Gŵr busnes o Gymro oedd Griffith James Evans (Mai 18281901[1]), a fu'n flaenllaw yn natblygiad cynnar talaith Colorado yn yr Unol Daleithiau yng nghanol y 19g. Roedd yn adeg cythryblus yn hanes America: roedd y mewnfudwyr gwyn yn symud i ardaloedd newydd, i hawlio tir ar gyfer ffarmio neu i chwilio am fwynau gwerthfawr. Roedd y Rhyfel Cartref newydd ddod i ben, ond roedd yr ymladd gyda'r Indiaid brodorol yn parháu. Prin ddeuddeg mlynedd wedi i'r Ewropeaid cyntaf ddarganfod aur yn yr 1850au yn Nhiriogaeth Colorado (ni fyddai'n Dalaith am rai blynyddoedd eto) roedd Griff Evans, ei wraig Jane a'u plant Jennie a Llewellyn wedi ymsefydlu yno yn nyffryn St Vrain.

Griff Evans
Ganwyd1828 Edit this on Wikidata
Bu farw1901 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Blynyddoedd cynnar golygu

 
Adfeilion Adwy'r Waun, man geni Griff Evans

Ymfudodd Griff a Jane i America yn blant gyda'u teuluoedd o Sir Gaernarfon ar adegau gwahanol yn y 1840au, Griff o ardal Deiniolen a Jane o ardal Llanwnda. Roedd y ddau deulu ymhlith yr arloeswyr cynnar - y rhan fwyaf o ogledd Cymru - a ymsefydlodd yn Cambria, Swydd Columbia yn Wisconsin. Cafodd y Griff ifanc waith ar ffermydd yr ardal a dysgodd sgiliau hela a fyddai'n anhepgor iddo yn ystod ei fywyd. Yno cyfarfu â Jane Owen a phriodwyd y ddau yn Dodge County, Wisconsin yn 1855.

Pumed plentyn John a Jane Evans oedd Griff. Chwarelwr oedd John Evans; cyn i'r teulu fudo, roedd yn gweithio yn chwarel Dinorwig. Bu farw brawd Griff, Evan, mewn ffrwydriad yn y chwarel ym 1840 pan oedd yn 15 oed ac fe gafodd y tad, John, hefyd anaf yn y chwarel a effeithiodd arno am weddill ei oes.

Mae cofnod yn nodi man geni Griffith James Evans ym mis Mai 1828 fel "Adwy'r Waen". Yr unig le o'r enw yma y gwyddir amdano yw Adwy'r Waun, Cwm Brwynog, ar lethrau'r Wyddfa, sy'n un o nifer o furddunod sy'n nodi lle bu gynt gymdeithas glos. Erbyn cyfnod yr ymfudo, fodd bynnag, roedd y teulu yn byw yn Tan y Foel, Deiniolen.

Colorado golygu

Yn ôl yng Ngholorado, ym 1867, daeth cyfle euraid i ran Griff a Jane a'r teulu pan gynigiwyd gwaith iddyn nhw yn gofalu am ffarm wartheg - ranch - mewn cwm hardd o'r enw Estes Park. Roedd yr ardal yma o fewn cylch o fynyddoedd uchel y Rockies yn bell o unrhyw dref; 'doedd neb yn byw yno'n barhaol. Mae'r gair "Parc" yma'n ddisgrifiad o dir pori uchel yn hytrach na dynodiad swyddogol. Roedd wedi bod yn dir hela i'r llwythi Indiaid lleol am ganrifoedd, ac i ambell i ddyn gwyn yn fwy diweddar, ond pan gyrhaeddodd Griff a Jane a'u plant - erbyn hyn roedd bachgen arall - Evan - wedi'i eni - roeddynt ar ben eu hunain.

Yn y blynyddoedd i ddod, ffynnodd y teulu. Daeth pedwar plentyn arall, Nell, George, Florence (Floss) a John. Adeiladodd Griff gartref cysurus, a llwyddodd y teulu i ennill bywoliaeth dda trwy ofalu am wartheg eraill, prynu a gwerthu gwartheg eu hunain, hela, ac yn fuan iawn, fanteisio ar y twristiaid cynnar trwy gynnig llety iddyn nhw a rhoi eu gwasanaeth fel tywyswyr a hyfforddwyr pysgota a dringo. Roedd y mynyddoedd yn dechrau denu llawer o gerddwyr a dringwyr erbyn yr 1870au, ac enwau fel Pike's Peak a Long's Peak yn enwog.

Disgrifir Griff fel dyn byr, hwyliog a chymdeithasol, yn ddringwr medrus ac yn heliwr penigamp.[angen ffynhonnell] Roedd Jane yn gweithio'n galed fel ei gŵr i groesawu twristiaid, ac yn ddiweddarach, yn rhedeg Swyddfa Post yr ardal. Erbyn cyfnod y saethu, roedd Griff yn enwog trwy'r diriogaeth fel tywysydd abl ("un o'r goreuon a welais" medd un awdur)[angen ffynhonnell], fel ffarmwr, heliwr, fel gwestywr croesawgar a dyn diwylliedig a oedd yn gyfforddus yn sgwrsio gyda phawb. Yn ddiweddarach, daeth yn enwog hefyd oherwydd ei gysylltiad gydag Isabella Bird, y wraig anturus a arhosodd gyda'r teulu yn ystod ei hymweliad yn 1872. Ysgrifennodd am Griff a'r teulu yn ei llyfr adnabyddus A Lady's Life in the Rocky Mountains a gyhoeddwyd yn 1879.

