Rockies

Mynyddoedd sy'n ymestyn ar hyd ochr orllewinol Gogledd America yw'r Rockies[1] neu'n achlysurol Mynyddoedd Creigiog[2] (Saesneg: Rocky Mountains). Maent yn ymestyn am dros 4,800 km (3,000 o filltiroedd) o ran ogleddol British Columbia, Canada, hyd New Mexico yn yr Unol Daleithiau. Y mynydd uchaf yw Mynydd Elbert, Colorado, sy'n 4,401 m (14,440 troedfedd) o uchder. I'r dwyrain o'r Rockies mae'r Gwastadeddau Mawr.

Rockies
Moraine Lake 17092005.jpg
Mathmynyddoedd nad ydynt yn gysylltiedig, yn ddaearegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBritish Columbia, Alberta, Idaho, Montana, Wyoming, Utah, Colorado, Mecsico Newydd Edit this on Wikidata
GwladCanada, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.5°N 113.5°W Edit this on Wikidata
Hyd4,800 cilometr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolCretasaidd, Cyn-Gambriaidd Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddAmerican Cordillera Edit this on Wikidata
RockyMountainsLocatorMap.png
Deunyddmetamorphic rock, Craig igneaidd, craig waddodol Edit this on Wikidata

Dyma'r system fynyddoedd fwyaf yng Ngogledd America. Mae ei bwynt mwyaf deheuol ger ardal Albuquerque ger Basn Rio Grande.

Ffurfiwyd y Rockies 80 miliwn i 55 miliwn o flynyddoedd yn ôl (Cyn y Presennol) yn ystod y Cretasaidd Hwyr, pan ddechreuodd nifer o blatiau tectonig lithro o dan blât Gogledd America. Roedd ongl y subduction yn fas, gan arwain at gadwyn eang o fynyddoedd yn codi ar hyd gorllewin Gogledd America. Ers hynny, mae gweithgaredd tectonig pellach ac erydiad gan rewlifoedd wedi cerflunio'r Rockies yn gopaon a chymoedd dramatig. Ar ddiwedd yr oes iâ ddiwethaf (Rhewlifiant Cwaternaidd) dechreuodd bodau dynol fyw yn y mynyddoedd hyn. Ar ôl i Ewropeaid fel Syr Alexander Mackenzie, a Lewis a Clark archwilio'r gadwen, ecsbloitiwyd y mynydoedd o'u hadnoddau naturiol ee mwynau a ffwr ond ni chafwyd gor-drefoli yma erioed.

O'r 100 copa uchaf ym Mynyddoedd y Rockies, mae 78 (gan gynnwys y 30 uchaf) wedi'u lleoli yn nhalaith Colorado, deg yn Wyoming, chwech ym Mecsico Newydd, tri yn Montana, ac un yn Utah. Amddiffyn llawer o'r mynyddoedd gan barciau cyhoeddus a choedwigoedd ac maent yn gyrchfannau poblogaidd i dwristiaid, yn enwedig ar gyfer heicio, gwersylla, mynydda, pysgota, hela, beicio mynydd, cysgodi eira, sgïo ac eirafyrddio.

GeirdarddiadGolygu

Mae enw'r mynyddoedd yn gyfieithiad o enw Amerindiaidd yr iaith Cree as-sin-wati fel, "O edrych arnyn nhw o bob rhan o'r paith, mae nhw'n edrych fel lympiau creigiog". Cofnodwyd yr enw am y tro cyntaf yn y Ffrangeg, yng nghyfnodolyn Jacques Legardeur de Saint-Pierre ym 1752, lle cawsant eu galw'n "Montagnes de Roche".[3][4]

