Griffith Rhys Jones
gof ac arweinydd cerddorol
Arweinydd cerddorol Cymreig oedd Griffith Rhys Jones, neu Caradog (21 Rhagfyr 1834 – 4 Rhagfyr 1897). Roedd yn adnabyddus fel arweinydd y "Côr Mawr" o tua 460 llais (Undeb Corawl De Cymru; y South Wales Choral Union), a enillodd y wobr gyntaf ddwywaith yng nghystadleuathau corawl y Palas Crisial (Crystal Palace) yn Llundain yn y 1870au.
Griffith Rhys Jones | |
---|---|
Cerflun Caradog yn Aberdâr. | |
Ganwyd | 21 Rhagfyr 1834 Trecynon |
Bu farw | 4 Rhagfyr 1897 |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | arweinydd |
- Am y digrifwr cyfoes o'r un enw gweler Griff Rhys Jones.
Ganed Griffith Rhys Jones yn Nhrecynon, ger Aberdâr, yng Nghwm Cynon, Morgannwg. Gweithiai fel gof yng Ngwaith Haearn Aberdâr ym mhentref Llwydcoed.
Fe'i claddwyd ym Mynwent Aberdâr, ger ei bentref genedigol.
Yn 1920 codwyd cerflun er anrhydedd iddo a gynlluniwyd gan Syr William Goscombe John yn Sgwar Fictoria, Aberdâr.
Dolenni allanol
golygu- Deunydd archif am Griffith Rhys Jones ar wefan Casglu'r Tlysau Archifwyd 2007-08-19 yn y Peiriant Wayback
- Lluniau o feddrod Caradog ym Mynwent Aberdâr Archifwyd 2008-11-21 yn y Peiriant Wayback