Cyhuddiad o lofruddiaeth golygu

Roedd anghydfod rhwng Griff a'i gymydog Jim Nugent wedi bod yn ffrwtian ers misoedd. Roedd Jim (Rocky Mountain Jim fel y'i gelwid ef) wedi dod i Estes Park rai blynyddoedd ar ôl Griff, ac wedi adeiladu caban ar gyrion y Parc. Enillodd ef hefyd ei damaid trwy hela a thrwy arwain teithiau i dwristiaid. Ef oedd unig breswyliwr arall y cwm, yn byw ychydig dros ddwy filltir o gartre'r Evansiaid. Roedd yn sicr yn ddyn diddorol ac yn medru swyno cynulleidfa gyda'i straeon am ymladd gydag eirth a helyntion eraill. Roedd fodd bynnag yn cael ei gyfri'n ddyn gwyllt iawn, yn enwedig yn ei ddiod.

Roedd y ddau ddyn yn ddilornus o sgiliau'r naill a'r llall - ond roedd rhywbeth mwy na hyn yn achosi'r drwgdeimlad rhyngddyn nhw. Roedd y ddau'n casáu ei gilydd. Arferai Jim farchogaeth draw i gartre'r Evansiaid gyda dryll. Mae sôn fod y ddau ddyn wedi bygwth ei gilydd a bod y ddau'n yfed yn drwm. Dywedwyd hefyd fod Jim wedi bod yn llygadu merch hynaf Griff a Jane, sef Jennie.

Mae sawl fersiwn o hanes y digwyddiad y dydd Llun hwnnw, Mehefin 29ain 1874. Ond mae pawb yn cytuno gyda'r ffeithiau moel. Flynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd Llewellyn, mab hynaf Griff, wrth ei fab ei hun ei fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad.

Yn hwyr y prynhawn, daeth Mountain Jim draw i ffarm yr Evansiaid yng nghwmni dyn arall. Roedd yn cario dryll. Daeth Griff allan o'r tŷ, hefyd yn cario'i ddryll, gyda gŵr arall o'r enw Haigh. Yn y ffrwgwd a ddilynodd, saethwyd Jim gan Griff. Dywedir gan rai fod Haigh wedi'i annog i'w ladd.

Ond nid un o ddihirod y Gorllewin Gwyllt oedd Griff. A phan ymddangosodd o flaen y llys maes o law ar gyhuddiad o lofruddio Mountain Jim, 'doedd neb wedi ei synnu pan gytunodd y llys ei fod wedi gweithredu i amddiffyn ei deulu, ac fe'i rhyddhawyd yn ddiamod.

Gadael Estes Park golygu

 
Estes Park heddiw

Bu Griff a Jane fyw yn Estes Park hyd 1878, pan adawsant i fynd yn ôl i ddyffryn St Vrain i'r ardal a adnabyddir heddiw fel Lyons. Gallodd Griff fuddsoddi'r arian tra sylweddol a enillodd yn Estes Park mewn chwarel gerrig. Yn ddiweddarach, sefydlodd y teulu westy llwyddiannus - Evans House[2] - yn Jamestown ym mryniau Boulder County. Bu Jane yn cadw siopau ac yn rhedeg Swyddfa'r Post yno; yno hefyd mae'r ddau wedi eu claddu.

Heddiw, mae Griff Evans yn rhan annatod o hanes talaith Colorado ac yn cael ei gyfrif yn un o'i henwogion. Nid yn unig oherwydd drama saethu Mountain Jim, a'i gysylltiad gydag Isabella Bird ond hefyd oherwydd ei fod, fel un o'r arloeswyr cynnar, wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad yr ardal. Wedi i'r teulu ymsefydlu yn Jamestown, daethant i gynrychioli gwareidd-dra yng nghanol byd y mwynwyr a oedd yn aml yn ansefydlog a hyd yn oed yn anwaraidd. Roedd yr adloniant yng ngwesty'r Evansiaid yn boblogaidd iawn, yn cynnwys cyfarfodydd cymdeithasau llenyddol a thrafod, areithiau a dawnsfeydd yn ogystal â nosweithiau o gân a cherddoriaeth lle roedd Griff yn medru arddangos ei ddoniau cerddorol.

Yn y blynyddoedd diwethaf, dros ganrif ar ôl ei farwolaeth, mae Griff wedi bod yn destun drama ac yn ddelwedd ar grysau T i ddathlu Gorffennaf 4ydd yn Jamestown. Daw twristiaid i weld lle y bu'n byw, ac yn Lyons, mae stryd wedi'i henwi ar ei ôl.

Mae Estes Park yn awr yn ddinas fechan o ryw 6,000 o bobl, ar gyrion y Parc Cenedlaethol Mynyddoedd y Rockies, ac yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr. Mae safle'r cartref a adeiladodd Griff yno yn awr o dan y llyn, a ehangwyd yn y ganrif ddiwethaf.

Llyfryddiaeth golygu

Meredith, Luned (Chwefror 2013). Griff Evans: Cymro sy'n rhan o hanes Colorado, Rhifyn 19. Llafar Gwlad

(Mae rhan helaeth o'r uchod wedi ei gopïo gair-am-air o'r erthygl Llafar Gwlad gyda chaniatâd yr awdur a'r cyhoeddwr)

Cyfeiriadau golygu

  1. Carreg fedd Griffith Evans ar findagrave.com
  2. Llun o Evans House, Jamestown (X-9564) o Gasgliadau Digidol Llyfrgell Gyhoeddus Denver