DaearyddiaethGolygu

 
Copaon y Gadwen Teton yn Wyoming

Y Rockies yw'r rhan fwyaf dwyreiniol o Gordillera Gogledd America. Fe'u diffinnir yn aml fel mynyddoedd sy'n ymestyn o Afon Liard yn British Columbia[5]  i'r de i flaenddyfroedd Afon Pecos, un o lednentydd y Rio Grande, yn Mecsico Newydd. Mae'r Rockies yn amrywio o ran lled o 70 i 300 milltir (110 – 480 km). Mae'r Rockies yn cynnwys y copaon uchaf yng nghanol Gogledd America, a chopa uchaf yr ystod yw Mount Elbert yn Colorado sy'n 14,440 troedfedd (4,401 metr) uwch lefel y môr. Mynydd Robson yn British Columbia, sy'n 12,972 troedfedd yw copa uchaf Rockies Canada.

Mae ymyl ddwyreiniol y Rockies yn codi'n ddramatig uwchben Gwastadeddau Mewnol canol Gogledd America, gan gynnwys Mynyddoedd Sangre de Cristo ym Mecsico Newydd a Colorado, Bryniau Blaen Colorado, Bryniau Afon Gwynt a Mynyddoedd Big Horn Wyoming, mynyddoedd yr Absaroka - Beartooth a Rocky Mountain Front ym Montana a Mynyddoedd Clark yn Alberta

Mae canol y Rockies yn cynnwys Bryniau La Sal ar hyd ffin Utah -Colorado, Bryniau Uinta Utah a Wyoming, a Mynyddoedd Teton Wyoming ac Idaho.

Mae ymyl orllewinol y Rockies yn cynnwys ystodau fel y Wasatch ger Salt Lake City, Mynyddoedd San Juan ym Mecsico Newydd a Colorado, y Bitterroots ar hyd ffin Idaho-Montana, a'r Sawtoothiaid yng nghanol Idaho. M

Yng Nghanada, mae ymyl orllewinol y Rockies yn cael ei ffurfio gan Ffos y Rockies, sy'n rhedeg ar hyd British Columbia.[6]

Ffin flaen y Rockies ger Denver, Colorado

DaearegGolygu

Ffurfiwyd creigiau'r Rockies cyn i'r mynyddoedd gael eu codi gan rymoedd tectonig. Y graig hynaf yw'r graig fetamorffig Cyn-Gambriaidd sy'n ffurfio craidd cyfandir Gogledd America. Ceir yma hefyd gleifaen (argillite) gwaddodol Cyn-Gambriaidd, sy'n dyddio'n ôl i 1.7 biliwn o flynyddoedd CP. Yn ystod y Paleosöig, roedd gorllewin Gogledd America yn gorwedd o dan fôr bas, a gosodwyd haen ar ben haen o dyddodiad - sawl cilometrau o galchfaen a dolomit.[5]

 
Mae rhewlifoedd, fel Rhewlif Jackson ym Mharc Cenedlaethol y Rhewlif, Montana wedi siapio'r Rockies yn ddramatig.

Yn y Rockies deheuol, ger Colorado heddiw, aflonyddwyd ar y creigiau hyn tua 300 megaannum (neu Ma), yn ystod y Pennsylvanian (un o isgyfnodau'r Carbonifferaidd). Yn y cyfnod hwn yr adeiladwyd mynyddoedd hynafol y Rockies. Fe'u gwnaed yn rhanol o graig fetamorffig Cyn-Gambriaidd a orfodwyd i fyny trwy haenau o'r garreg galch a osodwyd yn y môr bas.[7] Erydodd y mynyddoedd trwy gydol y cyfnod Paleosöig hwyr a Mesosöig cynnar, gan adael dyddodion helaeth o graig waddodol.

Ecoleg a'r hinsawddGolygu

 
Twyni Tywod Mawr Colorado

Mae yna ystod eang o amgylcheddau gwahanol yn y Rockies, sy'n amrywio mewn lledred rhwng Afon Liard yn British Columbia (ar 59 ° Gog) a'r Rio Grande ym Mecsico Newydd (ar 35 ° Gog). Ceir paith ar 1,800 troedfedd (550 m); y copa uchaf yn y mynyddoedd yw Mynydd Elbert ar 14,440 tr (4,400 m).

