Edward Arthur Somerset
Roedd y Cadfridog Edward Arthur Somerset CB (2 Chwefror 1817 – 12 Mawrth 1886) yn filwr ym myddin Prydain ac yn wleidydd a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol etholaethau Sir Fynwy a Gorllewin Swydd Caerloyw.
Edward Arthur Somerset | |
---|---|
Ganwyd | 2 Chwefror 1817, 21 Chwefror 1817 ![]() |
Bu farw | 12 Mawrth 1886 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol ![]() |
Tad | Edward Somerset ![]() |
Mam | Louisa Augusta Courtenay ![]() |
Priod | Agatha Miles ![]() |
Plant | Agatha Georgiana Somerset, Evelyn Somerset, Ada Frances Somerset, Maude Catherine Somerset, Lillian Somerset, Edward William Henry Somerset, Blanche Louisa Somerset, Muriel Somerset, Hilda Somerset ![]() |
Gwobr/au | Cydymaith Urdd y Baddon ![]() |
Bywyd Personol golygu
Ganwyd Somerset yn Ffrainc, yn fab hynaf yr Arglwydd Robert Edward Henry Somerset a’i wraig yr Anrhydeddus Louisa Augusta Courtenay merch William Courtenay, 2il Is-iarll Courtenay o Gastell Powderham.
Priododd Agatha Miles ym 1849 yr oedd hi yn ferch i William Miles, Leigh court, Gwlad yr Haf. Bu iddynt 1 mab ac 8 merch:
- Agatha Georgiana Somerset (1850 - 10 Mai 1940), a briododd yr Uwch-gapten Charles Arthur Baldwyn Knyvett Leighton ar 10 Ebrill 1879 ni fu iddynt blant.
- Evelyn Somerset (20 Tachwedd 1857 - 1 Gorffennaf 1883), priododd George Caulfeild Prideaux Browne ar 7 Medi 1882 a bu farw wrth esgor.
- Ada Frances Somerset (1861 - 17 Mawrth 1949), priododd Syr Henry Mather-Jackson, 3ydd Barwnig ar 3 Awst 1886 bu iddynt bump o blant.
- Maude Catherine Somerset (1862 - 6 Mehefin 1946) a fu farw yn ddibriod
- Lillian Somerset (1864 - 22 Ionawr 1947), Priododd Syr Frederick Palmer, 6ed Barwnig ar 29 Rhagfyr 1892, bu iddynt dri mab.
- Yr Is-gapten Edward William Henry Somerset (25 Ionawr 1866 - 20 Mawrth 1890), a fu farw wrth wasanaethu yn y fyddin yn Burma [1]
- Blanche Louisa Somerset (1868 - 20 Awst 1946), briod John George Burdon ar 4 Chwefror 1892
- Muriel Somerset (1870 - 25 Tach 1951), priododd y Parch. William Neville ar 7 Tachwedd 1894
- Hilda Somerset (1872 - 16 Mai 1965) a ddaeth yn lliain.
Gyrfa golygu
Ymunodd Somerset a Brigâd y Reiffl fel ail is-gapten ym 1836, gan gael ei godi’n gapten ym 1845. Gwasanaethodd fel gwastrawd i’r Frenhines Adelaide o Saxe-Meiningen (gweddw William IV), hyd ei marwolaeth hi ym 1849[2]. Fe’i dyrchafwyd yn Is-gyrnol ym 1855, Cyrnol ym 1858, Cadfridog uwch-gapten ym 1860 ac yn Is-gadfridog ym 1881. Gwasanaethodd fel Cyrnol bataliwn cyntaf Catrawd Caerwrangon rhwng 1881 ac 1883 ac fel Cyrnol Penswyddog Corfflu Reiffl y Brenin o 1884 hyd ei farwolaeth ym 1886.
Gwasanaethodd yn Rhyfel y Kaffir (1852-1853). Bu’n brwydro yn Rhyfel y Crimea (1854-18550 gan wasanaethu ym mrwydrau Alma, Balaclava, Inkerman a Sebastapol. Am ei wasanaeth fe’i gwnaed yn farchog yn Urdd y Medjidie, marchog yr Urdd Anrhydedd ac yn Gymrawd yn Urdd y Baddon (CB).
Bu’n arwain brigâd yn Gibraltar rhwng 1873 a 1878, a bu’n llywodraethwr gweithredol y drefedigaeth rhwng 1875 a 1876.
Gyrfa Wleidyddol golygu
Yn etholiad cyffredinol 1857 safodd tri ymgeisydd Ceidwadol, gan gynnwys Edward Somerset, yn etholaeth Sir Fynwy ar gyfer y ddwy sedd oedd ar gael ond fe’i trechwyd gan ei gefnder yr Arglwydd Granville Somerset. Cafodd Edward ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel ail aelod y Blaid Geidwadol yn etholiad cyffredinol 1848 ac eto yn etholiadau 1852 a 1859[3]. Fe ymddeolodd o’r senedd ym 1859 [4].
Safodd fel ymgeisydd y ceidwadwyr yn etholaeth Gorllewin Sir Caerloyw mewn isetholiad ym 1867 ond collodd ei sedd i’r ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholiad cyffredinol 1868.
Marwolaeth golygu
Bu farw yn ei gartref Troy House, Llanfihangel Troddi yn 69 mlwydd oed ac fe’i claddwyd ym mynwent eglwys y pentref [5].
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "DEATHOFLIEUTEDWARDSOMERSET - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1890-03-22. Cyrchwyd 2017-08-23.
- ↑ Dod’s Parliamentary Companion 1852
- ↑ William Retlaw Williams The Parliamentary History of the Principality of Wales, from the Earliesr Times to the Present Day, 1541-1895 adalwyd 23 Awst 2017
- ↑ "MONMOUTHCOUNTYELECTION - The Illustrated Usk Observer and Raglan Herald". James Henry Clark. 1859-07-09. Cyrchwyd 2017-08-23.
- ↑ "FUNERAL OF GENERAL SOMERSET CB - South Wales Echo". Jones & Son. 1886-03-19. Cyrchwyd 2017-08-23.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Charles Octavius Swinnerton Morgan |
Aelod Seneddol Sir Fynwy 1848 – 1859 |
Olynydd: Poulett Somerset |