. "THE LATE LAMENTED LORD GRANVILLE SOMERSET - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1848-03-04. Cyrchwyd 2015-12-14.
  5. "The Funeral - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1848-03-04. Cyrchwyd 2015-12-14.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Arthur John Henry Somerset
Aelod Seneddol Sir Fynwy
18161848
Olynydd:
Edward Arthur Somerset