Mae'r dyodiad yn amrywio o 10 mod (250 mm) yn y cymoedd deheuol i 60 mod (1,500 mm) y flwyddyn yn y copaon gogleddol. Gellir cymharu hyn gyda dyodiad ar y Grib Goch ym Mharc Cenedlaethol Eryri, un o'r mannau gwlypaf yn y Deyrnas Unedig, gyda glawiad o 4,473 milimetr (176.1 mod) ar gyfartaledd y flwyddyn dros y 30 mlynedd diwethaf.

Gall tymereddau cyfartalog mis Ionawr amrywio o 20 °F (−7 °C) ym Mwlch y Tywysog George, British Columbia, i 43 °F (6 °C) yn Trinidad, Colorado.[8] Felly, nid oes yr un ecosystem cyson ar gyfer y Rockies cyfan.

Yn hytrach, mae ecolegwyr yn rhannu'r Mynydd Creigiog yn nifer o barthau biotig. Diffinnir pob parth gan y meincnod " a all coed dyfu yno, a phresenoldeb un neu fwy o rywogaethau dangosol. Dau barth lle na all coed dyfu yw'r Paith (rhy sych) a'r twndra Alpaidd (rhy oer). Gorwedd y Gwastadeddau Mawr (The Great Plains) i'r dwyrain o'r Rockies ac fe'i nodweddir gan laswelltau paith (islaw tua 1,800 tr / 550 m). Mae twndra alpaidd i'w gael mewn rhanbarthau uwchlaw'r llinell goed, sy'n amrywio o 12,000 tr (3,700 m) ym Mecsico Newydd i 2,500 tr (780 m) ym mhen gogleddol y Rockies, ger yr Yukon.[8]

 
Mae defaid bighorn (fel yr oen hwn yn Alberta ) wedi lleihau'n ddramatig o ran nifer, ers dyfodiad y dyn gwyn

Mae'r Rockies yn gynefin pwysig i lawer iawn o fywyd gwyllt adnabyddus, fel bleiddiaid, yr elc, moose, mul-geirw a cheirw cynffon-wen, pronghorn, geifr mynydd, defaid corn hir, moch daear, eirth duon, eirth gwynion, coyotes, lyncsau, cougars, a bolgwn.[9][10] Er enghraifft, mae buchesi mwyaf Gogledd America o'r mŵs yn y coedwigoedd ar lethrau byniau Alberta-British Columbia.

Ni wyddys beth yw statws y mwyafrif o rywogaethau yn y Rockies, oherwydd gwybodaeth anghyflawn. Mae dyfodiad y dyn gwyn wedi cael effaith andwyol ar rywogaethau brodorol. Ceir llawer o rywogaethau sydd wedi dirywio, gan gynnwys: llyffantod gorllewino, brithyll torch gwyrdd, styrsiynod gwyn, grugieir gynffonwen, elyrch utganol, a defaid bighorn. Yn rhan yr Unol Daleithiau o'r mynyddoedd, roedd y prif ysglyfaethwyr fel eirth gwyn a bleiddiaid wedi cael eu tynnu allan o'u cynefinoedd gwreiddiol, ond maent wedi cynyddu o ran niferoedd, yn rhannol oherwydd mesurau cadwraeth ac ailgyflwyno. Mae rhywogaethau eraill sy'n cynyddu'n cynnwys yr eryr moel a'r hebog tramor.[9]

HanesGolygu

Pobl frodorolGolygu

Ers yr oes iâ fawr ddiwethaf, a than yn ddiweddar, bu'r Rockies yn gartref i'r bobl frodorol America, gan gynnwys: yr Apache, Arapaho, Bannock, Blackfoot, Cheyenne, Coeur d'Alene, Kalispel, Crow Nation, Flathead, Shoshone, Sioux, Ute, Kutenai (Ktunaxa yn Canada), Sekani, Dunne-za, ac eraill. Bu Paleo-Indiaid yn hela'r mamoth a'r bual hynafol sydd bellach wedi diflannu (anifail a oedd 20% yn fwy na'r bison modern) yng nghesail a chymoedd y mynyddoedd. Fel y llwythau modern a'u dilynodd, mae'n debyg bod Paleo-Indiaid wedi mudo i'r gwastadeddau yn yr hydref a'r gaeaf i ddal bualod ac i'r mynyddoedd yn y gwanwyn a'r haf i ddal pysgod, ceirw, elc, gwreiddiau ac aeron. Yn Colorado, ynghyd â chrib y Rhaniad Cyfandirol, mae waliau creigiau a godwyd gan yr Americanwyr Brodorol hyn ar gyfer gyrru gêm, ac sy'n dyddio'n ôl 5,400-5,800 o flynyddoedd. Mae corff cynyddol o dystiolaeth wyddonol yn dangos bod y bobl frodorol wedi cael effaith bositif a sylweddol ar niferoedd y mamaliaid trwy hela ac ar batrymau llystyfiant trwy losgi bwriadol.[9]

Archwiliad EwropeaiddGolygu

Mae hanes dynol diweddar y Rockies yn un o newid cyflymach. Martsiodd yr archwiliwr gwyn, Sbaenaidd Francisco Vázquez de Coronado - gyda grŵp o filwyr, cenhadon, a chaethweision Affricanaidd - i ardal y Rockies o'r de ym 1540.[11] Yn 1610, sefydlodd y Sbaenwyr ddinas Santa Fe, sedd lywodraethol hynaf yr Unol Daleithiau, wrth droed y Rockies ym Mecsicio Newydd heddiw. Cyflwynwyd y ceffyl, offer metel, reifflau ac afiechydon newydd i'r ardal, gan ladd a newid a diwylliannau brodorol yn sylweddol. Cafodd poblogaethau brodorol America eu tynnu o'r rhan fwyaf o'u hardaloedd hanesyddol gan afiechyd, rhyfela, colli cynefinoedd (dileu'r bual), ac ymosodiadau parhaus ar eu diwylliant.[9] Rhoddwyd llawer mewn Neilldiroedd Indiaidd a oedd yn dal i fodoli yn 2021.

 
Mwyngloddio am arian; Aspen, Colorado; 1898

Ym 1739, darganfu'r masnachwyr ffwr o Ffrainc, Pierre a Paul Mallet, wrth deithio trwy'r Gwastadeddau Mawr (y Great Plains) gadwynni o fynydddoedd wrth flaenddyfroedd Afon Platte, a alwodd gan y llwythau brodorol, lleol yn "Rockies", gan ddod yr Ewropeaid cyntaf i gyfnodi fod y Rockies yn bodoli.[12]

Aeth miloedd trwy'r Rockies ar Lwybr Oregon (the Oregon Trail) gan ddechrau yn y 1840au.[13] Dechreuodd y Mormoniaid ymgartrefu ger Llyn Great Salt ym 1847.[14] Rhwng 1859 a 1864, darganfuwyd aur yn Colorado, Idaho, Montana, a British Columbia, gan sbarduno sawl rhuthr am aur, gan ddod â miloedd o chwilwyr a glowyr i archwilio pob mynydd, clogyn a cheunant ac i greu diwydiant mawr cynta'r Rockies. Cynhyrchodd rhuthr am aur Idaho yn unig fwy o aur na rhuthr am aur California ac Alaska gyda'i gilydd, ac roedd yr arian hwn yn bwysig wrth ariannu Byddin yr Undeb yn ystod Rhyfel Cartref America. Cwblhawyd y rheilffordd draws-gyfandirol ym 1869,[15] a sefydlwyd Parc Cenedlaethol Yellowstone fel parc cenedlaethol cynta'r byd ym 1872.[16][17] Fe wnaeth swyddogion rheilffordd Canada hefyd argyhoeddi'r Senedd i neilltuo rhannau helaeth o Rockies Canada fel Parciau Cenedlaethol Jasper, Banff, Yoho a Llynnoedd Waterton, gan osod y sylfaen ar gyfer diwydiant twristiaeth sy'n ffynnu hyd heddiw. Sefydlwyd y Glacier National Park (MT) gyda'r nod o hyrwyddo twristiaeth gan Reilffordd Fawr y Gogledd (y Great Northern Railway).[18] Tra bod ymsefydlwyr yn rheibio'r cymoedd, yn codi trefi mwyngloddio ac yn lladd y bual, dechreuodd y syniad o gadwraeth hefyd gydio. Sefydlodd yr Arlywydd yr UD Benjamin Harrison sawl gwarchodfa goedwig yn y Rockies ym 1891-1892. Ym 1905, estynnodd Arlywydd yr UD Theodore Roosevelt Medicine Bow Forest Reserve i gynnwys yr ardal a reolir bellach fel Parc Cenedlaethol Rocky Mountain. Dechreuodd datblygu economaidd ganolbwyntio ar fwyngloddio, coedwigaeth, amaethyddiaeth a hamdden, yn ogystal ag ar y diwydiannau gwasanaeth cefnogol. Trodd gwersylloedd o bebyll yn ffermydd, a throdd y caerau amddiffynol a'r gorsafoedd trên yn drefi, a daeth rhai trefi'n ddinasoedd.[9]

Diwydiant a datblygiadGolygu

 
Platfform drilio am nwy naturiol, ger Bryniau Afon Gwynt

Mae adnoddau economaidd y Rockies yn amrywiol ac yn doreithiog. Ymhlith y mwynau a geir yn y Rockies mae dyddodion sylweddol o gopr, aur, plwm, molybdenwm, arian, twngsten, a sinc. Mae Basn Wyoming a sawl ardal lai yn cynnwys cronfeydd sylweddol o lo, nwy naturiol, siâl olew a phetroliwm.

Araf iawn y gwelwyd technoleg gwyrdd ac ynni gwyrdd yn y Rockies. Mwynglawdd Climax, a leolir ger Leadville, Colorado, oedd y cynhyrchydd mwyaf o folybdenwm yn y byd. Defnyddir molybdenwm mewn dur sy'n gwrthsefyll gwres mewn nwyddau fel ceir ac awyrennau. Roedd mwynglawdd Climax yn cyflogi dros 3,000 o weithwyr. Mae mwynglawdd Coeur d'Alene yng ngogledd Idaho'n cynhyrchu arian, plwm a sinc. Gger Fernie, British Columbia, saif pyllau glo mwyaf Canada; mae mwyngloddiau glo ychwanegol yn parhau heddiw (2021) ger Hinton, Alberta, ac yn y Northern Rockies o amgylch Tumbler Ridge, British Columbia.[9]

Mae amaethyddiaeth a choedwigaeth yn ddiwydiannau mawr ac yn cynnwys tir sych a ffermio drwy ddyfrio cyson a phori da byw. Symudir y da byw yn aml rhwng porfeydd haf uchel a phorfeydd gaeaf drychiad isel, arfer a elwir yn transhumance ond a adnabyddir yn hanesyddol yng Nghymru fel 'hafod a hendre'.[9]

TwristiaethGolygu

Bob blwyddyn mae'r golygfeydd a'r bywyd gwyllt yn denu miliynau o dwristiaid.[9] Prif iaith y Mynyddoedd Creigiog yw'r Saesneg ond mae yna hefyd bocedi o Sbaeneg ac ieithoedd brodorol.

Mae pobl o bob cwr o'r byd yn ymweld â'r safleoedd i heicio, gwersylla, neu gymryd rhan mewn chwaraeon mynydd.[9][19] Yn nhymor yr haf, yr atyniadau twristaidd mwyaf yw:

Yn yr Unol Daleithiau:

  • Parc Cenedlaethol Yellowstone
  • Parc Cenedlaethol Rhewlif
  • Parc Cenedlaethol Grand Teton
  • Parc Cenedlaethol Rocky Mountain
  • <i>Great Sand Dunes National Park and Preserve</i>
  • Ardal Hamdden Genedlaethol Sawtooth
  • Llyn Flathead

Yng Nghanada, mae'r mynyddoedd yn cynnwys y parciau cenedlaethol hyn:

  • Parc Cenedlaethol Banff
  • Parc Cenedlaethol Jasper
  • Parc Cenedlaethol Kootenay
  • Parc Cenedlaethol Llynnoedd Waterton
  • Parc Cenedlaethol Yoho

Mae Parc Cenedlaethol Rhewlif (Glacier National Park) yn Montana a Pharc Cenedlaethol Llynnoedd Waterton yn Alberta yn ffinio â'i gilydd ac fe'u gelwir gyda'i gilydd yn Barc Heddwch Rhyngwladol Waterton-Glacier.

Yn y gaeaf, sgïo yw'r prif atyniad, gyda dwsinau o ardaloedd sgïo a chyrchfannau gwyliau.

CyfeiriadauGolygu

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 60.
  2. Geiriadur yr Academi (6ed argraffiad, 2006), t. 1180.
  3. Ak rigg, G.P.V.; Akrigg, Helen B. (1997). British Columbia Place Names (arg. 3rd). Vancouver, BC: UBC Press. t. 229. ISBN 978-0-7748-0636-7. Cyrchwyd September 2, 2015.
  4. Mardon, Ernest G.; Mardon, Austin A. (2010). Community Place Names of Alberta (arg. 3rd). Edmonton, AB: Golden Meteorite Press. t. 283. ISBN 978-1-897472-17-0. Cyrchwyd September 2, 2015.
  5. 5.0 5.1 Gadd, Ben (1995). Handbook of the Canadian Rockies. Corax Press. ISBN 9780969263111. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "gadd1" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  6. Cannings, Richard (2007). The Rockies: A Natural History. Greystone/David Suzuki Foundation. t. 5. ISBN 978-1-55365-285-4.
  7. Chronic, Halka (1980). Roadside Geology of Colorado. ISBN 978-0-87842-105-3.
  8. 8.0 8.1 Sheridan, Scott. "US & Canada: Rocky Mountains (Chapter 14)" (PDF). Geography of the United States and Canada course notes. Kent State University. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar September 1, 2006. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Sheridan" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 9.5 9.6 9.7 9.8 Nodyn:USGS
  10. "Rocky Mountains | mountains, North America". Encyclopædia Britannica (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 12, 2017. Cyrchwyd August 12, 2017.
  11. "Events in the West (1528–1536)". 2001. Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 10, 2012. Cyrchwyd April 15, 2012.
  12. "The West: Events from 1650 to 1800". PBS. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 6, 2011.
  13. "Oregon Trail Interpretive Center". Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 4, 2016. Cyrchwyd April 15, 2012.
  14. "The Mormon Trail". Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 5, 2012. Cyrchwyd April 15, 2012.
  15. "The Transcontinental Railroad". 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 12, 2012. Cyrchwyd April 15, 2012.
  16. "Yellowstone National Park". April 4, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 7, 2015. Cyrchwyd April 15, 2012.
  17. "Canadian Pacific Railway". Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 20, 2012. Cyrchwyd April 15, 2012.
  18. "Glaciers and Glacier National Park". 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 17, 2013. Cyrchwyd April 15, 2012.
  19. "Rocky Mountain National Park". National Park Foundation (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 4, 2017. Cyrchwyd August 12, 2017.